Postgraduate Prospectus - WELSH

MPHIL/PHD RHEOLI BUSNES

DOETHUR MEWN GWEINYDDU BUSNES (DBA) Rhan-amser (4 blynedd) Ffioedd Dysgu Bob Blwyddyn yn y DU/UE: Rhan-amser - £7,250 Ffioedd Dysgu Rhyngwladol Bob Blwyddyn: Rhan-amser - £7,250 *Sylwer y gall y ffioedd hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe yn ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser a gynlluniwyd ar gyfer uwch-reolwyr ac arweinwyr ym mhob sector; preifat, cyhoeddus a'r sector nid er elw. Ar y rhaglen hon, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag ymchwil gymhwysol, gan ddefnyddio damcaniaeth sefydledig ac arloesol i ymdrin â materion ymarferol eu sefydliadau. Byddwch yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eich maes yn ogystal â chyfrannu at ein dealltwriaeth o sylfaen ddamcaniaethol y gwaith. Mae ymagwedd strwythuredig DBA Abertawe yn seiliedig ar chwe modiwl dros dair blynedd, cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd, trafodaethau mewn gweithdai a chyflwyniadau myfyrwyr. Byddwch yn datblygu traethawd ymchwil y ddoethuriaeth dan arweiniad tîm goruchwylio a gaiff ei ddynodi ar ddechrau'r rhaglen. Mae DBA Ysgol Reolaeth Abertawe wedi'i chynllunio i feithrin meddylwyr ac ymarferwyr beirniadol a fydd yn myfyrio ar eu heffaith ar eu sefydliadau a chymdeithas ehangach.

MPhil: Amser llawn (2 flynedd)/Rhan-amser (4 blynedd) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE Amser llawn £4,400/Rhan-amser - £2,200 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: Amser llawn £16,100/Rhan-amser - £8,100 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. PhD: Amser llawn (3 blynedd)/Rhan-amser (6 blynedd) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: Amser llawn £4,400/Rhan-amser - £2,200 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: Amser llawn £16,100/Rhan-amser - £8,100 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn Mae byd busnes yn gymhleth; boed ar lefel leol neu fyd-eang, mae’n datblygu drwy’r amser yn unol â newidiadau mewn marchnadoedd byd-eang. Mae gallu busnes i fod yn hyblyg, i ragweld risg a rheoli problemau yn bwysicach nag erioed; mae tirwedd busnes wedi newid. Drwy astudio am PhD/MPhil mewn Rheoli Busnes, cewch gyfle i greu argraff ar y dirwedd hon. Bydd gennych ryddid i archwilio amrywiaeth helaeth o ddisgyblaethau busnes, o ymddygiad defnyddwyr, busnes a strategaeth a chysylltiadau rhyngwladol i entrepreneuriaeth, rheoli adnoddau dynol a gweithrediadau a rheoli cadwyni cyflenwi. Cewch gyfle i ddylanwadu ar ddiwydiant ac archwilio’r elfennau amrywiol sy’n llywio busnes. Ar ôl cwblhau PhD/MPhil mewn Rheoli Busnes, bydd gennych fantais sylweddol dros eraill wrth i chi ddechrau eich gyrfa mewn busnes neu yn y gymuned academaidd.

I gael gwybodaeth am gyfadran a grwpiau ymchwil presennol yr Ysgol, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil

58

Made with FlippingBook HTML5