Postgraduate Prospectus - WELSH

Mae’r Athro Harvey yn ymddiddori yn natur newidiol cysylltiadau gweithwyr, rôl undebau llafur yn y paradeim perfformiad uchel a llais y gweithwyr mewn moeseg busnes a chyfrifoldeb corfforaethol. Mae ei ymchwil hyd yn hyn wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar y diwydiannau hedfan sifil a ffitrwydd. Cyn ei yrfa academaidd, bu’n gweithio ym meysydd rheoli gweithgynhyrchu a recriwtio lefel uwch. Mae’r Athro Harvey yn ymddiddori yn natur newidiol cysylltiadau gweithwyr, rôl undebau llafur yn y paradeim perfformiad uchel a llais y gweithwyr mewn moeseg busnes a chyfrifoldeb corfforaethol. Mae ei ymchwil hyd yn hyn wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar y diwydiannau hedfan sifil a ffitrwydd. Cyn ei yrfa academaidd, bu’n gweithio ym meysydd rheoli gweithgynhyrchu a recriwtio lefel uwch. Mae wedi cyhoeddi ei ymchwil mewn amrywiaeth o gyfnodolion megis Work, Employment and Society, European Journal of Industrial Relations, Journal of Business Ethics, Human Resource Management Journal, International Journal of Human Resource Management and Employee Relations, a chyhoeddwyd traethawd ymchwil ei PhD fel llyfr gan Routledge: Management in the Airline Industry. Mae’r Athro Harvey yn aelod academaidd o’r Sefydliad Personél a Datblygu Siartredig ac yn Uwch-gymrawd o’r Academi Addysg Uwch, Ymunodd yr Athro Harvey â Bwrdd Golygyddol y cyfnodolyn Human Relations (10fed yn rhestr y Financial Times o’r 50 cyfnodolyn gorau ym mis Awst 2017).

EFFAITH GYFFREDINOL (FFRAMWAITH RHAGORIAETH YMCHWIL (REF) 2014-21) Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn mesur ansawdd ymchwil mewn prifysgolion yn y DU. Mae ymchwil gan yr Athro Harvey ym Mhrifysgol Abertawe wedi dadansoddi ymatebion rheolwyr i’r heriau a wynebwyd gan y cwmnïau hedfan yn sgil 9/11 ac argyfwng ariannol 2007 ac effaith y rhain ar gysylltiadau gweithwyr. Mae’r ymchwil wedi codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o bwysigrwydd allweddol cysylltiadau cadarnhaol â gweithwyr yn y diwydiant hedfan sifil. Mae’r canfyddiadau wedi dylanwadu ar drafodaethau Deialog Gymdeithasol y Comisiwn Ewropeaidd rhwng cynrychiolwyr sefydliadau a gweithwyr Ewropeaidd. Ariannwyd ei ymchwil gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol: sefydliad sy’n dod â llywodraethau, cyflogwyr a gweithwyr 187 o aelod-wladwriaethau ynghyd i bennu safonau llafur, llunio polisïau a dyfeisio rhaglenni sy’n hyrwyddo gwaith teg.

62

Made with FlippingBook HTML5