Postgraduate Prospectus - WELSH

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn hapus i gynnig cymorth ariannol i’r ymgeiswyr mwyaf disglair. Nid rhagoriaeth academaidd yn unig sy’n cael ei gwobrwyo – rydym hefyd yn cydnabod ac yn annog angerdd am astudio a chyfranogiad mewn bywyd myfyrwyr. Mae nifer o ffynonellau cyllid ar gael ar gyfer graddau a addysgir ac ymchwil. Am ragor o wybodaeth ewch i: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ysgoloriaethau YSGOLORIAETH DATLYGU DYFODOL £3,000 am un flwyddyn academaidd – yn agored i ddeiliaid cynnig a chaiff y cyfanswm ei ddidynnu’n awtomatig o ffioedd dysgu. Mae ein rhaglen Datblygu Dyfodol yn fwy na phecyn ysgoloriaeth: yn ogystal â chymorth ariannol am flwyddyn academaidd, byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau a fydd yn gwella eich gyrfa. Caiff derbynyddion yr ysgoloriaeth gyfle i weithio gyda’r timau Recriwtio a Marchnata ar nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld, ac i weithio gyda’r Swyddfa Gwybodaeth Myfyrwyr hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am ein Hysgoloriaeth Datblygu Dyfodol ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ ysgoloriaeth-datblygu-dyfodol DYFARNIADAU ÔL-RADDEDIG I GYN-FYFYRWYR RHYNGWLADOL (hyd at £5,000 y flwyddyn) Mae’r cynllun yn agored i holl gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n cyflwyno cais i astudio am radd ôl-raddedig a addysgir neu ymchwil mewn unrhyw faes pwnc. CYLLID SYDD AR GAEL

TOP £89 RHENT WYTHNOSOL AR GYFARTALEDD (totallymoney.com 2019) 10

UCHAF Y DU TEF PRIFYSGOL MWYAF FFORDDIADWY (totallymoney.com 2019)

YSGOLORIAETH RHAGORIAETH RYNGWLADOL

I fod yn gymwys i ymgeisio am Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ryngwladol (hyd at £4,000), rhaid bod ymgeiswyr eisoes wedi dangos rhagoriaeth academaidd neu raid bod ganddynt y potensial i wneud hynny yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Dyfernir ysgoloriaethau drwy ostyngiad ar ffioedd dysgu. swansea.ac.uk/international-students/ my-finances/international-scholarships YSGOLORIAETH CHWARAEON Ar gyfer myfyrwyr sy’n dangos gallu rhagorol yn eu camp, mae ein rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon yn caniatáu i ni gefnogi athletwyr dawnus i wireddu eu potensial a chyflawni eu nodau chwaraeon wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe. swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/ chwaraeon/perfformiad-ac-ysgoloriaethau/ tass-ac-ysgoloriaethau Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr o Gymru/yr UE a fydd yn dechrau cyrsiau meistr ym mis Medi 2020. Bydd hyn ar ffurf bwrsariaethau nad oes rhaid eu had- dalu a weinyddir yn unigol gan bob prifysgol yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ewch i: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ ysgoloriaethau GWEINYDDU BUSNES, MBA Mae ysgoloriaethau ar gael yn benodol ar gyfer y rhaglen hon. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: swansea.ac.uk/cy/ ysgol-reolaeth/mba BWRSARIAETHAU ÔL-RADDEDIG LLYWODRAETH CYMRU

63

Made with FlippingBook HTML5