BODEN ANNE BSc Cyfrifiadureg a Chemeg, 1981. PRI F SWYDDOG GWEI THREDU, STARL ING BANK.
Wedyn, byddai rhaid i chi fynd yn ôl i fyny i’r ystafell gwyddorau cyfrifiadura a gwneud addasiadau angenrheidiol i’r rhaglen cyn mynd drwy’r broses gyfan eto. Roeddwn i’n ffit iawn yn y dyddiau hynny gyda’r holl redeg i fyny ac i lawr y grisiau. Beth wnaethoch chi ar ôl graddio o Abertawe? Roeddwn i’n ddifrifol iawn am sicrhau swydd a dechreuais i gynllunio beth byddwn i’n ei wneud o’r ail flwyddyn yn Abertawe a threuliais i lawer o amser yn y swyddfa yrfaoedd. Ar ôl llawer o chwilio i weld beth oedd ar gael, fe wnes i gais am swydd yn dadansoddi paent ar gyfrifiadur yn Zurich, un arall am weithio yn y diwydiant amddiffyn ac un arall yn GCHQ. Fel tipyn o gerdyn gwyllt, ac yn dilyn awgrym fy mam bod cotiau gwyn labordy ‘yn draenio lliw o’r wyneb’, gwnes i gais hefyd am swydd ym Manc Lloyds. Gan ystyried bod 1000 o ymgeiswyr am un swydd dan hyfforddiant i raddedigion, doeddwn i ddim yn obeithiol iawn, ond gwnaethon nhw gynnig y swydd i mi. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio yn adran cyfrifiaduron Banc Lloyds ac roeddwn i’n syfrdanu’n aml fy mod i’n cael fy nhalu i wneud rhywbeth a oedd yn rhwydd i mi ac yn bleser hefyd. Rydych chi wedi gweithio i nifer o fanciau. Beth wnaeth i chi feddwl bod angen newid y sector? Dechreuais i feddwl yn ddifrifol am ffordd newydd o fancio yn sgil argyfwng 2008. Ar y pryd, hwn oedd y trychineb ariannol gwaethaf o fewn cof ond, pan oedd yr holl ffwdan wedi tawelu, roedd y banciau mwy neu lai wedi mynd yn ôl i fusnes fel arfer. Roedden nhw’n gweithredu mwy neu lai yn yr un ffordd ag roedden nhw wedi’i wneud ers degawdau, er gwaethaf y datblygiadau digidol a oedd i’w gweld yn newid popeth arall ar gyflymdra anhygoel gyda busnesau megis Uber, Netflix ac Amazon. Roedd llwyddiant y cwmnïau technoleg wedi dangos i mi fod popeth yn dechrau gyda’r cwsmer a’r rheswm pam mae Apple, Amazon a’r holl rai eraill mor llwyddiannus yw eu bod wedi perffeithio eu prosesau cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau. Enghraifft berffaith o sut roedd y banciau’n methu oedd y broses agor cyfrif. Roedd yn broses ofnadwy o hir a rhwystredig. Roedd rhaid mynd i
gangen, cael cyfweliad hir a chwblhau llwyth o waith papur ac yna aros am sbel hir nes cyflawni’r nod. Roedd angen rheolau i atal twyll, mae hynny’n wir, ond roedd y banciau’n gwneud y broses yn gymhleth yn ddiangen.Wrth wraidd yr hyn roeddwn i am ei wneud roedd awydd i helpu pobl i wella eu perthynas ag arian. Roedd gen i weledigaeth am wasanaeth bancio digidol a allai weithredu ar ffôn symudol, dyfais sydd gyda phawb drwy’r amser, lle mae popeth yn agored, yn dryloyw ac yn hawdd i ddeiliad y cyfrif gael mynediad ato. Mae’n rhaid nad oedd hi’n hawdd sefydlu cwmni i drawsnewid sector fel bancio. Beth oedd yr heriau mwyaf? Un o’r heriau mwyaf oedd yr un mae pawb sy’n ceisio sefydlu busnes yn ei hwynebu: arian. Yn fy achos i, roedd angen llawer o arian arna i, o bosib, cymaint â £300 miliwn yn ôl fy amcangyfrifon cynnar. Roedd angen yr arian i ddatblygu’r banc ei hun a rhoi’r holl dechnoleg ar waith ond, ar ben hynny, roedd angen digon o arian arnaf i ddarparu ar gyfer newidiadau yn yr arian a oedd yn llifo i mewn ac allan o’r banc o ddydd i ddydd. Fel y gallwch ddychmygu, dyw denu buddsoddwyr ddim yn beth hawdd, yn enwedig i rywun heb brofiad o fod yn entrepreneur. Mae gan Starling dros filiwn o gwsmeriaid erbyn hyn ac mae pobl yn dod yn fwy cyfforddus yn rheoli eu harian o’u ffonau. Fydd Starling yn parhau i arloesi yn y farchnad hon? Mae bob amser wedi bod yn bwysig i mi ein bod yn parhau i arloesi ar ôl i ni dyfu o fod yn fenter newydd i fusnes sefydledig (ond heb fod yn rhan o’r ‘sefydliad’!). Waeth pa mor fawr rydym yn tyfu, dwi ddim eisiau i ni fod yn gorff mawr ac araf nad yw byth yn symud ymlaen nac yn datblygu. Rydym yn mireinio’r ap bob dydd ac mae pob aelod o’r tîm yn cael ei annog i awgrymu syniadau newydd drwy’r amser. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid hefyd. Os ydyn nhw’n dweud ‘pam na wnewch chi roi cynnig ar hwn’ neu ‘ydych chi wedi ystyried hwnnw’ rydym yn ymateb i hynny, pam na fydden ni ?
Rydych chi’n un o’r ychydig fenywod ar frig y sector bancio a thechnoleg. Oes digon yn cael ei wneud i leihau’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau? Yr ateb byr yw: nac oes. Mae’n hynod ddiflas i mi o hyd pan fydda i’n mynd i ddigwyddiadau’r sector ac, yn ddi-ffael, dwi’n un o lond llaw o fenywod â rolau uwch mewn grŵp o 100 o ddynion neu fwy. Yn nyddiau Dwi wedi dod i arfer â’r ffaith bod rhagfarn ddiarwybod ym mhob man, ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod i’n derbyn hynny. Rwy’n eiriolwr angerddol dros fenywod ac yn gwneud popeth y gallaf i’w cefnogi fel y bydd rhagor o fenywod yn ymuno â rhengoedd yr entrepreneuriaid a pherchnogion busnes benywaidd. Fy nghyngor i unrhyw fenyw sy’n darllen yr erthygl hon fyddai i ymladd yn galed, mynnu’r un driniaeth, ymgeisio am y swyddi uchaf ac i beidio byth â rhoi’r ffidil yn y to. cynnar Starling, roedd pobl yn gofyn i mi’n aml beth roeddwn i’n ei ‘wneud’ yn y banc.
DARLLEN MWY: Gallwch ddarllen y proffil llawn yma:
swan.ac/proffiliau
09
Made with FlippingBook Learn more on our blog