Sail Magazine 2020 [CYM]

Gwnaethoch chi chwarae dros Gymru am y tro cyntaf gan ddod oddi ar y fainc yn yr ail hanner yn erbyn yr Eidal mewn gêm ryngwladol a dorrodd record o ran presenoldeb ar gyfer gêm menywod Cymru yn Stadiwm Principality (11,062). Sut profiad oedd hynny? Roedd yn freuddwyd wedi’i wireddu; digwyddodd popeth mor gyflym fel nad oedd hi’n ymddangos yn eglur. Yr unig beth rwy’n ei gofio yw rhywun yn gadael am asesiad anaf i’r pen a’r rheolwr yn gweiddi fy enw; doedd dim amser gennyf i feddwl ond gwnaeth hyd yn oed redeg ar y cae fynd â’m gwynt. Roeddwn i’n ddigon ffodus i ennill fy nghap cyntaf yn Stadiwm Principality ac rwy’n meddwl mai fi yw’r unig fenyw i wneud hyn, sy’n wych! Rwy’n meddwl hefyd, ar y pryd, roeddwn i mor gynnar yn fy ngyrfa rygbi fel nad oeddwn i’n sylweddoli beth roeddwn i wedi’i gyflawni felly roeddwn i ychydig yn ddiniwed am y peth; ac, yn y diwedd, rwy’n meddwl bod hyn yn beth da neu byddwn i wedi bod yn rhy nerfus fel arall! Rwyf yng ngharfan Cymru o hyd, ond yn y garfan saith bob ochr ar hyn o bryd – sy’n cynnwys llawer o redeg o’i chymharu â’r garfan 15 bob ochr ond mae’n ddifyr iawn ac yn ymarfer ffitrwydd gwych felly rwy’n ei fwynhau’n llwyr! Rydym yn gwybod y byddwch yn ysbrydoli llawer o’n darllenwyr, ond pwy sydd wedi’ch ysbrydoli chi? Bu farw un o’m ffrindiau, Elli Norkett, mewn damwain car ychydig flynyddoedd yn ôl; roeddwn i’n chwarae rygbi gyda hi ac roedd hi’n aelod o garfan Cymru hefyd. Beth bynnag rydw i’n ei wneud, mae’n fy ysbrydoli i weld pa mor bell y gallaf gyrraedd ac yn fy atgoffa bod bywyd yn rhy fyr i beidio â rhoi cynnig ar bethau neu fyw. Mae popeth rwy’n ei wneud nawr, yn isymwybodol, dros Elli.

Ar ôl i fi fynd am tua chwe wythnos i ddosbarth roeddwn yn ei fwynhau, roeddwn i’n gallu gweld gwahaniaeth mewn sut roedd fy ochr chwith yn gweithio o’i chymharu â’m hochr dde – a pha mor anystwyth roeddwn i o ganlyniad i flynyddoedd heb weithio ar hyblygrwydd, chwaraeon trawiad cyson a chredu bod cynhesu’n wastraff amser. Ar ôl i fi fynd am tua chwe wythnos i ddosbarth roeddwn yn ei fwynhau, roeddwn i’n gallu gweld gwahaniaeth mewn sut roedd fy ochr chwith yn gweithio o’i chymharu â’m hochr dde – a pha mor anystwyth roeddwn i o ganlyniad i flynyddoedd heb weithio ar hyblygrwydd, chwaraeon trawiad cyson a chredu bod cynhesu’n wastraff amser. Rydych chi bellach wedi sefydlu dau fusnes sy’n ymwneud ag ioga: Yogability – dull ioga sy’n benodol i athletwyr - sy’n cynnwys cleientiaid megis clwb rygbi’r Gynghrair Gallagher, Bristol Bears a ‘The Yoga Hub’, sef canolfan ffitrwydd yng Nghaerdydd, lle gall aelodau gael sesiynau ioga a Pilates diderfyn am ffi fisol sefydlog. Sut aethoch chi ati i adeiladu gyrfa ar y profiad adsefydlu hwnnw? Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ddull ioga a oedd yn benodol i athletwyr ac a oedd yn diwallu anghenion pobl fel fi – felly creais i Yogability. Roeddwn i’n gwybod yn reddfol na fyddwn i byth yn chwarae pêl-rwyd eto ar ôl torri gwäellen fy ffêr,felly roeddwn i’n meddwl beth am roi cynnig ar rygbi eto ? Ymunais i â chlwb lleol lle roedd fy ffrindiau’n chwarae. Enillon ni’r gynghrair a’r cwpan y flwyddyn honno (heb fawr o help gen i dwi’n siŵr achos roeddwn i’n dal yn ansicr am yr holl reolau!). Wedyn penderfynodd y clwb roi’r gorau i dîm y menywod, felly gwnaeth fy nhad helpu i

sefydlu tîm menywod yn Abertawe a fe yw Ysgrifennydd y Clwb erbyn hyn; a symudodd y tîm cyfan draw i chwarae i’r Crysau Gwynion. Ar ôl clywed fy mod i’n chwarae rygbi wedi torri gwäellen fy ffêr, gofynnodd ychydig o dimau rygbi i mi addysgu Yogability iddyn nhw... cyn hir dechreuais i weithio gyda thîm saith bob ochr Undeb Rygbi Cymru a dyna pryd sylweddolais i fod rhywbeth gen i – o fewn blwyddyn roeddwn i’n methu credu faint roedd y busnes wedi tyfu! Digwyddodd rhywbeth tebyg gyda ‘The Yoga Hub’; hoffwn i allu talu’n fisol i fynd i sesiynau ioga a Pilates diderfyn. Wrth siarad â phobl yn y campfeydd roeddwn i’n eu defnyddio, sylweddolais i nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn mynd i ddosbarthiadau ioga gan eu bod yn rhy ddrud. Felly fy nod cyntaf oedd ei wneud yn rhesymol iawn. Yr ail nod oedd chwalu’r camsyniad mai dim ond un math o ioga sydd. Rydym yn cynnig 14 o fathau gwahanol o ioga a Pilates – wedi’u haddysgu gan 12 o hyfforddwyr gwahanol. Roeddwn i am i bobl nad ydynt wedi mwynhau dosbarth yn y Mae gan bawb anghenion a chwaeth gwahanol felly roeddwn i am ddiwallu eu hanghenion nhw. Agorais i ‘The Hub’ i fyny’r grisiau mewn campfa o’r enw UFIT yng Nghaerdydd; mae’r gampfa a’r siop goffi ar agor rhwng 5am ac 11pm, sy’n apelio ataf yn fawr oherwydd roeddwn i am i bobl ei weld fel digwyddiad yn hytrach na dod i mewn, gwneud dosbarth ac yna fynd adref – gallwch chi aros am goffi neu gwrdd â ffrindiau hefyd. gorffennol sylweddoli bod llawer mwy o fathau o ymarfer y gallent roi cynnig arnynt.

Gallwch ddarllen y proffiliau llawn yma: swan.ac/proffiliau

ALUN BAKER BSc Economeg a Daearyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1982. ARWEINYDD BUSNES. ENTREPRENEUR.

GEMMA ALMOND BA Hanes. Blwyddyn Graddio 2014. HANESYDD ANABLEDD A MEDDYGAETH. CYN-ATHLETWR A NOF IWR EL Î T.

SYR JOHN THOMAS BSc Cemeg, PhD Sbectrometreg Màs. Blwyddyn Graddio 1957.

CEMEGYDD CYFLWR SOLET. ADDYSGWR. HANESYDD.

13

Made with FlippingBook Learn more on our blog