Beth yw eich hoff atgofion o Abertawe? Ces i amser gwych. Gwnaeth y brifysgol fy nghefnogi’n dda yn yr ystyr ehangach – yn y pwnc technegol ac yn fy mywyd cymdeithasol hefyd. Roedd y lleoliad yn hyfryd hefyd. Roeddwn i’n lwcus i fod yn berchen ar hen racsyn o gar. Drwy lanhau ffenestri, llwyddais i gynilo ychydig o arian i brynu Triumph Herald a oedd wedi gweld dyddiau gwell felly roedd gen i gerbyd, a oedd yn anarferol i fyfyriwr ar y pryd. Manteisiais i i’r eithaf arno, i fynd ar deithiau i benrhyn Gŵyr a lleoedd eraill. Roedd y bywyd cymdeithasol yn dda iawn a ches i gyfle i roi cynnig ar syrffio drwy glybiau chwaraeon y Brifysgol ac roedd byrddau syrffio gennym. Car codi to oedd y Triumph Herald, felly byddwn i’n clymu’r bwrdd syrffio ar draws y to a bant â ni. Roeddwn i’n sgïwr gweddol hefyd a ches i gyfle i fynd ar deithiau sgïo gyda phrifysgolion eraill i’r Alban ac yn y blaen. Fel rhywun sydd wedi sefydlu sawl menter, o ble daeth y syniadau am eich busnesau? Dwi ddim yn meddwl bod y byd academaidd ac ymchwil academaidd o angenrheidrwydd yn arwain at fusnes ar eu pennau eu hunain. Mae’n rhaid i chi fod yn yr amgylchedd iawn ac roedd gan Gaergrawnt ddiwylliant ac amgylchedd o adeiladu pethau sy’n ymarferol, yn ogystal â phethau eraill. Roedd yn rhan o’r DNA yno. Roedd fy ngradd PhD yn ymarferol iawn. Roeddwn i’n rhan o brosiect mwy a oedd yn ymwneud â rhwydwaith cyflymder uchel (roedd hyn cyn yr ether-rwyd). Dechreuodd nifer o gwmnïau fasnacheiddio hynny ac roedd gen i rôl fach yn y broses, felly dydw i ddim yn hollol gywir wrth ddweud nad oedd dim byd yn dod o waith Prifysgol ond roedd yn agored i bawb. Mae gan yr adran (a dwi’n falch o ddweud y bues i’n Bennaeth yr Adran honno am 14 o flynyddoedd) ddiwylliant cryf o gefnogi cydweithrediad â diwydiant. Yn y dyddiau hynny – ac i ryw raddau, mae hynny’n wir o hyd – roedd yr ochr ddiwydiannol yn cael ei hannog. Doedd dim angen cyfiawnhau hynny a doedd dim cyfyngiadau o gwbl. Drwy gael profiad diwydiannol – a chael eich annog i wneud hynny – y canlyniad ymarferol yw eich bod yn rhan o bortffolio. Rydych chi’n cyflawni mewn ystyr ehangach na nifer y papurau rydych chi wedi’u cyhoeddi. Aeth fy mhlant i’r brifysgol a dwi wrth fy modd bod pobl wedi eu haddysgu’n dda. Mae hynny’n dda, mae’n bwysig! Mae pethau pwysicach na rhagoriaeth ymchwil a dwi ar y brig yn fy adran a dyma fy sgôr REF ac yn y blaen. Felly, yn y dyddiau hynny, roedd symud rhwng diwydiant a’r byd
academaidd yn llawer haws na heddiw. Roeddwn i’n gallu gwneud pethau’n ddiwydiannol a fanteisiodd ar y rhyddid hwnnw, nid mewn ffordd linellol, ond roedd yn gysylltiedig â’r brifysgol am resymau ehangach a oedd yn ymwneud â chefndir, recriwtio, prototeipiau rhywbeth newydd neu arddangosiadau a fyddai’n tanio syniadau neu beth bynnag. Felly, dechreuodd yr holl gwmnïau’n annibynnol a deilliodd y syniadau amdanynt o gefndir gwaith arall, yn hytrach nag o’r Brifysgol. Datblygiad pwysig sy’n uniongyrchol berthnasol i hyn yw’r cwmni ARM. Roeddwn i’n Gyfarwyddwr Ymchwil yn Acorn ac roeddwn i yn y brifysgol ar yr un pryd. Roedd hyn ar ddechrau’r 1980au ac roeddem wedi gwneud yn eithaf da gyda’r BBC Micro a oedd yn cynnwys sglodion a ddaeth o fy nghefndir yn y brifysgol, ond yr wybodaeth sy’n bwysig, nid y sglodion. Felly, ARM yw Acorn RISC Machines a RISC oedd cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer y cyfrifiadur. Nid ni ddyfeisiodd hynny, cafodd ei ddatblygu ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley. Mae’n dechnoleg a gafodd ei throsglwyddo o’r UD a daeth hynny drwy’r ochr academaidd, nid drwy’r ochr ddiwydiannol. Roeddech chi ar flaen y gad ym maes cyfrifiadura yn y DU. Disgrifiwyd Acorn fel Apple Prydain. Sut profiad oedd bod yn y sefyllfa honno ar y pryd? Wel, ar y pryd roedd y sefyllfa’n teimlo’n gystadleuol iawn o hyd. Roedd cwmni bach o’r enw Apple, roedd cwmni bach o’r enw Intel. Felly wrth ddechrau’r prosiect microbrosesydd mewn cwmni o’r enw Acorn a’r prosiect ARM, roeddem yn ymwybodol bod Intel (a gynhyrchodd y microbrosesyddion roeddwn i’n eu defnyddio yn Abertawe ym 1971/1972) yn un o’r cewri. Nhw oedd ein cystadleuwyr. Mae’n rhaid eich bod yn hynod brysur. Oes amser sbâr gennych chi o gwbl a beth rydych yn ei wneud ag ef? Dwi ddim yn eithriadol o brysur oherwydd bod rhaid i chi ddirprwyo, ymddiried mewn pobl a maddau ac ati. Hedfan yw fy mhrif angerdd. Mae hedfan yn cyfuno nifer o bethau sydd o ddiddordeb i mi. Yn y bôn, peiriannydd ydw i, peiriannydd technoleg, Dwi’n hoffi electroneg a dwi’n hoffi potsian. Mae awyren fach gen i a dwi’n hoffi potsian â hi; systemau trydanol, d.c., a.c. systemau gwactod, systemau pwysedd, system danwydd, system olew, system afioneg, system ddadrewi, system propelor
cylchdro amrywiol, systemau offer glanio a hydroleg. Er fy mod i’n dweud potsian, efallai bydda i’n edrych ar bethau, profi rhai paramedrau, ond mae gen i bobl broffesiynol sy’n gofalu amdani ac yn sicrhau ei bod hi’n ddiogel i’w hedan! Dwi’n eithaf hoff o feicio ar benrhyn Gŵyr hefyd, felly bydda i’n taflu fy meic yng nghefn yr awyren, hedfan i lawr, treulio’r diwrnod yn beicio ac yna’n hedfan yn ôl gyda’r hwyr. O bryd i’w gilydd, bydda i’n galw heibio Tŷ Fulton am baned o de ond dwi ddim yn rhoi gwybod i neb ymlaen llaw, felly mae pobl siŵr o fod yn meddwl mai rhywun sydd wedi cerdded i mewn oddi ar y stryd ydw i. Felly, o’ch safbwynt ar flaen y gad ym maes technoleg, beth yn eich barn chi, fydd y datblygiad mawr nesaf yn y maes hwnnw? Dwi’n meddwl bod fframwaith cyfan cyfrifiadura a chynaliadwyedd yn gyffrous iawn. Dychmygwch, os ydym yn arsylwi ar y byd gan ddefnyddio synwyryddion, rhai awyrol yn bennaf, synwyryddion gwres a thechnegol, yn optimeiddio’r data yn y seiberofod ac yn bwydo hynny yn ôl i wella cynaliadwyedd y byd. Mewn geiriau eraill, gallai cyfrifiadura rheoli curiad calon y blaned. Bydd y dechnoleg yn parhau i ddatblygu ar garlam. Edrychwch ar y system leoli fyd-eang er enghraifft, gwasanaeth gwych sydd ar gael am ddim yn fyd-eang. Felly dychmygwch system tymheredd fyd-eang sy’n gallu rhoi tymheredd pob metr sgwâr ar y blaned, mewn amser real, i bawb, yn rhad ac am ddim. Byddai pob math o ben tost ynghlwm wrth hynny, moeseg, gwleidyddiaeth ac ati, dwi’n gwybod, ond rydych chi wedi gofyn y cwestiwn i mi a dwi’n amau y bydd agweddau pobl yn newid. Er enghraifft, mae tracio’r coronafeirws ar ffonau pobl yn dod yn dderbyniol lle byddai wedi bod yn ddiwedd y byd fis yn ôl. Yn yr un modd, wrth i’r capiau iâ ddechrau toddi a phan fydd llifogydd yn dechrau boddi dinasoedd, bydd pobl yn derbyn efallai fod hyn yn rhywbeth pwysig. Yn fy marn i, mae cyfrifiadura’n cefnogi cynaliadwyedd y blaned yn wobr wych ac yn rhywbeth hoffwn i ei weld.
DARLLEN MWY: Gallwch ddarllen y proffil llawn yma:
swan.ac/proffiliau
17
Made with FlippingBook Learn more on our blog