Sail Magazine 2020 [CYM]

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR

MSc Datblygiad Cymdeithasol a Chyfathrebu. Blwyddyn Graddio 2001. CYFARWYDDWR J - FLAG, ACT I FYDD LGBT. JAEVION NELSON

Fe astudioch eich gradd Astudiaethau Rheoli yn Jamaica. Beth ddenodd chi i Abertawe? Roeddwn am wneud gradd meistr mewn Cyfathrebu a Datblygiad Cymdeithasol. Yn wahanol i nifer o bobl, rydw i’n dueddol o ddechrau fy chwilio gyda’r rhaglen ei hun yn hytrach nag edrych ar beth mae prifysgol benodol yn ei gynnig. Felly, fe chwiliais ar y we a darganfod Abertawe. Fe wnes i ychydig o ymchwil i’r brifysgol, yn cynnwys edrych ar y tablau cynghrair a phenderfynu y byddai’n berffaith. Llwyddais gael yr Ysgoloriaeth Chevening a wnaeth hi’n bosib i mi fynd yno. Beth yw eich hoff atgofion o’ch amser yn Abertawe? Mae gen i nifer o atgofion melys o’m hamser yn Abertawe, yn y Brifysgol ac yn y dref – o yfed a mwynhau i brotestio gyda myfyrwyr eraill dros beidio â dileu un o’n cyrsiau. Rwy’n aml yn hel atgofion am goginio a sgwrsio gyda fy ffrindiau yn ein neuadd breswyl, chwarae Mr Tumnus yn y pantomeim Nadolig blynyddol, mynd i’r traeth i ddathlu noson Guto Ffowc, y bwytai, tafarnau a chlybiau yn y dref ac ar y campws, ac mor gyfeillgar a charedig oedd pawb, yn ogystal â gyrru rownd y ddinas yn hwyr yn y nos. Yn olaf, ac er nad oedd hyn yn y Brifysgol, fe dreuliais gyfnod hyfryd yng ngorllewin Cymru gyda hen bâr a chael fy nghyflwyno i fwydydd Cymreig a Seisnig bendigedig. Ar ôl i chi orffen eich MSc mewn Cyfathrebu a Datblygiad Cymdeithasol, beth wnaethoch chi? Yn syth ar ôl i mi gwblhau’r rhaglen, fe ddychwelais i Jamaica i weithio yn J-FLAG fel Rheolwr Rhaglen ac Eiriolaeth a defnyddio rhywfaint o ganfyddiadau fy ymchwil i hybu gwaith y sefydliad.

Sut daethoch chi i fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol J-FLAG yn Jamaica?

Cyn dechrau’r rhaglen yn Abertawe, fe wirfoddolais gyda J-FLAG am bythefnos achos roeddwn eisoes wedi penderfynu beth fyddai pwnc ymchwil fy nhraethawd estynedig. Roedd yn gyfle i ddysgu am y gymuned o bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (LGBT), a chysylltu gyda rhai o’r prif drefnwyr cymunedol ymhell cyn dechrau ar fy nhraethawd. Yn ffodus, fis neu ddau cyn i’r rhaglen ddod i ben, roedd y swydd ar gael. Fe gyflwynais gais ac fe lwyddais. Beth yw eich cyflawniad mwyaf ers ymuno â J-FLAG? Mae’n anodd meddwl am un peth ond mae nifer o bethau rwy’n falch ohonynt ac yn eu hystyried fel cyflawniadau mawrion ers ymuno â’r sefydliad. Roeddwn i wedi gallu ehangu eiriolaeth a rhaglenni’r sefydliad i ganolbwyntio ar ystod ehangach o faterion sy’n effeithio ar bobl LGBT yn Jamaica, yn cynnwys ar ddatblygiad a’r effaith ar bobl LGBT yn seiliedig ar fy nhraethawd. Fel rhan o hyn, es i ati i gysyniadu a chydlynu rhaglen lwyddiannus bum mlynedd o hyd o’r enw “Fight the Hate” i adeiladu capasiti a sensiteiddio rhanddeiliaid, gan gynnwys seneddwyr, gwneuthurwyr polisi, pobl LGBT a’r cyhoedd ynghylch hawliau pobl LGBT. Rydw i hefyd yn falch iawn o fenter y datblygais i ddarparu cyfleoedd i bobl LGBT allu siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion, Aelodau Seneddol ac eraill sy’n creu, penderfynu a dylanwadu ar bolisïau er mwyn iddynt glywed o lygad y ffynnon am y bobl y mae homoffobia a transffobia yn effeithio arnynt a dysgu am yr hyn y gallant wneud i fynd i’r afael â’r heriau parhaus.

CHRIS CORCORAN BA Gwleidyddiaeth a Hanes. Blwyddyn Graddio 1993. DARLLEDWR. AWDUR. DIGRI FWR. 2003. EIRIOLWR DROS FWYDO AR Y FRON. AWDURDOD YM MAES DIDDYFNU BABANOD. YR ATHRO AMY BROWN PhD Seicoleg. Blwyddyn Graddio PAUL DOLAN BSc Economeg. Blwyddyn Graddio 1989. GWYDDONYDD YMDDYGIAD. ARBENIGWR MEWN HAPUSRWYDD.

YR ATHRO M.WYNN THOMAS

BA Saesneg. Blwyddyn Graddio 1965. ACADEMYDD. HANESYDD DIWYLL IANNOL . AELOD GORSEDD Y BEIRDD.

GEMMA COX MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Blwyddyn Graddio 2011. GWARCHODWR IECHYD CYHOEDDUS. YMGYRCHYDD CRANIOSYNOSTOSIS.

GEORGE “TAFFY” BOWEN

BSc ac MSc Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1930. ARLOESWR RADAR. ACHUBWR AR GYFLEOEDD. SERYDDWR RADIO.

18

Made with FlippingBook Learn more on our blog