Sail Magazine 2020 [CYM]

Mae eich gwaith hefyd wedi arwain atoch yn ymgynghori i’r Cenhedloedd Unedig a Chyrff Anllywodraethol eraill. Ydy hyn yn rhoi persbectif gwahanol i chi yn eich gwaith fel eiriolwr a newyddiadurwr? Ydy, rwyf bob amser yn awyddus i sicrhau bod fy ngwaith fel eiriolwr, barn newyddiadurol a sylwebydd materion cyhoeddus yn dod o fy holl brofiadau a’m hamser yn ymwneud â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd. Dwi’n meddwl ei fod yn fy helpu i fod yn ymwybodol o realiti ar lawr gwlad a gallu cysylltu ag ystod eang o bobl o bob mathau o grwpiau gwahanol. Mae’r gymuned LGBT wedi symud ymlaen dipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mawr nesaf i’r gymuned? Rydw i’n meddwl mai’r heriau mawr nesaf i’r gymuned fydd gwneud teuluoedd a chymunedau’n fwy diogel fel bod pobl LGBT, yr ifanc yn arbennig, yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn hytrach na chael eu

dieithrio o’u teuluoedd a’u cymunedau. Mae gweithio ar faterion iechyd meddwl yn y gymuned yn bwysig a mynd i’r afael â’r heriau o gael mynediad i ystod ehangach o wasanaethau iechyd i aelodau mwyaf bregus y gymuned

a gwella mynediad i ddiogelwch cymdeithasol a gwasanaethau cefnogi. Mae rhaglenni penodol i ymdrin â bwlio mewn ysgolion yn hanfodol i leihau’r niwed mae pobl ifanc LGBT yn ei wynebu yn ogystal ag edrych ar brofiadau plentyndod niweidiol a’r math o effaith y caiff hyn ar bobl.

Gallwch ddarllen y proffil llawn yma: swan.ac/proffiliau

19

Made with FlippingBook Learn more on our blog