DIGWYDDIADAU’R CANMLWYDDIANT
YMRWYMEDIG I OFALU AM EIN CYMUNED
2020 oedd y flwyddyn roedd y Brifysgol i fod i ddathlu ei chanmlwyddiant. Fodd bynnag, mae effeithiau rhyfeddol a distryw’r pandemig ar draws y byd wedi cymryd blaenoriaeth, yn ddigon teg, eleni. Ers agor ein drysau 100 o flynyddoedd yn ôl, rydym wedi arloesi, cydweithio a thyfu i fod yn gampws deuol, yn sefydliad o’r radd flaenaf sy’n gwasanaethu ei gymuned, yn addysgu ei bobl, yn mynd i’r afael â phroblemau byd-eang ac yn darparu cartref i lawer. Mae ein llwyddiannau wedi effeithio ar y byd mewn sawl ffordd, ac rydym yn hynod o falch o fod wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn ein hanes cyfoethog. Yn anffodus, ni allwn ddathlu’r cyflawniadau hyn yn y ffordd a fwriadwyd gennym, felly rydym yn awr wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio pob digwyddiad canmlwyddiant corfforol yn 2020, ac yn eu lle, ynghyd â’r rhoddion hanfodol yr ydym yn eu derbyn gan ein cefnogwyr hael, mae £200,000 a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer ein dathliadau canmlwyddiant yn mynd tuag at ymladd Covid-19, cefnogi ein myfyrwyr, a gyrru arloesedd wrth i ni ddechrau ein 100 mlynedd nesaf. Er ein bod yn siomedig nad ydym yn dathlu’n bersonol gyda’n cyn-fyfyrwyr, ein staff, ein partneriaid, ein myfyrwyr a’n ffrindiau, rhaid sicrhau diogelwch ein cymunedau a chydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o deulu Abertawe. Felly, er mwyn diddanu a diweddaru ein cymuned Prifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein, gyda mwy ar y gweill.
Ar y 29ain o Ebrill, cynhaliwyd Varsity rhithwir. Roedd timau chwaraeon myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cystadlu yn erbyn yr hen elynion o Brifysgol Caerdydd mewn amrywiaeth o heriau ar-lein, megis ‘Keepie Uppies’ gyda phêl rygbi, cic gosb chwil, sgwatiau a llawer mwy. Yn ystod y dydd, Abertawe oedd yn fuddugol o 17 – 14 gan gipio Coron y Varsity rhithwir. Uchafbwynt y diwrnod oedd cwis Varsity rhithwir dan arweiniad y chwaraewr rygbi o Gymru, Ryan Jones ac roedd hefyd yn cynnwys llu o gyn-fyfyrwyr a chyfeillion megis Liz Johnson, Paul Thorburn, Alun Wyn Jones, Michael Sheen, Max Boyce ac Eddie Izzard. Ar y 13eg o Fai, daeth cyn-fyfyrwyr ynghyd ar Swansea Uni Connect i rannu eu lluniau a’u hatgofion o’u hamser yn Abertawe. Yn ystod y digwyddiad, rhannwyd dros 350 o luniau – yn cwmpasu 100 mlynedd o Brifysgol Abertawe.
FE GODON NI
MEWN YCHYDIG DROS MUNUD
Gellir gweld yr holl luniau yn adran luniau ac albymau: SwanseaUniConnect.com Gwyliwch y fideo Varsity yma: Swan.ac/varsity-rhithwir EI WELD AR WAITH:
02
Made with FlippingBook Learn more on our blog