Sail Magazine 2020 [CYM]

EIN DIOLCH.

Er bod Covid-19 wedi effeithio ar ein dathliadau, rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r ymateb i’n hymgyrch codi arian ar gyfer y canmlwyddiant. O ddarparu cyllid sbarduno ar gyfer ymchwil arloesol, i gefnogi ein myfyrwyr mwyaf agored i niwed, mae rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr a chyfeillion yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws y Brifysgol a thu hwnt. A WNEWCH CHI ROI RHODD DRWY FYND I: swan.ac/rhoddwch-arian Bydd eich rhodd yn cael ei chyfeirio tuag at y mentrau mwyaf dirdynnol, taer a phwysig ym Mhrifysgol Abertawe. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Drwy ddal gafael yn ysbryd cyfunol teulu Abertawe, gallwn edrych ymlaen at ddyfodol disglair a llwyddiannus wrth i ni ddechrau ar ein 100 mlynedd nesaf. Os hoffech ddarllen mwy am ganmlwyddiant y Brifysgol, ein hanes, digwyddiadau arfaethedig a dyheadau’r dyfodol, gallwch ymweld â: swan.ac/2020

GRANTIAU CALEDI ARIANNOL

“Yn ystod fy ail flwyddyn yn y Brifysgol, collais fy swydd ran-amser a fy opsiynau gofal plant. Roeddwn yn ystyried gadael y Brifysgol ond yna clywais am y grantiau caledi a ariennir gan gyn-fyfyrwyr. Yn dilyn fy nghais, cefais wybod yr oedd yn llwyddiannus y diwrnod canlynol, ac roedd yr arian yn fy nghyfrif banc erbyn diwedd yr wythnos. Daeth y wobr hefyd gydag arbenigedd ac arweiniad sydd wedi bod yn amhrisiadwy i mi a’m teulu ac wedi fy ngalluogi i barhau fy ngradd.” – Unigolyn sydd wedi derbyn y grant caledi yn ddiweddar

03

Made with FlippingBook Learn more on our blog