Sail Magazine 2020 [CYM]

YMCHWIL & NEWYDDION COVID

EIN BRWYDR YN ERBYN

BETH RYDYN NI WEDI BOD YN EI WNEUD:

• Mae timau o bob rhan o’r Brifysgol wedi dod at ei gilydd i gefnogi consortiwm sydd newydd ei sefydlu-SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym De Cymru) - yn ei chenhadaeth i gefnogi ymateb ‘ Covid-19 ‘ GIG Cymru. • Mae tîm o fyfyrwyr wedi datblygu triniaeth nwy gyflym newydd ar gyfer ambiwlansys, a allai gael gwared ar halogiad Covid-19 o arwynebau a’r aer, mewn llai nag ugain munud, hanner yr amser y mae’n ei gymryd fel arfer wrth ddefnyddio pobl i lanhau. • Mae ein myfyrwyr Nyrsio, Parafeddygaeth a Bydwreigiaeth wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen gyda staff y GIG. • Mae grŵp o fyfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi bod yn cynnig gofal plant cymorth brys i staff hanfodol y GIG. • Mae tîm o feddygon a pheirianwyr o Abertawe wedi cynllunio peiriant anadlu newydd y gellir ei adeiladu’n gyflym o ddarnau lleol. Cyn hyn, roedd dyluniad peiriant anadlu yn y naill beth neu’r llall, ond nid y ddau. Yn hollbwysig, gellir defnyddio’r peiriant anadlu hyd yn oed ar gyfer cleifion â choronafeirws difrifol. • Mae’r Ysgol Feddygaeth a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd hefyd wedi sicrhau bod eu hystafell sgiliau clinigol ar gael i’r bwrdd iechyd lleol.

Mae staff y Brifysgol wedi dod at ei gilydd i roi offer cyfarpar diogelu personol hanfodol i’r ysbyty lleol.

DARGANFYDDWCH FWY:

gweld sut mae’r Brifysgol yn cefnogi’r ymdrech fyd-eang: swan.ac/cy-covid19 #GydanGilydd #EinAbertawe

Mae myfyrwyr a staff yn defnyddio argraffwyr 3D o’r radd flaenaf y Brifysgol i gynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb ar gyfer y GIG a gweithwyr rheng flaen.

04

Made with FlippingBook Learn more on our blog