Yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn, mae ein staff a’n myfyrwyr wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r frwydr yn erbyn Covid-19. Roeddem am ddefnyddio hwn fel cyfle i roi goleuni ar rywfaint o’r gwaith hanfodol hwn. Reunion YN DOD YN FUAN... Mae cynlluniau pawb ar gyfer 2020 wedi newid... yr oeddem i fod i gael Aduniad Canmlwyddiant: teithiau o amgylch y campws, hufen iâ Joe’s, taith i’r Mwmbwls, mynd am dro o gwmpas Parc Singleton a chinio mawreddog yn Nhŷ Fulton.
Mae darlithydd o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a’i gŵr wedi trawsnewid eu busnes jin i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a gymeradwyir.
Mae Lab technoleg solar y Brifysgol, SPECIFIC, wedi newid dros dro i gynhyrchu 5000 litr yr wythnos o hylif diheintio dwylo, sy’n cael ei ddefnyddio gan y GIG lleol, cartrefi gofal a thimau tai rheng flaen.
NID YW’R DATHLIADAU WEDI’U CANSLO, DIM OND EU GOHIRIO. Bydd mwy o fanylion yn cael eu hanfon atoch cyn gynted ag y byddwn yn gallu trefnu digwyddiadau i bawb gael dod at ei gilydd. Os nad ydych wedi cael e-bost oddi wrthym ers amser, cadwch mewn cysylltiad a diweddarwch eich manylion yma:
swan.ac/diweddariad-gan-sail
05
Made with FlippingBook Learn more on our blog