Prifysgol Abertawe Cylchgrawn Electronig Coleg Peirianneg

CA I S AM B E I R I ANWY R

ACHUB Y BYD MEWN C Y F NOD O ARGY FWNG

Ymladdwyr y Goedwig yn y Dyfodol gan Dr Emily Preedy Algâu – Y Peiriannau Llowcio Nwy Gwyrdd Effeithlon

Dychmygwch pe gallai technoleg greu coedwigoedd o goed dal carbon sy’n ymddolennu o amgylch safleoedd diwydiannol gan chwilio am Garbon Deuocsid (CO2) fel Pac-Man newynog, gan fwydo’n awtotroffig ar yr elfen sy’n cyfrannu at y niwed i’r amgylchedd ledled y byd. Mae’r ffantasi hwn bellach yn realiti ym Mhrosiect RICE ym Mhrifysgol Abertawe, ESRI a’r Adran Beirianneg. Bu tîm amlddisgyblaethol, brwdfrydig a chwyldroadol o ymchwilwyr yn gweithio’n ddiflino i ddylunio ac adeiladu ffensys o goed artiffisial, a elwir yn Ffotonbioadweithydd, a’u defnyddio ar safleoedd diwydiannol yn y DU ac Ewrop. Mae’r coed hyn, a orchuddir gan fframwaith metel, yn 2.5m o uchder ac mae’r system yn dal hyd at 5,000L o rywogaethau o ficroalgâu, sy’n symud drwy’r strwythurau anferth cydgysylltiedig sy’n debyg i wellt, gan alluogi llwythau rheoli hinsawdd natur i fynd i’r afael â dal CO2. Mae microalgâu, y milwyr yn y chwyldro rheoli hinsawdd, yn fersiwn lai o faint o wymon, sef y brawd mawr a elwir hefyd yn Facroalgâu. Mae wedi’i ddefnyddio ers canrifoedd fel

ffynhonnell dda o fwyd, megis bara lawr (sy’n aml ar werth ym Marchnad Abertawe), ac mae’n amddiffyniad pwysig i gynnal cydbwysedd nwyon yn yr amgylchedd. Yn debyg i unrhyw blanhigyn, mae algâu yn ffotosyntheseiddio, sy’n golygu bod gwastraff diwydiannol, sy’n cynnwys llawer o CO2, yn fara menyn i’r ficro-organeb. Yn ogystal â mwynhau gwledda ar yr allyriadau hyn, gall algâu ddefnyddio gwastraff domestig ac amaethyddol sy’n cynnwys llawer o ffosffadau a nitrogen, sydd oll yn elfennau hanfodol sy’n helpu’r sbesimenau hyn i dyfu’n gyflym. Fel cymhelliant pellach i ddiwydiant, nid yn unig y mae microalgâu yn helpu i sicrhau dyfodol diwydiannol cynaliadwy, glanach a gwyrddach drwy ddefnyddio tua 1.8 kg o CO2 fesul kg o fiomas algaidd, bydd y tîm hefyd yn ymchwilio i’r cynhyrchion gwerth ychwanegol y gellir eu crynodi a’u puro ym mhrosesau terfynol y biomas ar ôl iddo gael ei gynaeafu. Mae’r biomas hwn yn cynnwys llawer o facrofaethynnau a microfaethynnau, gyda thua 60% yn cynnwys protein, sy’n ddeniadol iawn fel atchwanegiad bwyd a dewis

amgen yn lle protein. Mae algâu hefyd yn cynnwys lefelau uchel o Gymhlygion Fitamin B, Calsiwm a Haearn. Fodd bynnag, mae gan ddiwydiannau fferyllol ddiddoreb yn y pigmentau a ddelir yn y strwythurau cellol; mae’r rhain yn dibynnu ar y rhywogaeth a dyfir, ond credir bod ganddynt briodweddau gwrthocsidiol a gwrthlidiol. Mae’r wybodaeth hon, ynghyd â gallu’r rhywogaeth i addasu a’r defnydd a wneir o’r microalgâu, oll yn helpu yn y frwydr fyd-eang hon i gyflawni’r targed i leihau allyriadau carbon i sero erbyn 2050, gan droi allyriadau yn gynhyrchion bwytadwy. Gwastraff sy’n gweithio! Gwrandewch ar Bodlediad Emily www.swansea.ac.uk/ research/podcasts/algae/

P E I R I ANNE G YM MHR I F YSGO L A B E R TAWE

12

Made with FlippingBook Ebook Creator