Prifysgol Abertawe Cylchgrawn Electronig Coleg Peirianneg

CA I S AM B E I R I ANWY R

ACHUB Y BYD MEWN C Y F NOD O ARGY FWNG

Plastigau du gan Dr Alvin OrbaekWhite Mae plastigion du ym mhob man. Maent ar silffoedd eich archfarchnad ac yn y moroedd a’r cefnforoedd ac mae’n bosibl eu bod i’w cael mewn halen môr hyd yn oed. Mae 60% o’r 8.7 miliwn+ o dunelli metrig o blastig a wnaed erioed yn gorwedd ar safleoedd tirlenwi am na ellir ei ailgylchu yn ein system bresennol. A bydd hyd yn oed y plastigau hynny y gellir eu hailgylchu yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw.

Ni ellir parhau i ailgylchu plastigau yn ddi-ben-draw, yn enwedig os byddwn yn defnyddio technegau traddodiadol. Dim ond unwaith y gellir ailddefnyddio’r rhan fwyaf ohonynt cyn iddynt fynd i mewn i’r ddaear, y cefnfor neu losgydd. Ond mae math gwahanol o broses ailgylchu a elwir yn ailgylchu cemegol yn cynnig gobaith. Yn fy ngrŵp ymchwil gwnaethom ddatblygu dulliau newydd o fynd i’r afael â’r broblem ddybryd hon sy’n tyfu. Rydym yn cymryd plastig du, yn ei ddadelfennu’n unedau moleciwlaidd bach ac yna’n adeiladu deunyddiau newydd gan ddefnyddio dull o’r gwaelod i fyny. Mae’r dull hwn yn seiliedig ar y technegau diweddaraf o fyd nanodechnoleg a nanobeirianneg. Mae’r deunyddiau rwy’n eu hadeiladu yn nanodiwbiau carbon ac rydym yn eu defnyddio ar gyfer gwifrau trydanol i drawsyrru pŵer trydanol neu signalau trydanol. Mae model arddangos i’w weld ar YouTube (Bach through nanotubes) lle rydym yn chwarae cerddoriaeth Sielo Bach drwy geblau sydd wedi’u gwneud o’n nanodiwbiau carbon. Er mwyn goroesi’n gyfforddus i’r ganrif nesaf a thu hwnt, rwy’n credu y dylemddod o hyd i ffyrdd gwell o lanhau ein hamgylchedd, cael gwared ar gymaint o sbwriel â phosibl o’n planed a gwneud trafnidiaeth drydan mor effeithlon â phosibl. Yn ein grŵp ymchwil rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o wneud hyn. Rwyf hefyd wedi dechrau cwmni er mwyn mynd â’r wyddoniaeth o’r fainc i’r farchnad hefyd.

YmMhrifysgol Abertawe, rwy’n addysgu Trosglwyddo Gwres (EG-103) i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy’n astudio Peirianneg Gemegol. Rwyf bob amser yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o’r gwaith ymchwil a datblygiadau mwyaf arloesol yn fy narlithoedd. Credaf ei bod yn bwysig bod myfyrwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol. Rwyf am iddynt sylweddoli pwysigrwydd yr hyn y maent yn ei ddysgu a chael y wybodaeth sy’n eu helpu i wneud y penderfyniadau gorau pan fyddant yn mynd i mewn i’r farchnad ar ôl iddynt raddio. Mae mwy i ddysgu na chofio, mae a wnelo hefyd â chyfuno elfennau i greu’r llwybr gorau ymlaen yn seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd

gennych o’ch blaen. Rwy’n gwneud i’m myfyrwyr meddwl nid dim ond dysgu, yna gallant dyfu a chreu atebion gwell i’r problemau y maent yn eu gweld o’u hamgylch.

Pa feysydd? Mae ymchwil Dr Alvin Orbaek White yn cynnwys myfyrwyr sydd â graddau mewn Peirianneg Awyrofod, Cemegol, Cyfrifiadurol, Mecanyddol a Deunyddiau, a Bioleg, Cemeg a Ffiseg.

P E I R I ANNE G YM MHR I F YSGO L A B E R TAWE

11

Made with FlippingBook Ebook Creator