Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Cyflwyniad

Yn 2019, yn ei adroddiad “Cyfiawnder yng Nghymru Dros Bobl Cymru” 1 , amlygodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas) bwysigrwydd technoleg ac arloesedd ar gyfer dyfodol gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru, gan ddarparu set eang o argymhellion i gefnogi moderneiddio’r sector. Fodd bynnag, cydnabu’r Comisiw n fod y man cychwyn braidd yn heriol: Er bod arferion cyfreithiol yng Nghymru yn defnyddio technoleg i gyflawni gwaith swmpus, wedi'i nwyddháu, nid oes gan arferion cyfreithiol Cymreig ar hyn o bryd ddigon o gapasiti i ddatblygu neu gaffael technolegau newydd. Yn wir, er bod gwasanaethau cyfreithiol yn y sector cyhoeddus wedi mabwysiadu technoleg mewn ffordd arwyddocaol a llwyddiannus, yn y sector preifat “prin fod y defnydd o dechnoleg yn bodoli” yng Nghymru. 2 Roedd yr asesiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad “Y Sector Cyfreithiol yng Nghymru - Adolygiad Cyflym” (adroddiad Jomati) a gyhoeddwyd gan Jomati Consultants LLP ym mis Mehefin 2019. 3 Amlygodd yr adroddiad hwn sawl ffactor sy’n llesteirio twf arloesi cyfreithiol sy’n seiliedig ar dechnoleg yng Nghymru, gan gynnwys diffyg (i) darparwyr gwasanaethau cyfreithiol ar-lein a chynigion amlddisgyblaethol siopau un stop, (ii) canolfannau gwasanaethau cyfreithiol agos i'n glannau (yn arbennig, canolfannau arloesi) , a (iii) marchnad leol ar gyfer talent Technoleg Gyfreithiol a hyfforddwyd ym mhrifysgolion Cymru. Yn gynnar yn 2020, agorodd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru 4 , gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ei ddrysau ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y Lab, gyda chefnogaeth tîm o ymchwilwyr a datblygwyr, oedd mynd i’r afael â rhai o’r materion a amlygwyd gan Gomisiwn Thomas ac adroddiad Jomati, gan wella arloesedd cyfreithiol yng Nghymru ar draws tri pharth: bygythiadau seiber, Technoleg Gyfreithiol, a mynediad i gyfiawnder.

Yn gynnar yn 2023, cynhaliodd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru waith mapio cynhwysfawr o arloesedd cyfreithiol yng Nghymru, a arweiniodd at ddrafftio’r adroddiad hwn. Fe wnaethom

1 Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, Cyfiawnder yng Nghymru Dros Bobl Cymru (Hydref 2019) ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-10/Justice%20Commission%20WEL%20DIGITAL.pdf. Sylwch yr ymwelwyd â phob URL a nodir yn yr adroddiad hwn ddiwethaf ar 30 Mehefin 2023. 2 Ibid, para 9.77. 3 Jomati Consultants LLP, Y Sector Cyfreithiol yng Nghymru - Adolygiad Cyflym (Mehefin 2019), ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-10/y-sector-cyfreithiol-yng-nghymru-adolygiad- cyflym.pdf. 4 Gwefan swyddogol: https://legaltech.wales/cy/hafan/.

5

Made with FlippingBook HTML5