Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

4.4 Golwg fanwl: Credas, Identitech, Validient, Wyser

Er mwyn deall a gwerthuso ecosystem cychwyn a thyfu Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru yn well, cynhaliom gyfweliadau â Credas, Identitech, Validient a Wyser. Nod y cyfweliadau oedd dysgu mwy am (a) eu profiad o sefydlu cwmni Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru, (b) nodweddion eu busnes, ac (c) yr amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo, gan gynnwys manteision a heriau entrepreneuriaeth yng Nghymru.

a) Sefydlu cwmni Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Ar gyfer y pedwar busnes newydd (start-up) ac sy'n tyfu (scale-up) a gyfwelwyd, y prif reswm dros ddewis Cymru fel y pencadlys oedd presenoldeb sylfaenwyr yng Nghymru neu, yn achos Wyser, bwriad y sylfaenydd i symud i Gymru yn y dyfodol.

62

Made with FlippingBook HTML5