Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Gyfreithiol 367 , gan ganolbwyntio ar ystod o dechnolegau cyfreithiol allweddol - dysgu peirianyddol, deallusrwydd artiffisial symbolaidd ac egluradwy, technolegau cyfriflyfr dosbarthedig, i archwilio eu rheoleiddio o safbwynt cyfreithiol a moesegol. Mae’r modiwl hefy d yn cynnig cyfres o weithdai rhyngweithiol lle mae’r myfyrwyr yn cyflwyno ac yn trafod enghreifftiau go iawn o gymwysiadau Technoleg Gyfreithiol.

5.3 Canolfannau ymchwil

Mae Prifysgol Abertawe yn gartref i Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru 368 , gweithrediad a ariennir gan Lywodraeth Cymru a WEFO drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae'r ganolfan yn cefnogi ymchwil mewn technoleg gyfreithiol, bygythiadau seiber a seiberderfysgaeth 369 , ac mae ganddo dîm o ddatblygwyr sy'n cydweithio ag ymchwilwyr academaidd i ddatblygu prototeipiau a phrofion cysyniad. Mae gan Brifysgol Caerdydd Ganolfan Trosedd, y Gyfraith a Chyfiawnder (Centre for Crime, Law and Justice), y mae ei chylch gwaith yn cynnwys “technolegau a throseddau sy'n newydd ddatblygu, gan gynnwys seiberdroseddu 370 ”, Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd 371 , a Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol 372 , sy'n cynnwys gofod ar gyfer busnesau newydd a phartneriaethau diwydiannol. 373 Mae Prifysgol De Cymru yn cynnal y Centre of Excellent in Mobile and Emerging Technologies (CEMET) 374 , sydd â’r nod o weithio gyda busnesau bach a chanolig eu maint ac academyddion o Gymru “i greu cynnyrch a gwasanaethau arloesol ar gyfer eich busnes a fydd yn siapio’r dyfodol”. 375 367 Prifysgol Abertawe, “LAA250 Sylfeini mewn Technoleg Gyfreithiol”, ar gael yn https://intranet.swan.ac.uk/catalogue/default.asp?type=moddetail&dept=any&mod=LAA250&ayr=23%2F24&psl=TB1 &detailOnly=false. 368 Gweler https://legaltech.wales/cy/hafan/. 369 Prifysgol Abertawe, “Y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau”, ar gael yn https://www.swansea.ac.uk/cy/y- gyfraith/cytrec/. 370 Prifysgol Caerdydd, "Cardiff Centre for Cr ime, Law and Justice”, ar gael yn https://www.cardiff.ac.uk/cy/research/explore/research-units/cardiff-centre-for-crime-law-and-justice. 371 Prifysgol Caerdydd, “Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd”, ar gael yn https://www.cardiff.ac.uk/cy/research/explore/research-units/centre-for-innovation-policy-research. 372 Prifysgol Caerdydd, “Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol”, ar gael yn https://www.cardiff.ac.uk/cy/social- science-research-park/about-us. 373 Prifysgol Caerdydd, “Arloesedd Caerdydd @sbarc”, ar gael yn https://www.cardiff.ac.uk/cy/innovation/innovation-campus/cardiffinnovations-at-sbarc. 374 Cemet, “Hafan”, ar gael yn https://www.cemet.wales/. 375 Ibid.

73

Made with FlippingBook HTML5