Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

6 - Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes Technoleg Gyfreithiol: map ffordd ar gyfer y dyfodol

Mae ein hymchwil i ecosystemau Technoleg Gyfreithiol Cymru wedi datgelu amgylchedd amlochrog a nodweddir gan enghreifftiau nodedig o arloesi ymhlith busnesau newydd (start- ups), busnesau sy'n tyfu (scale- ups), cwmnïau cyfreithiol a phrifysgolion. Mae potensial clir i’r holl rannau hyn o ’r ecosystem gydweithio, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r materion sydd hyd yma wedi cyfyngu ar dwf Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru, gan gynnwys y crynodiad o arloesedd yn ne Cymru a’r rhwystr cost ac arbenigedd sy'n wynebu cwmnïau cyfreithiol bach, ac i ddatblygu hunaniaeth fwy cydlynol ar gyfer diwydiant gwasanaethau cyfreithiol Cymru. Yn y bennod hon, rydym yn adolygu rhai o’n canfyddiadau allweddol ac yn datblygu argymhellion i gefnogi twf cynhwysol a chynaliadwy yn y sector Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru.

6.1 Canfyddiadau allweddol ein hymchwil

Mae Cymru yn gartref i fusnesau newydd arloesol, fel Validient, Identitech a Wyser, yn ogystal â chwmnïau blaengar, fel Credas, Hoowla a W2 Global Data. Mae'r busnesau newydd a'r busnesau sy'n tyfu hyn yn rhyngweithio â haen gyfoethog o gwmnïau sy'n gweithredu mewn sectorau cyfagos, yn enwedig Technoleg Ariannol, ac yn datblygu technoleg gyfreithiol fel rhan o'u gweithgareddau busnes. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy haen hon o entrepreneuriaeth yn dangos cryfd er y sector Technoleg Gyfreithiol sy’n tyfu a rôl Cymru fel amgylchedd busnes ffafriol ar gyfer Technoleg Gyfreithiol. Amlygodd y busnesau Technoleg Gyfreithiol newydd sydd wedi ymateb i’n cyfweliadau rai o nodweddion allweddol amgylchedd busnes Cymru sy’ n cefnogi eu twf: o fynediad hawdd i Lywodraeth Cymru, i gydweithio â phrifysgolion ac eraill yn y diwydiant, cymorth gan FinTech Wales, ac argaeledd cymorth busnes. Fodd bynnag, maent hefyd wedi nodi meysydd i’w gwella, o fynediad at fuddsoddiad preifat, i alw nas diwallwyd am dalent leol, problemau denu talent sy’n barod i adleoli i Gymru, cydweithio â chwmnïau cyfreithiol lleol, a diffyg canolfan Technoleg Gyfreithiol ganolog. Mae hefyd yn nodedig bod ein gweithgaredd mapio wedi nodi dim ond un busnes newydd neu fusnes sy'n tyfu y tu allan i dde Cymru.

Mae’n ymddangos bod arloesi ymhlith cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru yn canolbwyntio ar gynnyrch a gwasanaethau newydd, yn bennaf ym meysydd pyrth cleientiaid, apiau cwmnïau

75

Made with FlippingBook HTML5