Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Mae busnesau Technoleg Gyfreithiol newydd a busnesau sy'n tyfu wedi elwa ar fuddsoddiad cam cynnar o gronfeydd preifat, yn ogystal â thrwy Fanc Datblygu Cymru, er nad yw mynediad at rowndiau ariannu dilynol bob amser yn syth. Mae Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru a mentrau eraill a arweinir gan y llywodraeth wedi darparu cyllid ar gyfer canolfannau ymchwil, unedau hybu busnes, ac arddangoswyr technoleg. Mae cyllidwyr eraill y llywodraeth, megis Innovate UK, hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer busnesau newydd o Gymru, sydd hefyd wedi’u cefnogi gan gyflymwyr a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig. Mae nifer o gwmnïau cyfreithiol mawr a chanolig yng Nghymru wedi buddsoddi’n sylweddol mewn datblygu eu cynnyrch Technoleg Gyfreithiol eu hunain neu roi atebion masnachol ar waith. Felly, mae’n ymddangos bod buddsoddiadau mawr mewn arloesi yn bosibl yng Nghymru, ac mae gan y diwydiant gwasanaethau cyfreithiol, yn ei gyfanrwydd, y gallu i’w cefnogi. Mae risg yn rhwystr amlwg i arloesi i gwmnïau unigol, yn ogystal ag i brifysgolion. Mae hyn hefyd yn wir am gwmnïau cyfreithiol, sy’n destun gofynion r heoleiddio llym, ac yn fwy byth yn achos y llu o gwmnïau cyfreithiol bach a chanolig eu maint yng Nghymru sydd â throsiant blynyddol cyfyngedig a chronfeydd arian parod wrth gefn. Unwaith eto, fodd bynnag, mae safbwynt y diwydiant yn newid y darlun, oherwydd gall risg gael ei leihau'n sylweddol pan gaiff ei rannu ymhlith holl chwaraewyr y sector gwasanaethau cyfreithiol. Yn olaf, mae'r enillion posib i'r diwydiant yn amlwg yn sylweddol. Er i ni nodi uchod y gallai awydd cleientiaid gael ei effeithio gan faterion fel allgáu digidol, roedd argaeledd cyfleoedd marchnad gwerth dros £22 biliwn yn 2021 376 yn awgrymu nad yw pryderon ynghylch cost- enillion posibl yn rhwystr sylweddol i arloesi ar lefel diwydiant (hyd yn oed os yw’r tasgau o fynd i’r afael ag allgáu digidol, cefnogi llythrennedd digidol a darparu hyfforddiant ac arweiniad i ddefnyddwyr yn parhau i fod yn hollbwysig a dylid eu blaenoriaethu). Felly, credwn fod gan Gymru’r potensial i gyflawni arloesi sylweddol (paradigm) fel sector, gan adeiladu ar, a chydgysylltu, arbenigedd, profiad, adnoddau ac enw da ei holl gydrannau: cwmnïau cyfreithiol, prifysgolion, busnesau newydd (start-up) a busnesau sy'n tyfu (scale-up). Er mwyn cyrraedd y nod hwn, fodd bynnag, mae angen cydweithio a chydgysylltu gwych yn y sector, gan ddatblygu model arloesi cyfreithiol Cymreig cwbl gylchol.

376 Lawtech UK, “The Lawtech UK Report 2021, Shaping the Future of Law” (5 Gorffennaf 2021), 13, ar gael yn https://lawtechuk.io/insights/shaping-the-future-of-law-the-lawtechuk-report-2021.

77

Made with FlippingBook HTML5