Yr Ecosystem Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru

Colofn 1: Arbenigedd

Mae’r golofn hon yn gofyn am gydweithio rhwng holl gydrannau sector gwasanaethau cyfreithiol Cymru i hyfforddi gweithwyr proffesiynol y dyfodol ag ystod eang o gymwyseddau Technoleg Gyfreithiol: • Mae angen i Brifysgolion (i) gynnwys cwmnïau cyfreithiol a busnesau newydd wrth ddylunio cwricwla ar gyfer modiwlau a chyrsiau, (ii) cynnig cyfleoedd ar gyfer darlithio gwadd a threfnu darlithoedd a gweithdai ar y cyd, (iii) dylunio dulliau addysgu ac asesu arloesol sy'n dangos y sgiliau a enillwyd gan y myfyrwyr a'u gallu i arloesi, (iv) gwreiddio cyfleoedd ar gyfer lleoliadau mewn diwydiant a chydweithio arall gyda diwydiant fel gweithgareddau cwricwlaidd allweddol. • Mae angen i Gwmnïau cyfreithiol a busnesau newydd (start-ups) (v) wirfoddoli ar gyfer, a chefnogi, y gweithgareddau sydd newydd eu disgrifio, (vi) darparu interniaethau, lleoliadau neu gyfleoedd eraill (cysgodi, gweithdai, ac ati.) i fyfyrwyr, (vii) datblygu strategaethau cyflogaeth sy’n cefnogi’r ymrwymiadau hyn, yn arbennig buddsoddi mewn ffigurau pro ffesiynol cyfreithiol hybrid, (viii) cynnig amodau cyflogaeth teg sy’n cyd-fynd â safonau'r diwydiant a chydnabod y set sgiliau unigryw a ddatblygwyd gan raddedigion Technoleg Gyfreithiol Cymru. • At ei gilydd , dylai fod (ix) ymdrech gydlynol i adeiladu rhwydweithiau a pherthnasoedd sy'n cefnogi hyfforddiant gweithwyr proffesiynol tra chymwys a'u cyflogaeth yng Nghymru.

Colofn 2: Gwybodaeth

Mae'r golofn hon yn gofyn am gydweithio i nodi anghenion busnes ac achosion defnydd, cefnogi cyd-ddatblygiad cynnyrch Technoleg Gyfreithiol, ac archwilio technolegau blaengar:

• Mae angen i Gwmnïau cyfreithiol (i) ddatblygu polisïau i gasglu a chofnodi data mewnol a phennu eu hanghenion busnes mewn ffordd amlwg, (ii) yn unol â gofynion rheoleiddio perthnasol, nodi ffyrdd pe ndant o rannu data o’r fath a datgelu anghenion busnes, (iii) cydweithio â busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu mewn fforymau perthnasol i hwyluso deialog gyda’r nod o gefnogi cyd -ddatblygu cynnyrch Technoleg Gyfreithiol, (iv) ymgysylltu â rheoleiddwyr a r handdeiliaid eraill i fynd i’r afael â phryderon rheoleiddio posibl neu rwystrau eraill i gydweithredu â busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, (v) mynd ati i geisio cydweithredu â phrifysgolion lleol, gan fabwysiadu golwg hirdymor ar fanteision cydweithred u o’r fath, ac (vi) asesu eu tueddiad i arloesi ym maes Technoleg Gyfreithiol ar sail gwerthusiad gwrthrychol o gostau, enillion a galw gan gleientiaid.

80

Made with FlippingBook HTML5