EIN POBL, EIN GWERTHOEDD, EIN DIWYLLIANT A’N HYMDDYGIADAU
“Dwi’n meddwl bod na rywbeth sydd yn ein gwneud ni’n wahanol i brifysgolion eraill. Mae’n fwy na’n lleoliad a’n hymdeimlad o gymuned. Mwy na’r ffordd rydym yn addysgu neu’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n partneriaid, ac mae’n fwy na’n treftadaeth Gymreig. Mae’n anodd ei ddiffinio ond gallen ni ei alw’n ‘Anian Abertawe’.” KC, Gwasanaethau Myfyrwyr
Ein pobl yw ein hased pwysicaf ac maent yn diffinio ein Prifysgol. Rydym yn sefydliad egwyddorol . Rydym yn deall bod ein hymddygiad beunyddiol yn bwysig; mae gennym ffydd yn ein gilydd, rydym yn ein cefnogi ein gilydd, rydym yn dathlu cyflawniadau ein gilydd ac yn dwyn ein gilydd i gyfrif. Rydym yn parchu ein cydweithwyr ac yn trin eraill fel byddem yn disgwyl iddynt ein trin ni, ac rydym yn gweithio fel un brifysgol, gan gydnabod bod pob cydweithiwr a phob myfyriwr yn cyfrannu at ein llwyddiant. Byddwn yn buddsoddi yn ein pobl ac yn gwobrwyo perfformiad rhagorol. A byddwn yn hyrwyddo rhyddid llefaru. Wrth eirioli dros awtonomiaeth ac annibyniaeth academaidd, rydym yn cydnabod y bu llawer o’n cyflawniadau mwyaf nodedig yn seiliedig ar gydweithrediadau cynhyrchiol, â chydweithwyr mewnol ac yn allanol â’n cymuned a’n partneriaid, fel y rhagwelwyd gan ein sefydlwyr diwydiannol. Cawn ein huno gan ein hawydd i gydweithio er mwyn creu a rhannu gwybodaeth, datrys problemau byd-eang a gwneud gwahaniaeth i’r bywydau rydym yn cyffwrdd â nhw. Credwn yng ngwerth hyblygrwydd, cydweithredu a chreu amser i feddwl, gan ddilyn trywydd ysgogiad deallusol, gwreiddioldeb ac effaith. Rydym yn cydweithio mewn amgylchedd proffesiynol a gofalgar sydd yn ein galluogi i ragori ar ddisgwyliadau er lles pawb. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd lle gall ein cydweithwyr gyflawni eu potensial a byddwn yn rhoi cyfle i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli fynegi eu profiadau yn y gymuned ac yn cefnogi sgyrsiau am Hil, y Rhywiau a Thueddfryd Rhywiol. Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad lle mae pawb yn gyfrifol am gynhwysiant, ac mae Stonewall wedi ein cynnwys ar ei restr o’r
100 o gyflogwyr gorau yn y DU am gynwysoldeb yn y gweithle ers 2016. Rydym yn aelod o Gyflogwyr i Ofalwyr Cymru, Siarter Athena Swan a’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Rydym yn sefydliad â phwrpas a gyda’n gilydd rydym yn helpu i wneud y byd yn lle gwell. Os oes gennym ddelfrydau uchel, mae hynny’n deillio o‘r disgwyliadau uchel sydd gennym o’n hunain, o’r amgylchedd lle’r ydym yn gweithio, o’n partneriaid ac o’r effaith rydym yn ymdrechu i’w chyflawni yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn angor diwylliannol ac economaidd yn ein cymuned ac mae gennym rôl arbennig i’w chwarae wrth ysgogi datblygiad rhanbarthol a hybu iechyd a lles, ac rydym yn falch o fod yn gadarnle treftadaeth, iaith a diwylliant Cymru. Ar yr un pryd, rydym yn dathlu ein meddylfryd byd-eang. Mae’r myfyrwyr a’r staff o dros 140 o wledydd sydd wedi ymgartrefu yn Abertawe yn cyfoethogi ac yn llunio ein dinas, ein rhanbarth a’n gwlad, gan ddilyn olion troed ein 140,000 o gyn-fyfyrwyr o bob cwr o’r byd. I fod yn gystadleuol mewn marchnad addysg uwch fyd-eang, mae angen i ni weithredu â phwrpas a chyfrifoldeb wrth i ni ymdrechu am ragoriaeth. Mae hynny’n gofyn i ni fod yn gadarn , yn ariannol, yn strwythurol ac yn emosiynol yn ein hymateb i fygythiadau cenedlaethol a rhyngwladol, i fod yn barod i groesawu newid ac addasu iddo, a bod yn sensitif i anghenion a heriau cymdeithas. Yn anad dim, mae’n gofyn i ni fod yn ffyddlon i’n diwylliant arbennig ac i’r gymuned drugarog, oddefgar a chyd-gefnogol sy’n diffinio ein teulu Abertawe.
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
Made with FlippingBook Proposal Creator