Our Stategic Vision and Purpose Cym

ARWEINYDDIAETH A LLYWODRAETHU: Rydym yn gwerthfawrogi ein harweinwyr ar bob lefel yn ein Prifysgol ac yn cydnabod eu rôl sylfaenol wrth hyrwyddo ein gweledigaeth a chyflawni ein strategaeth. Mae arweinyddiaeth yn chwarae rhan hollbwysig wrth lunio ein diwylliant egwyddorol a byddwn yn buddsoddi yn ein harweinwyr drwy hyfforddiant a mentora. Ar yr un pryd, byddwn yn gweithio gyda Chyngor ein Prifysgol i lunio a chryfhau ein strwythurau llywodraethu ymhellach. Wrth i ni addasu i’r amgylchedd allanol newidiol, bydd ein harweinwyr yn fodelau rôl gweladwy y gellir ymddiried ynddynt, sy’n rhoi i ni’r hyder i ymateb i heriau a chyfleoedd wrth iddynt godi. Byddwn hefyd yn onest gyda’n gilydd a’n cymuned a byddwn yn cynnal sgyrsiau agored am Hil, Rhyw ac Anabledd; gan adeiladu ein henw da fel partner dibynadwy y gellir ymddiried ynddo. CYNALIADWYEDD: Byddwn yn ymdrechu i fod yn wydn yn ariannol ac yn amgylcheddol a byddwn yn buddsoddi mewn modd strategol a chyfrifol i gyflawni ein huchelgeisiau. Byddwn yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflawni amgylchedd mwy cynaliadwy ac rydym yn cydnabod bod rhaid i’n Prifysgol gyfrannu at dargedau amgylcheddol a bod gennym rôl i’w chwarae wrth gefnogi eraill i wneud hyn. Byddwn yn ymdrechu i fod yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2040 a byddwn yn cefnogi ein cymuned leol drwy brosiectau cynaliadwy a phrosiectau menter.

RHYNGWLADOLI: Drwy ein strategaeth ryngwladol, rydym yn ymrwymedig i gynyddu niferoedd ein myfyrwyr rhyngwladol, cryfhau ein partneriaethau strategol rhyngwladol yn Ewrop, UDA, Tsieina a Chanada, ehangu ein rhwydweithiau ymchwil byd-eang a chyflawni proffil byd-eang cryfach i’n Prifysgol. Byddwn yn cynnwys safbwyntiau rhyng- ddiwylliannol a byd-eang yn ein haddysgu, ein hymchwil, ein mentergarwch a phrofiad ein myfyrwyr a byddwn yn eu gwreiddio yn ein cenhadaeth ddinesig i sicrhau bod ein profiadau rhyngwladol yn cael effaith leol. YR YSTÂD DDIGIDOL A DIRIAETHOL: Rydym yn cydnabod y gwerth strategol y gall ein hisadeiledd digidol ei ychwanegu at ein haddysgu a’n hymchwil, yn ogystal ag at leihau ein hôl troed diriaethol a gwella ein hymdrech i fod yn fwy cynaliadwy. Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau digidol diogel a chadarn i gefnogi ac ehangu ein gwaith, gan hwyluso ein hymchwil, uchafu cyfleoedd dysgu a sicrhau y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau’n effeithlon ac yn gynaliadwy. Rydym yn falch o’n buddsoddiad £450 miliwn diweddar yng Nghampws y Bae a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein hystâd ddiriaethol er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr a’n cydweithwyr yn cael profiadau tebyg waeth ar ba gampws maent yn astudio neu’n gweithio.

CYFATHREBU: Rydym yn falch o’n gweithgarwch ymgysylltu â chymuned y Brifysgol a byddwn yn ehangu’r cyfryngau a’r fforymau rydym yn eu defnyddio i wrando ar ein cydweithwyr a’n rhanddeiliaid. Byddwn yn cyfathrebu mewn modd agored, gonest a thryloyw, gan gynyddu ymddiriedaeth a hyder yn ein Prifysgol a’r tu allan iddi. Byddwn yn dathlu llwyddiant ac yn darparu gwybodaeth amserol a chyson, ac ni fyddwn yn osgoi sgyrsiau anodd. Byddwn yn dyfeisio rhagor o ffyrdd o ymgysylltu â grwpiau mwy anodd eu cyrraedd, a bydd ein timau arweinyddiaeth yn hygyrch ac yn agos-atoch. RECRIWTIO: Byddwn yn parhau i ddenu cydweithwyr dawnus i ymuno â’n cymuned, gan groesawu’r safbwyntiau newydd ac amrywiol maent yn eu cynnig i’n timau academaidd a gwasanaethau proffesiynol. Yn ein tro, byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr i gyflawni rhagoriaeth a’u huchelgeisiau gyrfaol. Byddwn yn darparu mentora, hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad proffesiynol wedi’u teilwra, a byddwn yn cydnabod llwyddiant ein cydweithwyr ac yn eu gwobrwyo’n briodol.

EIN SYLFEINI GALLUOGI Rydym yn cydnabod y cyfraniad eang mae ein Prifysgol yn ei wneud i gymdeithas, yr economi a gwerthoedd diwylliannol dyfnach y genedl. Mae llwyddiant ein gweithgareddau craidd yn seiliedig ar y sylfeini galluogi sy’n cefnogi popeth a wnawn. Bydd rhoi ein strwythur cyfadran newydd ar waith yn ein helpu i fod yn fwy effeithlon a gwydn, ond rhaid i ni gynllunio hefyd am ddyfodol cynaliadwy sy’n cydbwyso buddsoddiad doeth mewn cyfleusterau newydd â’r angen i barhau i gefnogi a gwella ein hisadeiledd diriaethol a digidol presennol. Mae angen i ni gael ein harwain mewn modd proffesiynol mewn amgylchedd a lywodraethir yn dda, a byddwn yn addasu ein hoffer cyfathrebu’n barhaus i sicrhau bod ein staff, ein myfyrwyr a’n cymuned yn deall ein penderfyniadau. Bydd ein meddylfryd yn fwyfwy rhyngwladol, a byddwn yn taflu ein rhwyd yn eang i ddenu’r myfyrwyr a’r staff gorau oll sy’n rhannu ein huchelgais.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

Made with FlippingBook Proposal Creator