School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

Mae'r tîm Cyflogadwyedd yn yr Ysgol yn wych a gallant helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych; o gyfleoedd mentora i leoliadau a swyddi pan fyddwch yn graddio.

98% o'n myfyrwyr sy'n defnyddio ein gwasanaeth yn dweud ei fod yn ychwanegu gwerth at eu profiad yn y brifysgol *Arolwg adborth Apwyntiad Gyrfa 2018

GYRFAOEDD A

BSc ECONOMEG

Yr Ysgol Reolaeth yw'r unig Ysgol yn y Brifysgol â thîm ymroddedig o ymgynghorwyr gyrfa. Gyda hanes cryf o arwain myfyrwyr at gyflogaeth a rhwydwaith diwydiannol eang i ategu hynny, mae ein tîm Cyflogadwyedd pwrpasol yn ymrwymedig i sicrhau y cewch chi'r cymorth gorau sydd ar gael er mwyn i chi raddio gyda'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i'ch helpu i ddechrau ar eich gyrfa ddelfrydol ar ôl graddio.

MAE'R GEFNOGAETH YN CYNNWYS: • Apwyntiadau un i un • Sesiynau grwp • Digwyddiadau rhwydweithio i gwrdd â chyflogwyr posib • Ymweld â chwmnïau i gael ysbrydoliaeth am yrfaoedd yn y dyfodol • Cymorth wrth wneud ceisiadau • Profiad gwaith • Cymorth, arweiniad a chynllunio gyrfa wedi'u teilwra

CAEL EICH MENTORA GAN WEITHIWR BUSNES PROFFESIYNOL Fel myfyriwr yn yr Ysgol Reolaeth, bydd gennych gyfle i ymgymryd â'n Cynllun Mentora Cyflogadwyedd chwe mis o hyd. Mae'r cynllun yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â mentor ym myd busnes i fagu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a mewnwelediad gwerthfawr i'r byd gwaith. Gall eich mentor roi arweiniad gyrfa i chi a'ch helpu i wneud cysylltiadau pwysig â gweithwyr proffesiynol a chwmnïau eraill.

14

15

Made with FlippingBook HTML5