School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

Chwaraeon YN ABERTAWE

Mae gan yr Ysgol Reolaeth enw da rhagorol, dyna pam y dewisais astudio yma. Ar ben hynny, rwyf wedi derbyn cymorth anhygoel gan yr Ysgol, wrth i mi reoli fy astudiaethau ac ymrwymiadau chwaraeon gyda'r Gweilch a rygbi Cymru.

Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a'n hymrwymiad i chwaraeon a bywyd actif i bawb, o ddechreuwr i athletwr o'r radd flaenaf. Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, sydd wedi'i leoli drws nesaf i'n campws Parc Singleton, yn cynnwys pwll nofio 50m, trac rhedeg, canolfan athletau dan do, campfa a llawer mwy; tra mae gan ein Campws y Bae gaeau awyr agored, neuadd chwaraeon a champfa. Gyda'n dau leoliad ar draws y ddinas, nid ydych chi byth yn bell o gampfa Chwaraeon Abertawe neu faes chwarae.

BSc CYFRI FEG A CHYLL ID CHWARAEWR RYGBI GYDAG ACADEMI ' R GWE I LCH

Ar Gampws y Bae, gwnewch y mwyaf o'r cyfleusterau canlynol:

•Y Neuadd Chwaraeon – cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau gan gynnwys pêl-fasged, badminton, pêl-foli a saethyddiaeth •Ardal gemau aml-ddefnydd – yn ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi a chwaraeon pêl eraill •Ystafell gardio ac ystafell codi pwysau – mae'r cyfleusterau dan do hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau

•Llogi beiciau a llwybrau loncian – i fanteisio i'r eithaf ar y lleoliad godidog

12

13

Made with FlippingBook HTML5