School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

MAE EIN GWASANAETHAU CYMORTH YN CYNNWYS:

chi RYDYM YMA I Gwyddom fod pawb angen cymorth weithiau, dyna pam mae gan yr Ysgol Reolaeth dîm Profiad Myfyrwyr pwrpasol wrth law i ddarparu cyngor ac arweiniad proffesiynol a myfyriwr-ganolog ar bob agwedd ar fywyd myfyrwyr - pryd bynnag y mae ei angen arnoch, ar unrhyw adeg drwy gydol eich astudiaethau. Os ydych yn chwilio am gyngor neu gymorth gyda materion megis cyllid, tai, perthnasoedd, iechyd meddwl a lles, eich astudiaethau neu berfformiad academaidd, gallwn eich helpu neu eich cyfeirio at yr adnoddau priodol y tu mewn a'r tu allan i'r Brifysgol. Yn ogystal â hyn, ein tîm Profiad Myfyrwyr yw'r cyswllt adrannol ar gyfer cymdeithasau myfyrwyr ein Hysgol ac mae'n cynnal calendr cymdeithasol o weithgareddau cynhwysol i gyfoethogi eich profiad myfyriwr. Maent hefyd yn gweithio'n agos â'n cynrychiolwyr myfyrwyr (y dewiswyd gan eu cyfoedion) i sicrhau y clywir eich llais, gan eich caniatáu i gyfrannu at gyfeiriad a diwylliant yr Ysgol yn y dyfodol.

IECHYD

LLES

ANABLEDD

ARIAN

LLESIANT

MYFYRWYR RHYNGWLADOL

LLWYDDIANT ACADEMAIDD

CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

FFYDD

CYMUNED

"Fy swydd yw casglu adborth gan fyfyrwyr a'i rannu gyda staff academaidd; gan sicrhau bod pawb yn cael yr hyn y maent ei eisiau allan o'u graddau. Mae'n deimlad gwych bod yn yr ystafell pan mae'r awgrymiadau a wnewch yn cael eu gweithredu o flaen eich llygaid. Mae wir yn teimlo fel fy mod yn gwneud gwahaniaeth." Elizabeth Lomas BSc RHEOL I BUSNES (CYLL ID) , CYNRYCHIOLYDD COLEG 2019

AMRAGOR OWYBODAETH YNGLYN Â'R CYMORTH SYDD AR GAEL: swansea.ac.uk/cy/astudio/ adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfywyr ˆ

10

11

Made with FlippingBook HTML5