School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

UNDEB Y MYFYRWYR a Chymdeiłthasau Mae cymdeithasau'n rhan annatod o'ch profiad fel myfyriwr, ac mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un meddylfryd a gwneud ffrindiau newydd. Gall hefyd eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd o gymorth wrth chwilio am gyflogaeth yn y dyfodol – yn enwedig os ydych yn ymgymryd â rôl arwain yn y grwp. Mae gan Brifysgol Abertawe fwy na 150 o gymdeithasau, felly mae digon i chi ddewis o'u plith. Caiff pob cymdeithas ei chynrychioli yn ystod Ffair y Glas. Gall hyn fod yn gyfle gwych i gwrdd ag aelodau presennol a chael gwybod yr hyn sydd gan bob cymdeithas i'w gynnig.

GWNEWCH EICH HUN yn gartrefol Mae gennym lawer o opsiynau llety, pob un ohonynt yn cynnig amgylchedd cyfeillgar lle gallwch ymlacio a mwynhau'ch annibyniaeth. Tafliad carreg o'r traeth, sy'n ymylu ar Benrhyn Gwyr ac yn enwog ym mhedwar ban byd, gyda'ch llety hunan-arlwyo, byddwch wrth eich bodd yn eich cartref newydd ar naill ai Campws Singleton neu Gampws y Bae, neu yn un o'n lleoliadau preswyl pwrpasol oddi ar y campws. Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig newydd, amser llawn, mae cael llety yn warantedig (rhaid bod gennych gynnig cadarn am le yn Abertawe a rhaid gwneud cais am lety cyn 30 Mehefin).

CYMDEITHASAU GAN YR YSGOL REOLAETH: •Cyfrifeg •Busnes •Economeg •Rhwydwaith Entrepreneuriaid •Buddsoddi a Chyllid •Menywod mewn Busnes Abertawe Mae ein cymdeithasau yn trefnu a chynnal llu o ddigwyddiadau cynhwysol i bob myfyriwr drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys cwisiau, nosweithiau pizza a ffilm, dawnsfeydd gala a gweithgareddau rhwydweithio i gwrdd ag arbenigwyr y diwydiant a chyflogwyr o'ch maes pwnc. Mae rhywbeth at ddant pawb!

Pleidleisiwyd Abertawe yn

DDINAS FWYAF CROESAWGAR,

CYFEILLGAR A DIBYNADWY'R DU (Provident UK 2018)

"Rwyf wedi ymuno â'r Gymdeithas Buddsoddi, Cymdeithas Hong Kong a'r Gymdeithas Cerddoriaeth (rwy'n canu'r piano). Byddwn yn dweud wrth unrhyw fyfyriwr ei bod yn bwysig ymuno â chymdeithas yn hytrach nag aros yn eich ystafell. Cewch eich synnu pa mor gyflym y gwnewch ffrindiau newydd!" Tak Yin Crystal Au BSc RHEOL I BUSNES GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/llety

8

9

Made with FlippingBook HTML5