School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

Nid yw’n gyfrinach bod Prifysgol Abertawe yn lle anhygoel i astudio: rydyn ni ymhlith y 10 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (NSS 2020). Ar ben hynny, byddwch chi’n ymuno ag Ysgol sy’n meddu ar gyfleusterau ac addysgu o safon fyd-eang sydd wedi ysbrydoli llu o raddedigion llwyddiannus ac mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys yn y prosbectws hwn. Wedi’i lleoli ar Gampws y Bae, mae’r Ysgol Reolaeth ymhlith y 35 orau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Rhagolygon Gyrfa ym maes Economeg, Busnes, Rheoli a Marchnata ac mae ymhlith y 10 orau ar gyfer Cyfrifyddu a Chyllid (Guardian University Guide 2021). Darllenwch ragor am yr hyn y gall yr Ysgol Reolaeth ei gynnig i chi yn y prosbectws hwn. Mae gennym ddolenni i fideos lle bydd ein staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr yn dweud mwy wrthych chi am eu profiadau yn Abertawe. Croeso i BRIFYSGOL ABERTAWE YR YSGOL REOLAETH

Ymhlith y 10 TREF BRIFYSGOL FWYAF FFORDDIADWY YNY Y (totallymoney.com 2019)

Lleoliad Fel dinas gosmopolitan a ffyniannus ar lan y môr, mae Abertawe'n cynnig milltiroedd o draethau arobryn ynghyd â chanol dinas bywiog llawn diwylliant. P'un a'ch bod am fynd i syrffio, mynd i ddigwyddiad barddoniaeth neu noson o gerddoriaeth fyw, gwylio gêm o rygbi neu bêl-droed neu fwynhau hufen iâ ym mharlwr enwog Joe's - Abertawe yw'r ddinas sy'n gallu cynnig y cyfan.

Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad at amrywiaeth anhygoel o wasanaethau a chymorth:

Tîm Cyflogadwyedd Pwrpasol

Fel yr unig Ysgol yn y Brifysgol â'i thîm pwrpasol o gynghorwyr

gyrfa, byddwch yn gallu gweithio gyda thîm sy'n

ychwanegu gwerth at brofiad o brifysgol yn ôl 98% o'r myfyrwyr sydd eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth * .

BYWYD CAMPWS

O'r eiliad y camwch ar y campws am y tro cyntaf, bydd pob math o opsiynau ar gael i chi ar gyfer eich amser.

*Arolwg adborth Apwyntiad Gyrfa 2018

Am ragor o wybodaeth, gallwch hefyd fynd i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

Graddau achrededig Mae nifer o'n graddau wedi'u hachredu, sy'n eich gwneud yn ddeniadol iawn i gyflogwyr y dyfodol. Cymdeithasau Mae'r Ysgol Reolaeth yn gartref i gymdeithasau myfyrwyr gwych lle gallwch gwrdd â phobl o'r un meddylfryd.

Ydych chi am astudio ar un o'r mannau gwyrdd niferus sydd ar y campws ? Dim problem.

Eisiau coffi ? Cymerwch bum munud yn un o'r sawl siop goffi ar y campws.

Mae'n 2yb ac rydych chi'n wyllt yn ceisio gorffen yr aseiniad hwnnw mae'n rhaid ei gyflwyno erbyn 9yb ac rydych chi am ddefnyddio'r llyfrgell ? Eto, dim problem.

Buddsoddwch yn eich dyfodol YN YR YSGOL REOLAETH

6

7

Made with FlippingBook HTML5