School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

Hyfforddiant A MYNEDIAD am ddim I FYFYRWYR ar gael

DATBLYGWCH EICH SGILIAU DIGIDOL GYDA'N

Mae'r Ysgol yn gartref i'n prosiect newydd a mwyaf cyffrous hyd yma, sef ystafell creu fideos a chynnwys digidol gwbl weithredol. P'un a'ch bod am greu cynnwys digidol ar gyfer eich prosiect blwyddyn olaf, hyrwyddo'ch busnes newydd neu ffilmio flog, mae gan yr Ystafell Gyfryngau offer o safon ddiwydiannol, ac arbenigedd meddalwedd a thechnegol i sicrhau y bydd eich cynnwys mor effeithiol â phosib. Ein Hystafell Gyfryngau yw'r amgylchedd perffaith i chi ddatblygu'r sgiliau digidol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ac sy'n fwyfwy defnyddiol yn y gweithle – sgiliau fel datrys problemau, bod yn greadigol, llythrennedd y cyfryngau cymdeithasol a pharodrwydd i ddysgu. Caiff dros 1 biliwn o oriau fideo eu gwylio bob dydd ar YouTube yn unig, ac mae'r cyfleuster Ystafell Gyfryngau yn ddelfrydol i'ch helpu i fynnu lle yn y farchnad hon. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw archebu slot gyda'r tîm i ddarganfod sut y gallant eich helpu gyda'ch gwaith, derbyn hyfforddiant ar greu fideo a chynnwys creadigol!

Gyda chymorth y tîm Cyflogadwyedd, sicrheais leoliad blwyddyn gyda thîm cyfryngau mewnol yr Ysgol Reolaeth, sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi, megis ffilmio ar leoliad, creu fideos a golygu, yn ogystal â dealltwriaeth o'r byd cyfryngau masnachol. A bydd pob un o'r rhain yn fy helpu i sefyll allan ymhlith y dorf wrth ymgeisio am swydd ar ôl i mi raddio. Safa Saleem BSc RHEOL I BUSNES GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT CYNORTHWYYDD YR YSTAFELL GYFRYNGAU

22

23

Made with FlippingBook HTML5