School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

EIN HACHREDWYR PROFFESIYNOL

Beth yw Cwrs Achrededig? Cwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan gorff proffesiynol perthnasol gan ei fod yn bodloni ei safonau. Mae'n amlygu'r cysylltiad agos rhwng diwydiant a'ch cwrs/gradd, gan ddod ag arferion y byd go iawn, o'r radd flaenaf i'ch astudiaethau. Gan eu bod yn cyfrif tuag at eich cymwysterau a'ch cofrestriadau, gall cyrsiau achrededig eich helpu i roi eich llwybr gyrfa dewisol ar garlam. Sut byddaf yn gwybod bod cyrsiau'r Ysgol Reolaeth wedi'u hachredu? Edrychwch ar ein tudalen we Achrediad Proffesiynol i weld gyda pha gyrff proffesiynol rydym yn gweithio a pha gyrsiau maent yn eu hachredu: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/achrediad Sylwer, i sawl proffesiwn, mae astudio cwrs achrededig yn gam cychwynnol yn unig at fod yn gwbl gymwys. Gallwch wirio gyda'r cyrff proffesiynol perthnasol am ofynion penodol eraill. ACHREDIAD Rhowch eich gyrfa ar garlam

Mae Sefydliad Siartredig Cyfrifyddion Cymru a Lloegr yn sefydliad aelodaeth

broffesiynol a sefydlwyd

Mae Cymdeithas y Cyfrifyddion Siartredig yn gorff rhyngwladol blaenllaw ar gyfer cyfrifyddion. Mae cymhwyster ACCA yn profi i gyflogwyr eich bod yn hyfedr ym mhob agwedd ar gyfrifyddiaeth.

Mae'r Sefydliad Marchnata Siartredig yn gorff proffesiynol yn y DU sy'n cynnig hyfforddiant a chymwysterau mewn Marchnata a phynciau cysylltiedig.

gan y Siarter Frenhinol ym 1880. Ei brif nod yw cynnal a hyrwyddo safon uchel o ymarfer ac ymddygiad proffesiynol yn y diwydiant cyfrifyddiaeth.

Eisiau gwybod pa achrediad sy'n berthnasol i'ch cwrs chi ? Cymerwch gipolwg ar ein cyrsiau o dudalen 30 .

Mae Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig yn gymdeithas fyd-eang o ymarferwyr buddsoddi proffesiynol sy'n pennu'r safon ar gyfer rhagoriaeth yn y sector.

Y Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli yw corff proffesiynol cyfrifwyr rheoli mwyaf, a mwyaf blaenllaw'r byd. Maent yn cynhyrchu cyfrifwyr rheoli siartredig byd-eang sy'n gallu arwain sefydliadau tuag at lwyddiant cynaliadwy.

BETH YW'R MANTEISION?

Byddwch ar flaen y gad – Bydd graddau wedi'u hachredu'n broffesiynol yn eich eithrio rhag arholiadau/cymwysterau proffesiynol cam cynnar penodol, sy'n golygu y gallwch roi eich gyrfa ar garlam. Cymorth – Cofrestrwch am aelodaeth myfyrwyr a gallwch ddechrau elwa o gymorth gyrfa corff proffesiynol, yn ogystal â chysylltiadau â chyfoedion. Mae'n edrych yn dda ar eich CV ac mae'n eich helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth.

Y Sefydliad Rheolaeth Siartredig yw'r unig gorff proffesiynol yn y DU sy'n ymrwymedig i hybu'r safonau uchaf mewn rheolaeth a rhagoriaeth arweinyddiaeth.

24

25

Made with FlippingBook HTML5