School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

Prifysgol Abertawe YSGOLORIAETHAU Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i wobrwyo rhagoriaeth academaidd, chwaraeon a cherddorol ei myfyrwyr, ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i helpu tuag at gostau astudio. Mae bwrsariaethau ar sail incwm ar gael hefyd, ynghyd â chyllid tuag at astudio mewn gwlad arall os ydych yn dewis gwneud hynny fel rhan o raglen radd. YSGOLORIAETHAU DATBLYGU DYFODOL YR YSGOL REOLAETH: Ynghyd â chymorth ariannol o £2,000 am flwyddyn academaidd cewch hefyd gyfle i ennill sgiliau gwerthfawr y byddant yn gwella eich gyrfa. Er enghraifft, bydd gan ddeiliaid yr Ysgoloriaeth y cyfle i gael profiad gwaith ymarferol yn yr Ysgol Reolaeth a gweithio gyda'r timau Recriwtio a Marchnata mewn sawl digwyddiad, megis Diwrnod Agored. Ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol y maent wedi derbyn cynnig lle i astudio yn yr Ysgol Reolaeth yn ystod 2021-2022** **ni fyddai unrhyw fyfyriwr sy’n derbyn Bwrsariaeth Bontio’r Undeb Ewropeaidd yn gymwys i dderbyn .Ysgoloriaeth Datblygu Dyfodol oherwydd nad oes modd ei chyfuno ag unrhyw fwrsariaeth/ysgoloriaeth arall.

£3,000 YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH ar gyfer AAA yn Safon Uwch* £2,000 YSGOLORIAETHAU TEI- LYNGDOD ar gyfer AAB yn Safon Uwch* HYD AT £2,000 YSGOLORIAETHAU DAT- BLYGU DYFODOL* Ar gael i fyfyrwyr israddedig rhyngwladol sydd wedi derbyn cynnig lle i astudio yn yr Ysgol Reolaeth.

Yr Ysgol Haf YR YSGOL REOLAETH

Roedd y tri diwrnod yn llawn sesiynau rhyngweithiol a oedd yn defnyddio achosion busnes go iawn a oedd yn wych wrth ddeall sut y byddai ein graddau'n berthnasol yn y byd gwaith go iawn.

Sophie Mahoney

HYD AT £5,500 PECYN YSGOLORIAETHAU CHWARAEON* £1000 YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH CERDDORIAETH*

•Cael rhagflas ar fywyd yn y brifysgol •Sut i sefyll allan o'r dorf, cryfhau eich datganiad personol a'ch cais UCAS •Ennill profiad drwy fynychu gweithdai wedi'u harwain gan academyddion blaenllaw •Datblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau

Rydym wrth ein bodd yn ysbrydoli disgyblion ac yn eu helpu i ddilyn y llwybr cywir i Addysg Uwch. A ydych chi'n athro/ athrawes ? Pam na wnewch chi ddod ag un o'ch dosbarthiadau i'n gweld, neu adael i ni ddod i'ch ysgol neu goleg am sesiwn blasu pwnc ? Darganfod mwy

RHAGOR OWYBODAETH swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ysgoloriaeth-datblygu-dyfodol Dylai myfyrwyr rhyngwladol a'r UE fynd i: swansea.ac.uk/international-students/my-finances *Telerau ac amodau yn berthnasol, ewch i: swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan neu e-bostiwch ni: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ysgol-haf • somsummerschool@abertawe.ac.uk

26

27

Made with FlippingBook HTML5