School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

RHESTRIR Y GRADDAU SY'N CYNNIG Y FLWYDDYN SYLFAEN ISOD: Gradd BSc Integredig gyda Blwyddyn Sylfaen - • NN4F BSc Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen • N40F BSc Cyfrifeg gyda Blwyddyn Sylfaen • N10F BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen • N32F BSc Rheoli Busnes (Dadansoddeg Busnes) gyda Blwyddyn Sylfaen • 470F BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn Sylfaen • N1GF BSc Rheoli Busnes (e-Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen • N13F BSc Rheoli Busnes (Cyllid) gyda Blwyddyn Sylfaen • N60F BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen • N2NF BSc Rheoli Busnes (Ymgynghoriaeth Reoli) gyda Blwyddyn Sylfaen • N1NF BSc Rheoli Busnes (Marchnata) gyda Blwyddyn Sylfaen • 480F BSc Rheoli Busnes (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) gyda Blwyddyn Sylfaen • N12F BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth) gyda Blwyddyn Sylfaen • L10F BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen • L12F BSc Economeg a Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen • L11F BSc Economeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen • N30F BSc Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen • N50F BSc Marchnata gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r Ysgol Reolaeth yn ymroddedig i sicrhau y bydd myfyrwyr yn cyrraedd eu potensial llawn, gan dorri ffordd ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ym maes cyfrifeg, cyllid, busnes ac economeg. Y Flwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0) yw eich llwybr chi at radd anrhydedd yn yr Ysgol Reolaeth. Os nad ydych chi'n bodloni ein gofynion mynediad traddodiadol am fynediad uniongyrchol, gallwch ddechrau'ch gradd drwy astudio Blwyddyn Sylfaen yn y Coleg. Wrth gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd. Ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am fodiwlau a chyrsiau, ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth Dylai myfyrwyr o dramor (o'r tu allan i'r UE) fynd i swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/ colegau/y-coleg am ragor o wybodaeth. CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295111 Dyma rai enghreifftiau o'r pynciau y byddwch yn eu hastudio yn ystod y Flwyddyn Sylfaen: •Busnes •Meddwl yn Feirniadol •Economeg •Globaleiddio •Sgiliau Dysgu a Chyfathrebu Rhyngweithiol

BLWYDDYN SYLFAEN yn y Coleg

Mae'r Coleg yn cynnig llwybrau academaidd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arwain at raddau israddedig. Pan fyddwch yn astudio yn y Coleg, byddwch yn fyfyriwr llawn yn y Brifysgol o ddechrau'r cwrs. Byddwch yn rhan o deulu mewn amgylchedd anffurfiol a chefnogol lle cewch eich addysgu mewn grwpiau llai. Gyda'n hathroniaeth addysgol bwrpasol a chefnogol, cewch eich annog i gyflawni'ch potensial academaidd llawn. Mae myfyrwyr o amrywiaeth o wledydd a chefndiroedd cymysg yn cyfoethogi'ch profiad myfyriwr ymhellach. Mae gan y Coleg adeilad pwrpasol ar lan y môr ar Gampws y Bae, yn agos i'r Ysgol Reolaeth. Mae hefyd neuadd breswyl 411 o ystafelloedd i fyfyrwyr y Coleg, hefyd ar Gampws y Bae.

28

29

Made with FlippingBook HTML5