Gan ei fod yn un o'r diwydiannau mwyaf sy'n ehangu fwyfwy yn y byd, mae agweddau busnes a dynol twristiaeth bellach yn feysydd astudiaethau sefydledig. Mae cysylltiadau cryf yr adran â diwydiant lleol a rhyngwladol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o gyrchfannau twristaidd o bob maint yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ym mhedwar ban byd. Gyda marchnata cyrchfannau ac effaith economaidd wrth wraidd y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â theithiau maes ac achosion go iawn a fydd yn dod â chyrchfannau'n fyw * . BSc RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL
YMGEISIWCHNAWR
Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio amrywiaeth o gyrchfannau twristaidd. Mae ymweliadau yn y gorffennol wedi cynnwys ymweld â Distyllfa Wisgi Penderyn, sef distyllfa wisgi o safon, maes chwarae'r Scarlets a thaith i Nepal. Dyluniwyd teithiau maes fel y gall myfyrwyr ddeall cymhlethdodau a gofynion cynnal cyrchfan twristaidd. Mae'r daith i Nepal yn ystyried datblygu cymunedol yn benodol drwy dwristiaeth a bydd yn cynnwys teithiau i Katmandu, Annapurna ac ardaloedd gwledig eraill sy'n dechrau elwa o dwristiaeth ar gyfer twf economaidd. Sylwer, bod costau'r teithiau maes yn ychwanegol at ffioedd y cwrs. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o deithiau maes gorfodol, yn lleol a thramor (gall y cyrchfannau amrywio o flwyddyn i flwyddyn) * . Mae'r rhain yn cynnwys taliad ychwanegol o oddeutu £1,700 dros gyfnod y rhaglen. Bydd unigolion yn gallu gwneud cais am fwrsariaethau teithio gan yr adran a thîm Ewch yn Fyd- eang y Brifysgol fel cymhorthdal tuag at y costau ychwanegol hyn.
3 BLYNEDD LL AWN AMSER 4 BLYNEDD LL AWN AMSER
gyda blwyddyn dramor/ blwyddyn mewn diwydiant
CYNNIG NODWEDDIADOL : ABB – BBB ( neu gy f we r t h ) Yn ogystal, bydd angen 6.0 (5.5) IELTS ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mynediad yn ystod yr ail flwyddyn ar gael i ymgeiswyr cymwys.
SGILIAU A ENILLIR:
N800 N801 N802
BSc Rheoli Twristiaeth Ryngwladol
DATRYS PROBLEMAU
gyda Blwyddyn Dramor
CYFATHREBU
gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
GWNEUD PENDERFYNIADAU
BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT AR GAEL
BLWYDDYN DRAMOR AR GAEL
MEDDWL YN FEIRNIADOL
GALL Y MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO GYNNWYS:
GWAI TH T ÎM
Blwyddyn 1 Twristiaeth a Chymdeithas;
Blwyddyn 2 Materion Cyfoes ym maes Twristiaeth; Entrepreneuriaeth ar gyfer Profiadau Twristaidd; Dadansoddi Strategol; Twristiaeth mewn Ymarfer; Sefydliadau Twristiaeth; Dylunio a Rheoli Profiad Ymwelwyr.
Blwyddyn 3 Lleoedd Marchnata; Prosiect Blwyddyn Olaf; Twristiaeth Gynaliadwy; Cynllunio Twristiaeth; Dyfodol Twristiaeth; Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Busnes.
Gyrfaoedd yn y Dyfodol: • Marchnatwr Twristiaeth • Rheolwr Llety • Rheolwr Cyrchfan • Marchnatwr Cyrchfan
Rheoli Pobl; Marchnata; Rheoli Gweithrediadau; Y Busnes Twristiaeth; Cyd-destun Byd-eang Sefydliad.
CYSYLLTWCH ÂNI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295111 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth
*Gall teithiau maes, yn cynnwys teithiau maes rhyngwladol, fod yn agored i newid. Rhoddir gwybod i bob myfyriwr am unrhyw newid a wneir i faes llafur y rhaglen.
50
51
Made with FlippingBook HTML5