School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

ARBENIGEDD YMCHWIL

•Twf a datblygiad economaidd •Economeg o ddewis, gemau a chystadleuaeth •Economeg Lles a Llesiant •Economeg Iechyd, Ynni a'r Amgylchedd •Economeg Llafur •Economeg Ranbarthol a Daearyddiaeth Economaidd •Macro-economeg Amser Cyfres ac Economeg Ariannol

ECONOMEG

Os ydych yn dymuno cael effaith ar gymdeithas drwy siapio polisi economaidd neu'n dymuno ennill sylfaen gadarn yn y rhesymau pam fod economi'r byd yn plygu a newid, mae gradd o'n hadran Economeg yn berffaith i chi. Mae ein graddau yn eich herio i archwilio sut mae ein meddylfryd economaidd yn effeithio ar ein penderfyniadau; o ba ffôn i'w brynu i ba blaid wleidyddol i bleidleisio drosti. Yn ogystal â'r modiwlau economaidd craidd, bydd gennych y rhyddid i deilwra eich gradd drwy ddewis y modiwlau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau orau. Yn Abertawe, mae ein hathrawon arobryn yn eich ymdrochi mewn ymchwil flaenllaw ac addysgu a arweinir gan ddiwydiant er mwyn datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy. Trwy ddulliau asesu arloesol gan ddefnyddio cyfryngau digidol, cwisiau rhyngweithiol, cyflwyniadau yn ogystal â sesiynau mathemategol a dadansoddi, mae hyn yn caniatáu i chi ehangu eich set sgiliau greadigol.

SGILIAU A ENILLIR:

RHEOL I AMSER

RHI F IADOL

TROSOLWG YMCHWIL:

DADANSODDOL

CYFATHREBU

Dr Simon Rudkin, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg

DATRYS PROBLEMAU

Y CYFRYNGAU DIGIDOL

Archwiliwch ymchwil Dr Rudkin a gwrandewch ar ei bodlediad Archwilio Problemau Byd-eang yn trafod y broses benderfynu y tu ôl i brynu tocyn loteri a sut mae data mawr yn llywio llunio polisi ar gyfer lles cymdeithasol yn y bennod Mae mwy i fywyd nag arian: sut ydym yn mesur hapusrwydd?

GWNEUD PENDERFYNIADAU

GWAI TH T ÎM

Roeddwn erioed yn gwybod fy mod eisiau astudio economeg ac fe wnaeth dysgu am hyblygrwydd y cwrs yn Abertawe fy helpu i benderfynu. Roedd yr ystod o fodiwlau yn anhygoel a golygai y gallwn deilwra fy ngradd i beth y mae gennyf wir ddiddordeb ynddo. Mae'r modiwlau hefyd wedi fy nghefnogi'n uniongyrchol yn fy rôl bresennol fel Economegydd Cynorthwyol.

TROSOLWG MODIWL:

Eisiau gwybod mwy am Economeg yn Abertawe? Edrychwch ar ein tudalen we Canllaw i Economeg

✓ Dysgu sut i egluro a chymhwyso damcaniaeth nwyddau cyhoeddus ✓ Trafod yn feirniadol y rhesymau pam mae llywodraethau yn bodoli ac ehangu ✓ Barnu modelau pleidleisio a'u goblygiadau ✓ Cysylltu modelau damcaniaethol â'r cofnod empirig ✓ Datblygu eich sgiliau dadansoddol a datrys problemau Dewis Cyhoeddus - modiwl opsiynol blwyddyn olaf Cewch ddysgu sut yr effeithir ar ganlyniadau economaidd pan mae llunwyr polisi yn ymdrechu i gael eu hethol ac mae gan bleidleiswyr ddiddordeb ynddynt eu hunain

CYSYLLTWCH ÂNI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295111 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

MYFYRIWR GRADDEDIG BSc ECONOMEG ECONOMEGYDD CYNORTHWYOL YN YR ADRAN BUSNES , YNNI A STRATEGAETH DDIWYDIANNOL

52

53

Made with FlippingBook HTML5