Civil Ceremonies in Cardiff.indd

SEREMONÏAU SIFIL YNG NGHAERDYDD

Images, Sacha Miller

Y rhagarweiniadau Cyfreithiol Cyn eich bod yn gallu priodi mewn priodas sifil yng Nghymru a Lloegr neu gael partneriaeth sifil mae’n rhaid i chi roi hysbysiad cyfreithiol o’ch bwriad i wneud felly. Mae rhybudd o fwriad i briodi yn ddogfen gyfreithiol sy’n ddilys am un flwyddyn ac mae’n rhaid i bob parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil roi hysbysiad yn bersonol. Mae’r wybodaeth ganlynol hefyd yn wir os byddwch yn priodi mewn seremoni grefyddol ac ar gyfer priodasau yn yr Eglwys yng Nghymru neu yn Eglwys Lloegr os yw y naill ohonoch neu’r llall yn wladolyn tramor. Mae’n rhaid bod y ddau ohonoch yn byw mewn ardal gofrestru yng Nghymru neu Loegr ers o leiaf saith diwrnod cyn rhoi hysbysiad yn y swyddfa gofrestru. Os yw’r ddau ohonoch yn byw yn yr un ardal bydd angen i chi rhoi hysbysiad yr un a gofynnir i chi fod yn bresennol gyda’ch gilydd. Os ydych chi’n byw mewn ardaloedd cofrestru gwahanol bydd angen i bob un ohonoch roi hysbysiad yn

Os buoch yn briod neu drwy bartneriaeth sifil o’r blaen, bydd angen i chi ddangos yr archddyfarniad absoliwt neu’r dystysgrif diddymu â stamp gwreiddiol y llys arni. Os yw eich cyn-wˆ r, cyn-wraig neu cyn-bartner sifil wedi marw, bydd angen i ni weld copi ardystiedig o’i dystysgrif marwolaeth.

eich ardal eich hun. Mae’n rhaid cyflwyno hysbysiadau o leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn y gall y briodas neu’r bartneriaeth sifil gael ei chynnal, ond cewch chi roi hysbysiad hyd at flwyddyn ymlaen llaw. Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn wladolyn tramor mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod mewn swyddfa gofrestru ddynodedig ac mae’n bosibl y bydd cyfnod aros gwahanol yn berthnasol Cysylltwch â ni i gael rhagor o arweiniad. Dogfennau angenrheidiol Pan fyddwch yn rhoi hysbysiad o briodas bydd angen i chi gyflwyno prawf o bwy ydych chi. Mae pasbortau dilys yn ddelfrydol, ond os nad oes gennych basbort, Byddwyn yn gallu eich cynghori ynglyn a’r dogfennau derbyniol. Yn ogystal bydd angen dangos prawf preswyl, er enghraifft bil dwˆ r/ trydan ddiweddar, cyfriflen banc, trwydded gyrru dilys y DU, neu bil treth y Cyngor.

Os ydych chi wedi newid eich enw trwy weithred newid enw neu ddatganiad statudol, bydd angen dangos y tystysgrifau.

Os na allwch ddarparu’r dogfennau uchod, cysylltwch â ni i gael rhagor o gyngor.

16

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker