Civil Ceremonies in Cardiff.indd

SEREMONÏAU SIFIL YNG NGHAERDYDD

Images, Jake Morley Photography

Adeiladau cymeradwy ar gyfer priodasau sifil a phartneriaethau sifil Caerdydd yw un o’r ardaloedd prysuraf yng Nghymru a Lloegr ar gyfer seremonïau mewn adeiladau cymeradwy ac mae gennym bron 50 o leoliadau bendigedig ledled Dinas Caerdydd sydd wedi’u trwyddedu ar gyfer dathlu priodasau sifil, partneriaethau sifil ac achlysuron eraill. Mae’r rhain yn amrywio o westai gwledig i gestyll hanesyddol, a stadia i leoliadau bwtîc mwy dethol. I gael gwybodaeth am y lleoliadau sydd ar gael lle y gallech ddewis i gael eich seremoni, Cymrwch cipolwg ar rhestr ein lleoliadau cymeradwy ar ein gwefan www.cardiffregisteroffice.co.uk.

unrhyw adeg o’r diwrnod gyda chytundeb y lleoliad a’r gwasanaeth cofrestru. Yn gyntaf mae’n rhaid i chi archebu lle gyda’ch dewis leoliad ac wedyn cadarnhau gyda ni y bydd swyddogion cofrestru ar gael ar y dyddiad a’r amser hwnnw. Mae’n hanfodol eich bod yn cytuno ar ddyddiad ac amser y seremoni gyda’r lleoliad a’r swyddfa gofrestru cyn gwneud unrhyw drefniadau eraill. Sylwer y bydd gofyn am flaendal na ellir ei ad-dalu ar gyfer archebu’r swyddogion cofrestru ac y bydd strwythur ffioedd gwahanol o bosibl yn gymwys ar gyfer seremonïau a gynhelir y tu allan i oriau gwaith arferol.

y dymunwch, a fydd yn rhoi digonedd o amser i chi wneud trefniadau eraill ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Gellir gwneud archeb dros dro dros y ffôn neu’n bersonol yn y swyddfa gofrestru. Ar gyfer pob archeb mewn adeiladau cymeradwy, mae gofyn am flaendal na ellir ei ad-dalu a byddwch yn cadarnhau’r swm ar adeg gwneud yr archeb. Ar gyfer archebion yn ystafelloedd seremonïau’r swyddfa gofrestru (Ystafell y Swyddfa Gofrestru, Ystafell Santes Dwynwen ac Ystafell Dewi Sant), mae’n bosibl y bydd gofyn am daliad llawn ar yr adeg y gwnaed yr archeb. Mae rhagor o fanylion a manylion am ein ffioedd presennol ar ein gwefan www.cardiffregisteroffice.co.uk. Ym mhob achos bydd angen i chi gyflwyno eich hysbysiadau cyfreithiol priodas neu bartneriaeth sifil ar yr adeg briodol er mwyn cadarnhau eich archeb. Mae manylion llawn am y broses hon yn yr adran ganlynol a rhoddir arweiniad ar y gofynion penodol i chi a’ch partner pan fyddwch yn gwneud eich archeb.

*nid Dydd Nadolig

Archebu Seremoni Mae bob amser yn syniad da i archebu eich seremoni cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn wir p’un ai a ydych yn cael eich seremoni mewn un o ystafelloedd seremonïau yn y swyddfa gofrestru, neu mewn un o’n hadeiladau cymeradwy. Rydym yn gweithredu system archebu dros dro a fydd yn eich galluogi i archebu eich seremoni mor bell ymlaen llaw ag

Gall seremonïau mewn adeiladau cymeradwy gael eu cynnal ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau’r flwyddyn* ac ar

6

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker