Adnoddau'r Ganolfan Ymchwil i Ymarfer

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight Defnydd rhieni o sylweddau a chanlyniadau addysgol plant

EL1

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Defnyddion ni adolygiad cwmpasu a ddewisodd 51 o astudiaethau a oedd yn edrych ar y berthynas rhwng y defnydd o sylweddau gan rieni a chanlyniadau addysgol plant.

Beth gall ymchwil eisoes ei ddweud wrthym am hyn? Pa feysydd o ddeilliannau addysgol y mae defnydd rhieni o sylweddau yn effeithio arnynt? Ble mae angen mwy o ymchwil arnom?

Yr hyn a ddarganfuom

Roedd defnydd rhieni o sylweddau yn cael ei gysylltu’n negyddol a chyrhaeddiad addysgol plant, h.y. roedd ganddynt raddau is.

1

Roedd defnydd rhieni o sylweddau yn gysylltiedig â’r ffaith bod eu plant mewn perygl o ddioddef problemau ymddygiad, cael eu disgyblu yn yr ysgol, bod eu presenoldeb yn yr ysgol yn is, bod eu gallu academaidd yn is a’u presenoldeb yn uwch mewn ‘dosbarthiadau arbennig’ a oedd yn ymwneud â chynnydd a disgyblaeth academaidd. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw farn gyffredin ynghylch a oedd plant rhieni sy’n defnyddio sylweddau yn mwynhau’r ysgol yn llai na’u cymheiriaid er mwyn gwella lles.

2

3

Pam mae hyn yn bwysig

Amcangyfrifir bod gan 3.7% o blant riant sy’n hysbys i’r gwasanaethau alcohol a chyffuriau, a bod llawer o rieni eraill yn bodoli sydd â rhyw lefel o ddibyniaeth ar alcohol yn ogystal â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Mae yna hefyd blant sydd angen cymorth addysgol ychwanegol efallai na chlywir sôn amdano – 'y niweidiau cudd'.

Gwybodaeth bellach

Dr Emily Lowthian, Darlithydd, Prifysgol Abertawe: e.m.lowthian@abertawe.ac.uk

Lowthian, E. (2022). The Secondary Harms of Parental Substance Use on Children’s Educational Outcomes: A Review. Journal of Child & Adolescent Trauma . 15, 511-522. https://doi.org/10.1007/s40653-021-00433-2

Made with FlippingBook HTML5