Welsh Language and Culture Strategy Cymraeg

Galluogi gwaith cyflawni

• Creu cynllun gweithredol 2022-27 a fydd yn sail i’r Strategaeth hon a chynllun busnes cysylltiedig i ehangu adnoddau i gyflawni ei nodau. • Ei gwneud yn ofynnol i bob Cyfadran ddatblygu ei chynllun gweithredol ei hun i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth. • Atgyfnerthu deallusrwydd marchnata er mwyn inni allu cysylltu mewn ffordd ystyrlon â chynulleidfaoedd Cymraeg a hyrwyddo natur unigryw ein diwylliant i gynulleidfaoedd rhyngwladol. • Sicrhau bod llais y myfyrwyr yn rhan annatod o weithrediad y strategaeth drwy gydweithio ag Undeb y Myfyrwyr a’i aelodaeth. • Dylanwadu ar brosesau cynllunio a gweithredu ar draws y Brifysgol i ganiatáu digon o amser i gyfieithu dogfennau staff/ myfyrwyr. • Monitro cynnydd wrth weithredu pob un o bileri Strategaeth y Gymraeg ledled y Brifysgol, a nodi ymyriadau a chymorth ychwanegol gofynnol i gyflawni pob amcan. • Nodi mentrau ac arferion gorau newydd yn genedlaethol ac yn fyd-eang sy’n atgyfnerthu dwyieithrwydd mewn lleoliad astudio neu weithle, sy’n cynnig cyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg ac yn ein galluogi i fod yn fwy llwyddiannus drwy weithio ar y cyd ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol. • Annog y sefydliad cyfan i gyflawni Strategaeth y Gymraeg drwy gyfathrebu’n rheolaidd, rhwydweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, cydnabod a gwobrwyo gwerth ein pobl a’u cefnogi i gyflawni.

Mae’r Strategaeth yn cefnogi – ac yn cael ei chefnogi gan – strategaethau’r Brifysgol ar gyfer Dysgu ac Addysgu, Ymchwil ac Arloesi, Rhyngwladoli, a Recriwtio Myfyrwyr. Caiff ei hategu gan ddau gynllun gweithredu cyflenwol, un ar gyfer darpariaeth academaidd, ymchwil a’r genhadaeth ddinesig cyfrwng Cymraeg, a’r llall ar gyfer y Gymraeg yng ngweithrediadau a gweinyddiaeth y Brifysgol. Arweinir gwaith cyflawni’r Strategaeth gan Academi Hywel Teifi a Swyddfa Polisi’r Gymraeg, a bydd yn tynnu ar waith ymgysylltu â’r tair Cyfadran a’u hysgolion, yn ogystal â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach, Academi Cynwysoldeb a Chymorth i Ddysgwyr Abertawe, Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, Academi Cyflogadwyedd Abertawe, y Ganolfan Llwyddiant Academaidd ac Undeb y Myfyrwyr o ran y ddarpariaeth academaidd a’r cymorth i fyfyrwyr. Bydd ymrwymiad i gyflawni’r strategaeth gan dimau gwasanaethau proffesiynol ledled y Brifysgol, gyda chyfraniadau allweddol penodol gan y meysydd gwasanaeth canlynol: Cyfieithu, Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol, Adnoddau Dynol, MyUni, Bywyd Myfyrwyr a Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau. ER MWYN CYFLAWNI STRATEGAETH Y GYMRAEG Y BRIFYSGOL YN LLWYDDIANNUS AR Y CYD, BYDDWN YN: • Mynd i’r afael ag ystod o systemau mewnol a pholisïau er mwyn ein galluogi i hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn well fel sgil gwerthfawr yn y gweithlu, ymhlith ein staff a’n myfyrwyr. • Gwneud defnydd gwell o ddata dibynadwy ynghylch sgiliau Cymraeg myfyrwyr presennol, darpar fyfyrwyr a staff y Brifysgol er mwyn targedu meysydd allweddol o ddatblygiad a chyfleoedd.

Made with FlippingBook Digital Publishing Software