MYND I’R AFAEL Â HERIAU’R BYD GO IAWN
AR Y CLAWR
YN Y RHIFYN HWN
Un o atyniadau Prifysgol Abertawe i mi oedd ei hymrwymiad i wneud gwaith ymchwil sy’n effeithio ar y byd go iawn. Wrth ymuno â’r Brifysgol eleni, yng nghanol y pandemig, rwyf wedi gweld gwir ysbryd arloesol ein staff a’n myfyrwyr a’u cefnogaeth i’r gymuned leol a’r gymuned ehangach, sydd wedi dangos sut mae ein sgiliau a’n harbenigedd ymchwil ar y cyd â’n tosturi yn gwneud Abertawe’n unigryw. Mae uchelgais y Brifysgol yn cyd-fynd â llwyddiannau amlwg y gellir eu mesur mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf. Mae’r fframwaith yn asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU bob saith mlynedd. Yn 2014, cawsom ein cynnwys ymysg y 30 uchaf ar y rhestr o brifysgolion sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil. O ganlyniad i Covid-19, gohiriwyd amserlen Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 am bedwar mis yn gynharach eleni. Roedd yn seibiant mawr ei angen gan fod llawer o’n gweithwyr wedi gorfod cyd-bwyso cyfrifoldebau gofalu a gweithio. Roedd gweithwyr eraill mewn swyddi clinigol yn ymateb i’r sefyllfa drwy fynd i’r rheng flaen. Mae llawer o’n hymchwilwyr wedi ceisio ateb cwestiynau ymchwil sylweddol a gwirioneddol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y pandemig. Mae’n bosib y gellir cynnwys peth o’r gwaith ymchwil hwn yn ein hastudiaethau o effaith a bydd yr amser ychwanegol yn rhoi mwy o gyfle i ni ddilyn effaith ein hymchwil. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r cydweithwyr niferus sydd wedi parhau i weithio’n galed ar bob agwedd ar y cyflwyniad dan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn wyneb adfyd eithafol eleni, mae swm y cyllid ymchwil sydd wedi deillio o gyrff cyllido mawr yn parhau i fod yn gadarnhaol – rhywbeth y dylem ymfalchïo ynddo. Yn 2020 (blwyddyn academaidd 2019/20), dyrannwyd £68m o gyllid ymchwil i Brifysgol Abertawe, sy’n fwy na’r £62m a ddyrannwyd yn 2018/19. Mae’r swm hwn
yn cynnwys cyllid ar gyfer gweithgarwch ar y cyd â sefydliadau cyhoeddus a phreifat a rhai yn y trydydd sector a fydd yn ysgogi arloesedd a thwf. Oherwydd y llwyddiant hwn, gwnaethom sicrhau’r cyllid mwyaf gan UKRI o blith prifysgolion y tu allan i aelodau Grŵp Russell yn 2019/20 (yn ôl Times Higher Education), sy’n deyrnged i’n rhagoriaeth ymchwil ac ymdrechion cydweithredol diflino ein holl gymuned ymchwil, ynghyd â chefnogaeth gref a pharhaus ein rhanddeiliaid allweddol. Mae’r cyfryngau wedi datgan ers misoedd lawer mai cyllid yw’r her fwyaf sy’n wynebu prifysgolion yn y DU, o ganlyniad i effeithiau disgwyliedig Covid-19 ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Mewn gwirionedd, pe bai rhywun wedi gofyn i mi nodi’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch ar ddechrau’r flwyddyn, byddwn wedi rhoi’r un ateb – ond am resymau gwahanol. Rydym wedi treulio’r degawdau diwethaf yn meithrin perthnasoedd dwfn ac effeithiol â phartneriaid yn Ewrop. Er ei bod yn gynyddol annhebygol y byddwn yn gallu sicrhau’r un cyllid drwy Ewrop, rydym wedi manteisio ar gyllid gan yr UE wrth iddo barhau i fod ar gael, gan sicrhau cyllid gwerth £17m, o’i gymharu ag £8m yn 2018/19, ac ers 2014 rydym wedi arwain 22 o brosiectau a ariennir gan gronfeydd strwythurol Ewropeaidd a chefnogi 19 o brosiectau eraill, gyda grantiau gwerth £133m. Mae’r llywodraeth yn addo ffrydiau cyllido newydd er mwyn sicrhau y gallwn fod yn gryfach ac mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â heriau’r byd ar ôl Covid-19 a’r cyfnod pontio cyn gadael yr UE. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi hwb sylweddol o ran cyllid ymchwilio a datblygu i sefydliadau yng Nghymru, gan dalu 75% o gostau prosiectau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth i wella perfformiad a chynhyrchiant diwydiant drwy gydweithredu â phrifysgolion y DU. Byddwn yn parhau i edrych tua’r dyfodol a bod yn barod i ymateb i alwadau am y cyllid hwn – rydym eisoes wedi sicrhau
Croeso i rifyn hydref 2020 Momentwm .
Mae’r rhifyn hwn yn tynnu sylw arbennig at gyfraniad y Brifysgol yn ystod pandemig Covid-19. Roedd angen y syniadau mwyaf arloesol drwy gydol yr argyfwng ac rydym wedi ymdrechu i wneud yr hyn rydym wedi’i wneud erioed: sef defnyddio ymchwil i ymateb i anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Rydym wedi gallu defnyddio ein gwybodaeth mewn ffyrdd penodol iawn. Er enghraifft, gan wybod y gallai eu harbenigedd helpu’r GIG, dechreuodd staff a myfyrwyr Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ymchwilio i ddyluniadau a manylebau ar gyfer defnyddio argraffyddion 3D i gynhyrchu feisorau i amddiffyn yr wyneb; gwnaeth un o’n labordai technoleg solar newid dros dro i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos mewn ymateb i’r prinder affwysol ledled y wlad; ac o ganlyniad i’r brys ychwanegol i chwilio am frechlynnau, a ffyrdd newydd o’u cyflwyno, mae dull newydd chwyldroadol o roi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd yn cael ei brofi ym Mhrifysgol Abertawe, diolch i gyllid gwerth £200,000 o’r UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn archwilio goblygiadau seicolegol a chorfforol y feirws, gan ymchwilio i effeithiau cadw pellter cymdeithasol ac ynysu ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl, a chyfranogi mewn astudiaeth newydd i ystyried effaith strategaeth cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU ar lefelau gweithgarwch corfforol y boblogaeth. Os yw Covid-19 wedi atgyfnerthu’r ymdeimlad ein bod yn gymuned fyd-eang, mae hefyd wedi atgyfnerthu ein hymdeimlad o gymuned fel Prifysgol, gan ddangos, mewn ffyrdd gwirioneddol, pam mae ymchwil wrth wraidd popeth a wnawn.
Sarah Aldridge yw enillydd cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2019 Prifysgol Abertawe. Ariannwyd y cais gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ac fe’i gwnaed mewn cydweithrediad â Dr Graziella Iossa, Darlithydd mewn Swoleg ym Mhrifysgol Lincoln. Mae’r ddelwedd hon yn dangos arwyneb aur, hynod batrymog wy sy’n perthyn i anifail ag adenydd. Esboniodd Sarah: “Yn ôl yr olwg, gallai fod yn wy i ddraig, ond mae diamedr y ddelwedd yn llai na milimetr. Dyma ficrograff o wy teigr y coed, sy’n dangos harddwch patrymau fel hyn, yn ogystal â’u hymarferoldeb. “Credir bod y patrwm cymesur yn gweithredu fel twmffat, gan sianelu sberm tuag at y mandyllau sydd yng nghanol y rhosglwm a dylanwadu ar gyfraddau ffrwythloni.” Ar hyn o bryd, mae Sarah yn gwneud ymchwil ôl-raddedig yn allanol yn Ysgol Gwyddorau Bywyd Prifysgol Lincoln.
cyllid gwerth £20.8m gan Lywodraeth y DU yn 2019/20, o’i gymharu â £7.7m yn 2018/19, sy’n gynnydd calonogol a sylweddol o ffynhonnell y byddwn yn fwy dibynnol arni o bosib wrth i’r cyfnod pontio cyn gadael yr UE ddirwyn i ben. Dros y pum mlynedd nesaf, rwy’n rhagweld y byddwn yn datblygu ein cymuned ymchwil academaidd ymhellach, gan recriwtio pobl dalentog i weithio yn ein hamgylchedd ymchwil ardderchog, a’u datblygu a’u cadw. Bydd cysylltiad unigryw rhwng ein hymchwilwyr a’r bobl a fydd yn defnyddio ein hymchwil yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac y bydd eu bywydau’n gwella o ganlyniad i’n gwaith. Bydd ein syniadau, ein harbenigedd a’n pobl yn fwy adnabyddus a byddant yn llywio ein byd. Mae ymuno â’r Brifysgol ar yr adeg eithriadol hon wedi dangos i mi y gallwn oroesi’r cyfnodau anoddaf a dal i gyflawni pethau mawr. Mae hyn yn dangos ein gallu i arloesi’n gyflym dan bwysau, a gwydnwch a dyfeisgarwch pob un ohonom. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o Brifysgol Abertawe ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o’n cymuned wrth i ni ddechrau ein canrif nesaf. Yr Athro Helen Griffiths Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil ac Arloesi
Cyhoeddir Momentwm gan yr Adran Cyfathrebu Strategol. Ceir rhagor o wybodaeth drwy ffonio Mari Hooson ar +44 (0)1792 513455 neu drwy e-bostio m.hooson@abertawe.ac.uk ©Prifysgol Abertawe 2020 Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig (Rhif 1138342). Am ragor o wybodaeth am ymchwil Prifysgol Abertawe:
03
04
07
MYND I’R AFAEL Â HERIAU’R BYD GO IAWN
CRYNODEB O’R NEWYDDION
EFFAITH Y CYFYNGIADAU SYMUD AR WEITHGARWCH CORFFOROL A LLES
EICONAU YMCHWIL I gyfleu portffolio ymchwil eang Prifysgol Abertawe, rydym wedi creu cyfres o eiconau - cynrychioliadau graffig o’n meysydd ymchwil y byddwch chi’n eu gweld ar frig tudalennau’r cylchgrawn canmlwyddiant hwn. Ar hyn o bryd, mae gennym saith maes gwahanol o ymchwil gydag un eicon i bob un fel a ganlyn:
08
11
14
DYFODOL CYNALIADWY, YNNI A’R AMGYLCHEDD
DYFODOL DIGIDOL
CYFIAWNDER A CHYDRADDOLDEB
ARLOESEDD DUR
ARBENIGEDD YMCHWIL YN HELPU GWEITHWYR Y GIG
£6 MILIWN AR GYFER TECHNOLEG SOLAR Y GENHEDLAETH NESAF
BYGYTHIAD RHETHREG FILITARAIDD WRTH DRAFOD COVID-19
DIWYLLIANT, CYFATHREBU A THREFTADAETH
GWEITHGYNHYRCHU CLYFAR
ARLOESI YM MAES IECHYD
Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil ewch i www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/
2 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe
Made with FlippingBook - Online Brochure Maker