Momentum Magazine Autumn 2020 CYM

C R Y N O D E B O ’ R N E W Y D D I O N

C R Y N O D E B O ’ R N E W Y D D I O N

DEALL ANGHENION IECHYD MEDDWL A LLES AR ÔL COVID-19 Mae’r ymchwilwyr sy’n gyfrifol am astudiaeth newydd fawr sy’n nodi sut mae pobl Cymru wedi ymdopi â’r argyfwng coronafeirws yn apelio am wirfoddolwyr i rannu eu profiadau. Mae’r astudiaeth, a arweinir gan yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, yn archwilio effaith coronafeirws ar iechyd meddwl a lles emosiynol poblogaeth Cymru. Mae pob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru’n cydweithio ar y prosiect, sef Wales Wellbeing. Meddai’r Athro Gray: “Mae hwn yn faes ymchwil pwysig iawn a fydd yn helpu’r GIG i olrhain anghenion lles y boblogaeth ar adegau gwahanol y pandemig. Rhoddir ein casgliadau o’r arolwg hwn, a’r rhai dilynol, i bob bwrdd iechyd pan fyddant ar gael. Yna gallant ddefnyddio’r casgliadau hyn – a’r data craidd sy’n sail iddynt – i weld ble y mae angen cymorth fwyaf a pha fath o gymorth y mae ei angen ar gyfer pa rannau o’r boblogaeth.” Mae’r grŵp ymchwil a arweinir gan yr Athro Gray, o Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol, hefyd yn cynnwys yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd, a Dr Chris O’Connor, Cyfarwyddwr Adrannol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Dywedodd yr Athro Gray fod y grŵp yn ddiolchgar am gymorth y darparwr arolygon electronig ar-lein Qualtrics, a’r cymorth mawr a roddwyd gan Stuart Williams a thri myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe. Ychwanegodd: “Bu’n galonogol gweld y ffordd y mae pawb yn cydweithio er mwyn ceisio helpu’r GIG i gefnogi pobl Cymru gyda’u hanghenion iechyd meddwl a lles yn ystod y pandemig hwn. Rwy’n teimlo’n falch iawn o fod yn Gymraes ar hyn o bryd ac o fod yn rhan o’r gymuned gref ym Mhrifysgol Abertawe.”

CYLLID Y CANMLWYDDIANT I YMLADD YN ERBYN COVID-19 A CHEFNOGI MYFYRWYR Bydd Prifysgol Abertawe, sy’n nodi ei chanmlwyddiant eleni, yn defnyddio cyllid a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer digwyddiadau dathlu er mwyn ymladd yn erbyn Covid-19 a hyrwyddo arloesedd. Rhoddodd yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle, wybod i aelodau o staff a myfyrwyr fod pandemig Covid-19 wedi arwain at ohirio’r holl ddigwyddiadau canmlwyddiant corfforol er mwyn cadw cymuned y Brifysgol yn ddiogel. Yn eu lle, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhithwir i nodi’r achlysur hanesyddol. Mae’r Brifysgol hefyd wedi ailgyfeirio cyllid gwerth £200,000 a neilltuwyd ar gyfer dathliadau’r canmlwyddiant, ynghyd â rhoddion, er mwyn cefnogi myfyrwyr, aelodau o staff ac academyddion talentog drwy ddarparu grantiau i ymchwilio i Covid-19 a rhoi hwb i’r gronfa galedi myfyrwyr i helpu myfyrwyr y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol. Meddai’r Athro Boyle: “Ers agor ein drysau 100 mlynedd yn ôl rydym wedi arloesi, cydweithredu a datblygu i fod yn sefydliad campws deuol o safon ryngwladol, sy’n gwasanaethu ei gymuned, yn addysgu ei bobl, yn mynd i’r afael â phroblemau byd-eang ac yn darparu cartref i lawer o bobl. Mae ein gorchestion wedi cael effaith ar y byd mewn sawl ffordd, ac rydym yn hynod falch ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon yn ein hanes cyfoethog. “Er ein bod yn siomedig i beidio â dathlu wyneb yn wyneb â’n staff, ein partneriaid, ein cyn-fyfyrwyr, ein myfyrwyr a’n ffrindiau, rhaid i ni sicrhau diogelwch ein cymunedau a chydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i nifer ymhlith teulu Abertawe. “Byddwn hefyd yn dechrau gweithio ar raglen newydd o ddigwyddiadau a gynhelir unwaith y gallwn ymgynnull yn ddiogel yn y dyfodol. “Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ar hyn o bryd, mae hwn yn gam pwysig sy’n tanlinellu ein hymrwymiad i ymchwil effeithiol a gofal dros ein myfyrwyr. Mae’r egwyddorion hyn wedi bod yn rhan o’n hanfod ers 100 mlynedd a bydd hynny’n parhau wrth i ni edrych ymlaen at ein canrif nesaf.” Yr Athro Paul Boyle

DEFNYDDIO NWY I LANHAU AMBIWLANSYS AR FRYS

Y tîm glanhau ambiwlansys

Mae tîm o ymchwilwyr o’r Coleg Peirianneg wedi ennill cyllid i brofi dull newydd o ddiheintio ambiwlansys sydd wedi cludo cleifion Covid-19 posib, a fyddai’n cwtogi’r amser glanhau ambiwlans o 45 munud i lai nag 20 munud. Dan arweiniad Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr her oedd cwtogi’r amser roedd ei angen i lanhau cerbyd yn drylwyr a’i roi yn ôl ar waith. Roedd cais Prifysgol Abertawe ymysg y deuddeg gorau a sicrhaodd gyllid. Bydd y tîm yn profi dull newydd o ryddhau nwy yn sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared ar Covid-19 o’r arwynebau a’r awyr mewn llai nag ugain munud, heb angen i berson wneud unrhyw waith glanhau. Darparwyd cymorth i’r her gan y cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch (DASA) a gwyddonwyr y Llywodraeth yn Porton Down. Os bydd y profion yn llwyddiannus, gellid cyflwyno’r system i wasanaethau brys eraill, trafnidiaeth gyhoeddus a wardiau ysbyty. Meddai Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru: “Mae’n prifysgolion a’n colegau wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. “Rwy’n falch bod prifysgol o Gymru wedi cyrraedd cam cyllido’r gystadleuaeth, gan ddangos sut gall ein prifysgolion roi eu harbenigedd academaidd ar waith wrth wynebu’r heriau mwyaf sydd o’n blaenau.”

Meddai Dr Chedly Tizaoui o Brifysgol Abertawe, peiriannydd cemegol a phrif ymchwilydd y prosiect: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gael gweithio gyda chymorth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI i ddarparu ateb cyflym posib ar gyfer glanhau ambiwlansys. Mae’n gyfle gwych i ni helpu gwasanaethau rheng flaen a’n cydweithwyr iechyd yn y frwydr yn erbyn Covid-19.” Bydd Dr Tizaoui yn gweithio ar y prosiect gyda’r Athro Dave Worsley a’r Athro Peter Holliman.

Ceir mwy o wybodaeth yn wales-wellbeing.Co.Uk/cy

Dr Karen Perkins, aelod o’r tîm glanhau ambiwlansys

4 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 5

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker