Momentum Magazine Autumn 2020 CYM

E R T H Y G L

RHOI BRECHLYNNAU DRWY GLYTIAU MICRONODWYDD

Clwtyn trawsdermig gan Innoture. Credyd: Innoture

Mae ffordd newydd chwyldroadol o roi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd yn cael ei phrofi ym Mhrifysgol Abertawe, diolch i gyllid gwerth £200,000 gan yr UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Gall nodwyddau hypodermig traddodiadol fod yn frawychus ac yn boenus. Gallai micronodwyddau wella ufudd-dod cleifion ac arwain at ganlyniadau iechyd gwell. Mae micronodwyddau’n fân nodwyddau, wedi’u mesur mewn miliynfedau metr (μm), a’u nod yw cyflwyno meddyginiaethau drwy’r croen. Maent yn debyg i’r clytiau trawsdermig a ddefnyddir i gyflwyno nicotin er mwyn helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu. Innoture, cwmni o’r DU sy’n arbenigo mewn rhoi meddyginiaethau drwy’r croen, sy’n arwain y gwaith ymchwil. Mae’r cwmni

wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ers 2012. Mae adran Ymchwilio a Datblygu Innoture wedi’i lleoli yn Athrofa Gwyddor Bywyd y Brifysgol, lle cynhaliwyd gwaith ymchwil mewn cydweithrediad â’r Ganolfan NanoIechyd, sy’n meddu ar gyfleusterau ar gyfer cynhyrchu micronodwyddau a chynnal profion trawsdermig. Bydd yr ymchwil yn datblygu ac yn profi technoleg ar gyfer cyflwyno brechlynnau drwy’r croen. Bydd hefyd yn profi proses waredu syml a diogel, a fyddai’n caniatáu i’r clytiau gael eu gosod gartref. Meddai’r Athro Owen Guy, Pennaeth Cemeg a Chyfarwyddwr Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe: “Mae defnyddio clytiau micronodwydd i gyflwyno brechlyn yn ffordd gyffrous o ddatblygu technoleg clytiau trawsdermig Innoture.” Esboniodd Dr Michael Graz, Prif Swyddog Gwyddonol Innoture: “Mae’r clwtyn yn ddi-boen ac yn tarfu ar y claf cyn lleied â phosib wrth iddo ei osod ei hun. Ar adeg pan fo angen hunanynysu, gellir gosod y clwtyn yn hwylus gartref

dan gyfarwyddyd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan leihau’r angen i bobl fynd i glinig. Yn ogystal, o ran gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae’n byrhau ymgynghoriadau neu apwyntiadau a gallai gael gwared ar yr angen am storio ar dymheredd cyson.” Ychwanegodd Dr Sanjiv Sharma, Uwch- ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol: “Gallai’r prosiect hwn ddarparu dull chwyldroadol o gyflwyno brechlynnau yn y dyfodol. Fel partner hirdymor Innoture, rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r fenter gyffrous hon.”

Dyluniad microadeiledd o glwtyn croen Innoture. Credyd: Innoture

DYDDIADURONCORONA BYW YN YSTOD PANDEMIG

EFFAITH Y CYFYNGIADAU SYMUD AR WEITHGARWCH CORFFOROL A LLES

Mae byw yn ystod cyfnod o ynysu a chadw pellter cymdeithasol wedi ysbrydoli llawer o bobl i gofnodi eu profiadau, drwy ddyddiaduron ysgrifenedig, ffotograffau a chyhoeddiadau ar TikTok a chyfryngau cymdeithasol eraill. Mae Dr Michael Ward o Brifysgol Abertawe yn arwain yr astudiaeth gyntaf ym maes gwyddor gymdeithasol i’r argyfwng presennol, sy’n ceisio edrych ar y ffordd rydym yn cofnodi ein profiadau yn ystod y pandemig. Seiliwyd DyddiaduronCorona yn rhannol ar yr astudiaethau arsylwi torfol a gynhaliwyd cyn, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan fu gwirfoddolwyr yn cofnodi eu profiadau. Mae Dr Ward wrthi’n recriwtio gwirfoddolwyr o bob oed i gymryd rhan. Yn ogystal â chofnodion dyddiadur traddodiadol, mae’n cynnwys yr hyn sy’n cael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol,

blogiau, fideos, gwaith celf ac unrhyw ddull a ddefnyddiwyd gan bobl i fynegi eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud. Meddai: “Wrth i wybodaeth feddygol ac epidemiolegol gael ei chyflwyno, mae hefyd angen brys i edrych ar yr ymateb i Covid-19 o safbwynt gwyddor gymdeithasol. Bydd y dyddiaduron hyn yn gofnod o’n hynt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â ffordd o rannu poen a phrofiadau ag eraill.” Dywedodd Dr Ward, sy’n uwch-ddarlithydd Gwyddor Gymdeithasol, fod y cyfyngiadau symud wedi creu ffyrdd newydd o ymddwyn a bod gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol yn codi drwy’r amser – o gyfarfodydd gwaith Zoom i foreau coffi rhithwir drwy apiau parti. “Mae pobl yn ymateb mewn sawl ffordd. Mae diddordebau newydd a ffyrdd newydd o ryngweithio yn creu bywyd cymdeithasol gwahanol yn y byd go iawn a’r byd rhithwir.“

Mae’n gobeithio sicrhau cyllid i lunio archif ddigidol o’r cyfraniadau fel y gellir eu defnyddio i helpu i ddylanwadu ar yr ymateb i’r argyfwng coronafeirws ac unrhyw achosion o glefydau pandemig eraill yn y dyfodol. Bydd yr holl ddogfennau’n cael eu storio’n ddiogel, mewn ffeiliau a ddiogelir gan gyfrinair, a bydd dogfennau ysgrifenedig yn ddienw i warchod cyfranogwyr. Ceir mwy o wybodaeth drwy e-bostio Dr Ward, ffonio 07890 874188 neu drwy gysylltu ag ef ar Twitter @mrmwardphd.

Mae tîm o ymchwilwyr o sawl prifysgol yn y DU, gan gynnwys arbenigwyr gwyddor chwaraeon o Abertawe, wedi lansio astudiaeth newydd i archwilio effaith strategaeth cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU ar lefelau gweithgarwch corfforol a lles y boblogaeth yn ystod pandemig Covid-19. Mae’r tîm wrthi’n recriwtio sampl fawr o oedolion sy’n byw yn y DU i gwblhau arolwg ar-lein ynghylch gweithgarwch corfforol. Mae’r arolwg yn gofyn am arferion cyn dyfodiad Covid-19, ac yn ystyried pa effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi’i chael ar lefelau a mathau o weithgarwch corfforol pobl ac, yn bwysig, ar eu lles meddyliol. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu i baratoi ymchwilwyr yn well i gefnogi

pobl i sicrhau y byddai eu hiechyd a’u lles cystal ag y bo modd pe bai’r wlad yn wynebu cyfyngiadau symud tebyg yn y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar lefelau gweithgarwch corfforol presennol oedolion ledled y DU, gan ddarparu gwybodaeth hollbwysig ynghylch sut i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Meddai Dr Kelly Mackintosh, arbenigwr gwyddor chwaraeon o Brifysgol Abertawe ac un o gyd-ymchwilwyr yr astudiaeth: “Un peth cadarnhaol sydd wedi deillio o Covid-19 yw bod y llywodraeth wedi hyrwyddo pwysigrwydd gweithgarwch corfforol. Y tu hwnt i’r holl fanteision ffisiolegol, mae’r manteision i iechyd meddwl o fod yn weithgar yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio y bydd unrhyw newidiadau

cadarnhaol i ymddygiad yn parhau pan gaiff y cyfyngiadau symud eu codi. Bydd yr wybodaeth hon yn hollbwysig ledled y pedair cenedl gartref, ac mae fy nghyd-ymchwilydd Dr Melitta McNarry a minnau’n awyddus i gyflwyno mentrau drwy Sefydliad Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Cymru.” Ychwanegodd Dr James Faulkner o Brifysgol Winchester, prif ymchwilydd yr astudiaeth: “Bydd yr arolwg hwn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth bwysig ynghylch a yw’r strategaethau penodol a osodwyd gan y llywodraeth yn cael dylanwad sylweddol, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ar weithgarwch corfforol a lles poblogaeth y DU.”

Dr Michael Ward

6 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 7

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker