Momentum Magazine Autumn 2020 CYM

E R T H Y G L

E R T H Y G L

HYLIF DIHEINTIO, MASGIAU A MEICROFFONAU ARBENIGEDD YMCHWIL YN HELPU GWEITHWYR Y GIG Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn defnyddio eu harbenigedd technegol i helpu gweithwyr iechyd a gofal yn ystod y pandemig coronafeirws:

DEALL PRYDER Y CYHOEDDYNGHYLCH AP OLRHAIN CYSYLLTIADAU Mae astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn awgrymu bod gwahaniaeth barn rhwng pobl ynghylch a fyddant yn defnyddio ap ar gyfer ffonau symudol i olrhain cysylltiadau o ran Covid-19. Dywedodd oddeutu traean o’r cyfranogwyr na fyddant yn defnyddio’r ap. Mae llawer o bobl yn poeni na fydd yr ap yn diogelu preifatrwydd defnyddwyr neu na chaiff ei ddefnyddio gan ddigon o bobl i sicrhau ei fod yn effeithiol. Roedd llawer o bobl o’r farn nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am yr ap neu eu bod wedi cael eu camarwain ynghylch sut mae’r ap yn gweithio. Mae’r ymchwil ar ffurf adroddiad rhagarweiniol a gyhoeddwyd ar medRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ynghylch materion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i’w cyhoeddi mewn cyfnodolyn. Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n arwain yr ymchwil, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Manceinion ac ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd. Meddai Dr Williams: “Bydd cefnogaeth y cyhoedd i’r ap, a’r defnydd ohono, yn penderfynu yn y pen draw a fydd y strategaeth yn llwyddo neu’n methu. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu nad oes sicrwydd y bydd y llywodraeth yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau’r math o ddefnydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae angen gwneud llawer o waith i gynyddu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd y mae’r llywodraeth yn ymdrin â Covid-19, ac i wella gwybodaeth am yr ap. “Rydym yn argymell y dylai’r llywodraeth gyfathrebu mewn modd mor glir â phosib, gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol. Dylid newid i ymagwedd ddatganoledig, canolbwyntio ar dawelu meddyliau’r cyhoedd ynghylch preifatrwydd, a hyrwyddo’r neges allweddol bod defnyddio’r ap yn rhan o’r cydgyfrifoldeb am atal y feirws rhag lledaenu a’i fod yn gallu helpu i achub bywydau.”

1

2

3

Cafodd amddiffynwyr wyneb i ddiogelu staff y GIG eu dylunio a’u cynhyrchu drwy argraffyddion 3D gan dîm o’r Coleg Peirianneg, drwy gymorth ASTUTE 2020 o Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu’r Dyfodol, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu a Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru. Ar ôl gweithio ddydd a nos, gwnaethant gynhyrchu dyluniad Prusa ffynhonnell agored ar gyfer yr amddiffynwyr, gan ychwanegu sbwng neopren a strap elastig llydan. Anfonwyd y feisorau i ysbytai lleol ar gyfer profion ac adborth, a ddefnyddiwyd gan y tîm i wella’r dyluniad. Mae’r feisorau wedi ennill nod diogelwch CE, sy’n golygu y gellir eu cynhyrchu ar raddfa fwy.

Mae Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe wedi helpu i ddatblygu adnodd cymorth cyfathrebu arobryn ar gyfer staff iechyd rheng flaen sy’n gorfod gwisgo masgiau wyneb yn ystod y pandemig. Roedd y Ganolfan yn rhan o’r tîm yng Nghymru a oedd yn gyfrifol am MaskComms, meicroffon sy’n ddigon bach i’w roi y tu mewn i fasg wyneb a throsglwyddo llais yn ddi-wifr i uchelseinydd y gellir ei wisgo. Mae’n galluogi grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gwisgo masgiau i gyfathrebu â’i gilydd yn haws mewn ysbyty, megis mewn theatr yn ystod llawdriniaeth. Mae’r prosiect wedi ennill grant gwerth £8,000 yn nigwyddiad Hac Iechyd Cymru eleni, sy’n ceisio ysgogi mentrau arloesol ac annog GIG Cymru, diwydiant a’r byd academaidd i gydweithio.

Staff fferyllfa yn Abertawe’n dangos yr hylif diheintio a gynhyrchwyd gan y Brifysgol

Cynhyrchodd tîm o 30 o wirfoddolwyr o dri o golegau’r Brifysgol filoedd o litrau o hylif diheintio dwylo, gan addasu llinell gynhyrchu a ddefnyddir ar gyfer technoleg solar fel arfer. Mae’r GIG, darparwyr tai a gofal, a dwsin o ysgolion lleol yn defnyddio’r hylif diheintio, sy’n bodloni’r safon a bennir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Arweinir y gweithgynhyrchu gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, sy’n arbenigo mewn ymchwil solar a dylunio, yn ogystal â phrosesu cemegol. Gwnaeth aelodau’r tîm addasu ac arloesi wrth iddynt fynd rhagddynt. Gwnaethant ddyfeisio cyfarpar potelu amlben a all lenwi potel 5L mewn 20 eiliad yn hytrach na 60 eiliad. Gwnaethant weithio’n agos gyda gwneuthurwyr lleol i gael gafael ar y swm anferth o gynhwysion a oedd yn angenrheidiol i gynhyrchu miloedd o litrau o hylif diheintio.

Yr adnodd cymorth cyfathrebu

8 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 9

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker