CAMPUS Y BAE MARCHNATA
UCHAF YN Y DU (WhatUni 2019) RHEOLI BUSNES A MARCHNATA
Bydd ein cwrs MSc, a ddatblygwyd ar y cyd â'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), yn rhoi dealltwriaeth ddatblygedig i chi o farchnata gyfoes y gallwch ei chymhwyso mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd. Ar ôl elfennau addysgedig y cwrs, gallwch gwblhau prosiect marchnata seiliedig ar waith, gan gymhwyso eich sgiliau a'ch gwybodaeth newydd at fywyd go iawn.
Bydd y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes marchnata neu ymchwil, drwy gwblhau PhD ar ôl i chi raddio. Mae ein staff academaidd yn cynnwys arbenigwyr ymchwil clodwiw a rhai â phrofiad helaeth mewn diwydiant, a daw ein cymuned o fyfyrwyr o bedwar ban byd, gan gynnig amrywiaeth ac ystod eang o safbwyntiau yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r Ysgol wedi'i chydleoli â diwydiant ar ein campws arloesol ar lan y môr, Campws y Bae.
MARCHNATA STRATEGOL MSc ALl RhA ION
Bydd y rhaglen hon yn rhoi sail gadarn i chi o ran yr agweddau ymarferol a damcaniaethol ar farchnata strategol gyfoes; deall materion moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol a helpu myfyrwyr i gyflawni strategaeth farchnata gynaliadwy, gynhwysol ac arloesol yn y dyfodol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio yn unol â Diploma Ôl-raddedig CIM a bydd yn rhoi'r cyfle i chi ennill statws siartredig ar ôl cwblhau asesiadau achrededig CIM yn llwyddiannus. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad tri mis, neu, yn fwy traddodiadol, ddewis cwblhau traethawd estynedig mewn maes marchnata arbenigol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyfathrebiadau Marchnata Integredig • Lleoliad Gwaith neu Draethawd Estynedig • Marchnata Digidol • Marchnata mewn Cymdeithas
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn fwy na pharod i gynnig cymorth ariannol i sêr mwyaf disglair y dyfodol. Nid dim ond rhagoriaeth academaidd a wobrwywn – rydym hefyd yn cydnabod ac yn annog angerdd dros astudio a chyfrannu at fywyd myfyrwyr. Mae amrywiaeth o gyfleoedd cyllido ar gael ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
RHEOLI BUSNES MSc drwy Ymchwil ALl RhA
Cwrs gradd ymchwil blwyddyn o hyd sy'n cynnig hyblygrwydd llwyr drwy ei fodd astudio sy'n gwbl seiliedig ar ymchwil. MAE'R ACHREDIADAU A'R DYFARNIADAU YN CYNNWYS:
I gael rhagor o wybodaeth am MSc Rheoli Busnes (Marchnata), gweler tudalen 142.
• Marchnata Strategol • Seicoleg Defnyddwyr • Ymchwil Farchnata
AELODAETH:
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
114
Made with FlippingBook - Online magazine maker