MEDDYLIAU MAWR
MAE’R ATHRO ANGHARAD PUW DAVIES YN FICROBIOLEGYDD MEDDYGOL ACADEMAIDD AC YN IS-LYWYDD ER DYSG COLEG BRENHINOL Y PATHOLEGWYR. MAE EI GWAITH YN ABERTAWE YN CWMPASU ADDYSGU, YMCHWIL A GWAITH CLINIGOL.
Graddiodd fel meddyg o Brifysgol Caergrawnt gan arbenigo mewn microbioleg feddygol yn ysbyty’r Royal Free yn Llundain, cyn gwneud doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol Llundain. Mae’n addysgwr blaenllaw mewn microbioleg a phatholeg glinigol, yn goruchwylio cwricwla ac arholiadau ôl-radd proffesiynol Coleg Brenhinol y Patholegwyr, ac yn cynghori nifer o bwyllgorau a phrosiectau addysgol cenedlaethol y DU. Mae’n un o Brif Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch ac yn aelod o gyngor Academi’r Addysgwyr Meddygol. Mae’r Athro Davies yn arbenigwr mewn addysg ôl-radd a rhyngbroffesiynol ym maes iechyd, yn enwedig mewn ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd, ar gyfer meddygon, fferyllwyr, gwyddonwyr biofeddygol ac eraill. ‘Mae’r dechnoleg newydd i astudio dilyniannau genomeg dynol ac organebau wedi agor y drws i ddatblygiadau cyffrous tu hwnt, ac mae angen hyfforddiant a sgiliau newydd ar weithwyr iechyd er mwyn defnyddio’r dechnoleg yma i’w llawn botensial. Un arall o brif heriau gofal iechyd heddiw yw ymwrthedd gwrthfiotig. Mae Y chwyldro genomeg, ac ymwrthedd gwrthfiotig yw dau o brif heriau meddygaeth fodern. Ar gyrsiau ôl-radd Abertawe cei gyfle i archwilio’r heriau yma mewn dyfnder, efo athrawon clinigol sy’n gweithio yn y maes.
cyfran fwyfwy o’r triniaethau sydd gennym ar gyfer heintiau yn dod yn llai effeithiol o ganlyniad i orddefnydd, ac mae angen gweithlu arbenigol i sicrhau defnydd cyfrifol ohonynt. Mae’n faes sy’n symud yn gyflym ac yn newid yn gyson. Mae fy mhractis proffesiynol fel meddyg yn hollbwysig i sicrhau bod yr addysg rwy’n ei darparu’n parhau’n gyfredol.’ Mae’r Athro Davies yn ymgynghorydd microbioleg feddygol er anrhydedd ar gyfer Uned Gyfeiriol Cryptosporidium Genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Heintiau Cryptosporidium yw ei phrif ddiddordeb ymchwil ac mae hi wedi cyhoeddi’n eang yn y maes. Hi yw Arweinydd Arbenigedd Haint Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chafodd ei hymchwil ei ariannu gan Sefydliad Bill a Melinda Gates, ymysg eraill. Mae hi hefyd yn cefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel darlithydd cysylltiol ac yn aelod o’r Pwyllgor Ymchwil a Chyhoeddi.
106
Made with FlippingBook flipbook maker