Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Cymerwch gip ar brosbectws ôl-raddedig digidol 2023 Prifysgol Abertawe, sy'n cynnwys gwybodaeth am astudio yn Abertawe, gwybodaeth lawn am gyrsiau a fideos gan fyfyrwyr am fywyd myfyrwyr.

PRIFYSGOL ABERTAWE ÔL-RADDEDIG 2023

CYLLID ÔL-RADDEDIG AR GAEL AR DRAWS YR HOLL FEYSYDD PWNC

CROESO I

Darganfydda fwy am Brifysgol Abertawe a’n rhaglenni Ôl-raddedig trwy gadw lle ar un o’n diwrnodau agored sydd ar ddod*. CADWA DY LE HEDDIW: *edrych ar ein gwefan i gael manylion llawn, dyddiadau a fformat y diwrnodau agored sydd ar ddod. B

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored

(WhatUni 2022) 25

YN Y 25 GORAU ÔL-RADD

ÔL-RADDEDIG

86 % O’N HANSAWDD YMCHWIL YN

ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

WEDI’I RADDIO YN FYD-EANG YM MHOB MAES PWNC

(QS World University Rankings 2022)

FFRAMWAITH RHAGORIAETH ADDYSGU A DEILLIANNAU MYFYRWYR

(Y dyfarniad uchaf am Ragoriaeth Addysgu ym mhrifysgolion y DU)

01

CYNNWYS 04  YMCHWIL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE 08  GRADDAU ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR 10 GRADDAU YMCHWIL ÔL-RADDEDIG 18  ISRADDEDIG I ÔL-RADDEDIG 20 FFIOEDD A CHYLLID 24 YMUNA Â’N CYN-FYFYRWYR NEILLTUOL 26 ABERTAWE A’R RHANBARTH 28 BARN EIN MYFYRWYR 30 STORÏAU MYFYRWYR 32 MAPIAU’R CAMPWS 36 LLETY 40  GYRFAOEDD, SGILIAU A CHYFLOGADWYEDD 42 ASTUDIO A GWEITHIO DRAMOR 44 MAINTEISION ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG

46 ACADEMI HYWEL TEIFI 48 UNDEB Y MYFYRWYR

50 CHWARAEON 52  CYFLEUSTERAU 56 LLES A CHYMORTH MYFYRWYR 58  DY GANLLAW I’R CYRSIAU 59 CYRSIAU A–Y 132 SUT I WNEUD CAIS

02

Yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein myfyrwyr a’n staff yn ganolog i’n gweledigaeth a’n pwrpas. Rydym yn falch o ddathlu cyfraniad sylweddol ein cymuned ôl-raddedig sy’n rhoi safbwynt newydd sy’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein gwaith. Gobeithiwn y bydd tithau’n gweld llawer i dy ysbrydoli yn nhudalennau’r prosbectws hwn ac yn ystyried ymuno â’n cymuned ffyniannus fel myfyriwr ac ymchwilydd. Mae ymchwil ac arloesi wrth galon profiad Abertawe ac maent yn bwydo’n uniongyrchol i ansawdd ein haddysgu. Yn y prosbectws hwn, cyfeirir yn aml at effaith byd go iawn ein hymchwil, o ddur gwyrddach, mwy clyfar, i frechlynnau di-boen. Mae ein hymchwil yn gyson yn llywio polisïau sy’n effeithio ar Gymru a’r Gymraeg, gydag ymchwil i effaith y twf mewn ail gartrefi yng Nghymru ymhlith y diweddaraf i ddylanwadu ar gynlluniau ein llywodraeth. Mae dewis astudio ôl-raddedig yn dangos ymrwymiad a chymhelliant a bydd ein staff addysgu ymroddedig a’n cyfleusterau o safon sy’n arwain yn fyd-eang yn dy helpu di i wireddu dy uchelgeisiau. Mae pob un o’n meysydd pwnc wedi’i gynnwys yn QS World University Rankings 2022 fesul pwnc ac rydym wedi ennill y wobr uchaf (aur) am ragoriaeth addysgu mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu.

Rydym yn brifysgol amrywiol a bywiog; yn wir, rydym yn 2il yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Amrywiaeth

a Chynhwysiant yn ôl Gwobrau WhatUni Student Choice 2021.

Rydym hefyd yn darparu amgylchedd cydweithredol a chefnogol i ymchwilwyr ôl-raddedig wneud darganfyddiadau sy’n torri tir newydd. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2021), dyfarnwyd bod 91% o’n hamgylchedd ymchwil ac 86% o’n heffaith ymchwil yn arwain yn fyd-eang ac yn ardderchog yn rhyngwladol. Roedd fy rôl academaidd gyntaf fel darlithydd ifanc ym Mhrifysgol Abertawe a gallaf dystio’n bersonol am ansawdd yr addysg a arweinir gan ymchwil a’r cymorth y byddi di’n ei dderbyn yma. Gobeithiaf fod fy malchder yn ein Prifysgol yn glir ond paid â derbyn fy ngair i yn unig – cadwa le ar gyfer un o’n diwrnodau agored i gael rhagor o wybodaeth.

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored

03

ANSAWDD YMCHWIL GYFFREDINOL 86 % YN ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL

O greu dur gwyrddach a glanach; troi plastig yn hydrogen; gwella iechyd y boblogaeth; gwarchod henebion hynafol i; herio a llunio polisi ynghylch tegwch a chydraddoldeb a sicrhau diogelwch unigolion a chymunedau ledled y byd, mae ein hymchwil yn helpu i atal gwrthdaro ac yn cynnig atebion i heriau byd-eang y byd modern. Gelli helpu i newid y byd a goresgyn heriau byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe, drwy weithio gydag academyddion

byd-enwog, lle ystyrir 91% o’n hamgylchedd ymchwil yn arwain at gynhyrchu ymchwil sy’n arwain y byd a chyfleusterau ymchwil rhagorol yn rhyngwladol.

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

91 % O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

Darllen ein cylchgrawn ymchwil - Momentwm a darganfydda fwy am ymchwil Prifysgol Abertawe yma:

abertawe.ac.uk/ymchwil

04

Mae ein hymchwil yn llywio polisïau iechyd byd-eang ac yn galluogi arloesi dyfeisiau, gwasanaethau a diagnosisau i hybu iechyd a lles da. A chan fod cyfleusterau a staff GIG Cymru mor agos, gall ein hymchwilwyr fanteisio i’r eithaf ar arbenigedd rhyngddisgyblaethol a chyfleusterau o’r radd flaenaf.

Mae ein hymchwil yn ymchwil drosi, gan drosglwyddo syniadau a dealltwriaeth o’r fainc ymchwil, i erchwyn gwely cleifion ac yn ôl eto. Rydym yn arloesi ffyrdd newydd o drin ac atal afiechydon, gwrthdroi stigma, a lleihau pwysau ar y GIG.

RYDYM YN ARLOESI MEWN DIAGNOSIS IECHYD, GWEITHDREFNAU A DYFEISIAU

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ arloesi-ym-maes-iechyd

Mae ein hymchwil i ddur wedi arwain at ddatblygu dur ysgafnach, gwyrddach, mwy clyfar a phroses

RYDYM YN CREU ARLOESEDD

gynhyrchu lanach, gan helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

MEWN DUR A’R BROSES CREU DUR

Mae ein campws gwerth miliynau o bunnoedd, sy’n gartref i brosiectau fel SPECIFIC, ac yn agos at bartneriaid y diwydiant Tata Steel,

wedi ein galluogi i weithio ar draws disgyblaethau i greu a datblygu atebion posibl i’r argyfwng hinsawdd.

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ arloesedd-dur

05

Mae ein hymchwil yn rhoi pobl wrth wraidd datblygiadau technolegol. Mae ein hymchwil yn cynnwys ffocws ar hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau; datblygu llwyfannau digidol i annog ymgysylltiad gwleidyddol; cadw plant

RYDYM YN RHOI POBL

WRTH WRAIDD DATBLYGIADAU DIGIDOL

yn ddiogel ar-lein a brwydro yn erbyn camddefnydd o’r cyfryngau ar-lein.

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ dyfodol-digidol

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar lywodraethu amddiffyn busnesau bach canolig, hawliau dynol a chyfiawnder troseddol. Mae ein hymchwil yn cael ei hwyluso gan grwpiau ymchwil a chanolfannau fel y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a’r Grŵp Ymchwil Llywodraethu a Hawliau Dynol.

RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH I GYMDEITHAS, YN DIOGELU POBL, AC YN SICRHAU CYDRADDOLDEB

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ cyfiawnder-a-chydraddoldeb

Gan weithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr yn eu maes, gall ein hymchwilwyr wneud prosesau gweithgynhyrchu’n fwy effeithlon i wella cynhyrchiant, gan leihau gwastraff ac arbed ynni ac arian. Yn gartref i brosiectau fel ASTUTE sy’n galluogi lefelau uwch o arloesedd busnes ym maes gweithgynhyrchu’r dyfodol ac yn datblygu technolegau uwch a chynaliadwy i’r dyfodol a chanolfannau rhagoriaeth byd-enwog fel Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol, rydym yn helpu diwydiant i fod yn fwy cynaliadwy. abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ gweithgynhyrchu-clyfar

RYDYM YN HELPU DIWYDIANT I FOD YN FWY CYNALIADWY

06

Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol a byd-eang i ddiogelu hanes, dylanwadu ar bolisi ac annog diwylliannau agored a meithringar. O ddiogelu safleoedd treftadaeth ddiwylliannol; i lywio a gwella polisi addysg; hyrwyddo dealltwriaeth well o rôl cyfryngau digidol mewn

RYDYM YN DOD Â PHOBL AT EI GILYDD, YN DIOGELU

HANES, AC YN DYLANWADU AR BOLISI

bywyd cyfoes, mae ein hymchwil yn mynd i’r afael â’r materion a’r problemau allweddol.

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ diwylliant-cyfathrebu-a-threftadaeth

Rydym yn cydnabod yr heriau byd-eang yr ydym i gyd yn eu hwynebu. O gynnal prosiect adfer morwellt mwyaf y DU, i hedfan yn uchel gyda chondorau yn yr Ariannin gyda SLAM (Labordy Abertawe ar gyfer Symudiad Anifeiliaid) i wella dealltwriaeth o ymrannu mynyddoedd iâ yn Antarctica a chreu adeiladau sy’n harneisio ac yn storio eu hynni eu hunain. Mae’n cymuned academaidd angerddol yn gweithio i frwydro yn erbyn effeithiau’r argyfwng hinsawdd ar gyfer y dyfodol.

RYDYM YN DOD O HYD I

FFYRDD O GADW A DIOGELU’R BYD AR GYFER CENEDLAETHAU’R DYFODOL

abertawe.ac.uk/ymchwil/einhuchafbwyntiau/ dyfodol-cynaliadwy

07

A ADDYSGIR

Mae graddau ôl-raddedig a addysgir yn fwy heriol yn academaidd na rhaglenni israddedig. Mae angen mwy o ddysgu hunangyfeiriedig ac fe’u dyfernir i fyfyrwyr sy’n dangos dealltwriaeth estynedig o bwnc penodol. Caiff graddau meistr eu cyflawni drwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir a gwaith cwrs wedi’i asesu, a disgwylir i fyfyrwyr gwblhau prosiect ymchwil neu draethawd hir manwl.

Mae graddau meistr a addysgir yn gweithredu fel arfer ar sail modiwlau, sy’n golygu bod myfyrwyr yn dilyn cyfres o fodiwlau a addysgir sy’n werth cyfanswm o 180 o gredydau. Gellir ennill 120 o gredydau o fodiwlau a addysgir, a 60 o gredydau o’r traethawd hir. Mae rhaglenni meistr a addysgir yn aml yn cynnwys cyrsiau sgiliau ymchwil a methodoleg a chyrsiau hyfforddi adrannol penodol, sy’n hanfodol i fyfyrwyr ar lefel meistr a’r rheini sy’n awyddus i barhau i astudio ar gyfer graddau uwch. Mae cyrsiau hyfforddi arbenigol ychwanegol hefyd ar gael yn

ystod y flwyddyn academaidd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Diploma Ôl-raddedig, rhaid i fyfyrwyr anelu at 120 o gredydau, neu 60 o gredydau ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig. (Mae rheoliadau penodol yn berthnasol – noder nad yw pob rhaglen yn cynnig y cymwysterau ymadael hyn.) DEWIS RHAGLEN Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raddau ôl-raddedig a addysgir, gan gynnwys MA, MSc ac LLM. Gelli ddilyn cwrs ôl-raddedig yn yr un pwnc â dy radd israddedig neu, mewn llawer o achosion, mewn pwnc arall.

08

LLWYBR CARLAM Os wyt ti’n fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Abertawe, gelli di wneud cais i astudio ar gwrs Meistr cymwys drwy lwybr carlam. Mae’n gyflym ac yn hawdd a byddi di’n

derbyn penderfyniad o fewn 48 o oriau gwaith!

AI GRADD ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR YW’R DEWIS PRIODOL I MI? Ie, os wyt am wneud y canlynol: • Gwella dy ragolygon gyrfa • Meithrin sgiliau newydd ac arbenigol • Paratoi ar gyfer gradd ymchwil • Datblygu dy wybodaeth bwnc o dy radd gyntaf • Astudio pwnc newydd sbon CYRSIAU TROSI Os wyt ti am newid cyfeiriad dy astudiaethau neu lwybr gyrfa nad yw’n gysylltiedig â dy radd israddedig, rydym ni’n cynnig cyfle i ti astudio cwrs trosi. Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i raddedigion o unrhyw faes pwnc astudio cwrs meistr ôl-raddedig heb unrhyw gymwysterau perthnasol blaenorol. Mae gennym ddetholiad amrywiol o gyrsiau trosi ar gael ym maes cyllid, gwyddoniaeth, peirianneg, gwyddor iechyd, meddygaeth, y gyfraith, rheoli busnes a’r celfyddydau a’r dyniaethau. A ALLAF ASTUDIO’N RHAN AMSER? Fel arfer, gellir astudio ar gyfer rhaglenni Meistr, Diplomâu Ôl-raddedig a Thystysgrifau Ôl-raddedig yn llawn amser neu’n rhan amser mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc. Fe dy anogir i gysylltu â’r adran academaidd dan sylw cyn gwneud cais. Cadwa lygad am y symbol RhA ar ein tudalennau cyrsiau.

ASESIAD DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG Gelli gyflwyno gwaith

ymchwil yn y Gymraeg os yw dy oruchwylwyr yn gallu goruchwylio gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.

09 09

ÔL-RADDEDIG

Mae graddau ymchwil yn rhaglenni academaidd heriol sy’n gofyn i ti astudio pwnc yn fanwl am gyfnod parhaus o amser. Drwy ddyfarnu doethuriaeth neu radd ymchwil arall, cydnabyddir ymrwymiad ymgeiswyr llwyddiannus, y sgiliau lefel uchel a feithrinwyd ganddynt, a’u gallu i gyflwyno gwaith ymchwil gwreiddiol sy’n datblygu dealltwriaeth o’r pwnc dan sylw.

Fel myfyriwr ymchwil, byddi di’n ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant mewn dulliau ymchwil cyn dechrau ar dy raglen ymchwil. Bydd gen ti oruchwylydd academaidd a fydd yn llywio ac yn cefnogi cyfeiriad dy waith ymchwil drwy gydol y cwrs gradd, a bydd cyd-oruchwylydd yn cynnig cymorth ychwanegol fel y bo angen.

91 %

O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

10

DEWIS PWNC YMCHWIL Mae graddau ymchwil, yn enwedig ar lefel MPhil a PhD, yn wahanol iawn i raglenni israddedig a rhaglenni meistr a addysgir gan nad oes rhestr ddiffiniedig o gyrsiau i ddewis o’u plith. Gellir astudio graddau MPhil a PhD ar unrhyw bwnc academaidd, ar yr amod bod gan y gyfadran rwyt yn gwneud cais iddi yr arbenigedd i lywio a goruchwylio dy astudiaethau.

Hyd yn oed os wyt wedi meddwl am gynnig ymchwil mwy datblygedig, rydym yn argymell y dylet gysylltu â’r Tiwtor Derbyn perthnasol er mwyn cael cyngor. Caiff darpar ymgeiswyr eu paru â darpar oruchwylwyr ar gam cynnar o’r broses. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau’r canlynol:

• Dy fod yn cael y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnat i benderfynu p’un ai gradd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yw’r dewis cywir i ti. • Bod y goruchwylydd yn frwdfrydig ynghylch y pwnc ac wedi’i gymell ganddo. • Dy fod yn symud yn ddidrafferth i grŵp ymchwil priodol (lle y bo’n berthnasol). • Dy fod yn cwblhau dy waith ymchwil ac yn ei ysgrifennu o fewn y terfyn amser gofynnol.

11

PA RADD YMCHWIL? Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o raddau ymchwil, gan gynnwys: PhD: Mae myfyrwyr PhD yn ymgymryd â gwaith ymchwil wedi’i oruchwylio dros gyfnod rhwng tair a phedair blynedd yn llawn amser neu rhwng chwech a saith mlynedd yn rhan amser. Wedyn, caiff y gwaith ymchwil ei gyflwyno ar ffurf thesis heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau. Rhaid i’r thesis ddangos gallu’r myfyriwr i ymdrin â’r cynnig ymchwil gwreiddiol a dylai wneud cyfraniad penodol a sylweddol at y pwnc. Defnyddir y flwyddyn gofrestru gyntaf ar gyfer PhD fel cyfnod prawf swyddogol, a chaiff yr ymgeisydd ei asesu gan yr adran cyn y gall barhau â’r gwaith ymchwil. MPhil: Gellir ei gwblhau drwy astudio am gyfnod rhwng dwy a thair blynedd yn llawn amser (rhwng pedair a phum mlynedd yn rhan amser). Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno thesis hyd at 60,000 o eiriau a chânt eu hasesu ar ffurf arholiad llafar (viva). Yn amodol ar ofynion academaidd, gall fod cyfleoedd i fyfyrwyr uwchraddio o’r radd MPhil i PhD yn ystod eu hastudiaethau. MA/MSc drwy Ymchwil: Fel arfer, un flwyddyn yn llawn amser, rhwng dwy a thair blynedd yn rhan amser. Prosiect ymchwil unigol yw’r prosiect hwn a gaiff ei ysgrifennu i greu thesis o 30,000 o eiriau. MRes: Nod MRes (Meistr Ymchwil) yw darparu hyfforddiant perthnasol er mwyn meithrin y wybodaeth, y technegau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa broffesiynol, neu er

mwyn symud ymlaen i astudiaethau academaidd uwch, PhD fel arfer. Cyflawnir MRes drwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir (gwerth 60 o gredydau) a thesis ymchwil sy’n cyflwyno canlyniad prosiect ymchwil sylweddol (gwerth 120 o gredydau). DBA: Fel arfer, mae’r cwrs gradd DBA Rheoli yn rhaglen pedair blynedd ar sail ran amser sy’n cynnwys chwe modiwl a thraethawd ymchwil. Mae pob modiwl wedi’i strwythuro ar sail bloc addysgu dwys dros dri diwrnod yn ogystal ag amrywiaeth o gymorth ar-lein gan y timau addysgu a’r goruchwylwyr doethurol. EdD: Mae’r cwrs gradd Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin â materion ym maes addysg mewn ffordd broffesiynol a beirniadol ar lefel ddoethurol. (Am wybodaeth am y cwrs – gweler tudalen 59) EngD: Mae’r Ddoethuriaeth Peirianneg yn arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r profiad i fod yn arweinwyr diwydiant ac academaidd ac mae wedi’i chefnogi gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Mae’r rhaglen ymchwil ddoethurol pedair blynedd o hyd yn cynnwys prosiect ymchwil a arweinir gan ddiwydiant wedi’i hategu gan fodiwlau sgiliau technegol, ymchwil a phroffesiynol sy’n cael eu hasesu drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau. Mae ‘Peirianwyr Ymchwil’ yn gwneud eu hymchwil mewn cydweithrediad â phartner diwydiannol a Phrifysgol Abertawe a chaiff y prosiect ei ysgrifennu ar

AI GRADD YMCHWIL YW’R DEWIS PRIODOL I MI? Ie, os wyt am wneud y canlynol: • Dilyn gyrfa yn y byd academaidd neu ymchwil • Archwilio pwnc unigol yn fanwl • Meithrin sgiliau ymchwil helaeth ac arbenigol • Gwella dy ragolygon gyrfa OES GEN TI UNRHYW GWESTIYNAU? Mae’r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i dy gynghori ynghylch a yw dy gymwysterau’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffet eu hastudio. Am ragor o wybodaeth anfona e-bost at: p gradmissions@ abertawe.ac.uk Darganfydda fwy am ein hystod o gymunedau myfyrwyr ymchwil y brifysgol a’r gyfadran y gelli ymwneud â nhw fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig: abertawe.ac.uk/ymchwil/ gwnewch-ymchwil-gyda-ni/ ymchwil-ol-raddedig

12

ffurf traethawd ymchwil uchafswm o 100,000 gair a’i asesu drwy arholiad llafar (viva voce). MD: Yn ogystal â’r PhD, mae’r Ysgol Feddygaeth yn cynnig gradd ôl-raddedig Doethur mewn Meddygaeth (MD) drwy waith ymchwil wedi’i oruchwylio o fewn grwpiau ymchwil unigol. DProf: Pedair blynedd yn llawn amser, chwe blynedd yn rhan amser fel arfer. Mae Doethuriaeth Broffesiynol yn radd ymchwil wedi’i strwythuro o amgylch maes arfer proffesiynol penodol. Byddi di’n dilyn rhaglen astudio o dan gyfarwyddyd, gan gynnwys cyfnodau o ymarfer a hyfforddiant proffesiynol/diwydiannol cymeradwy, ynghyd â rhaglen ymchwil. Mae’r trefniadau asesu yn cynnwys thesis hyd at 80,000 o eiriau. Mae’r radd yn sicrhau bod proffesiwn a gweithle’r ymgeisydd

yn rhyng-gysylltu drwy’r rhaglen gyfan, er mwyn sicrhau bod y gwaith ymchwil a gynhelir yn berthnasol i’w ymarfer a’i weithle. A ALLAF ASTUDIO’N RHAN AMSER? Mae astudio’n rhan amser yn bosib i fyfyrwyr y DU a rhyngwladol*, ond anogwn i ti gysylltu â’r adran academaidd dan sylw i ofyn cyn cyflwyno cais. Cadwa lygad am y symbol RhA ar ein tudalennau cyrsiau. *Edrych ar ein gwefan i ddarllen yr amodau. DYFARNIAD RHAGORIAETH YMCHWIL ADNODDAU DYNOL Mae Prifysgol Abertawe yn falch o ddal Dyfarniad Rhagoriaeth Ymchwil AD y Comisiwn Ewropeaidd mewn cydnabyddiaeth o’n hymrwymiad i gefnogi datblygiad gyrfa staff ymchwil.

Rydym ni’n cydnabod y rôl hanfodol y mae staff ymchwil yn ei chwarae yn ein hymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol ac yn arwain yn fyd-eang. Mae llwyddiant ein staff ymchwil yn sylfaen i’n huchelgais a fydd yn sbarduno ansawdd ymchwil, yn creu amgylchedd addas er mwyn i ymchwil ffynnu, gan sicrhau y caiff effaith ein hymchwil ei chynyddu i’r eithaf. I’r diben hwn, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd a diwylliant sy’n

wirioneddol gefnogol, lle gall ymchwilwyr ffynnu yn broffesiynol ac yn bersonol.

13

DY GYMUNED YMCHWIL

Mae Abertawe’n gartref i gymuned ymchwil ffyniannus sy’n cyfuno ymchwil o safon fyd-eang ag ethos croesawgar, cynhwysol a chydweithredol ynghyd â phwyslais ar ymchwil sy’n cynnig buddion go iawn i’n byd. Mae ein swyddfa ymchwil ôl-raddedig yn cydlynu gweithgareddau ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol a chymorth ar draws y Brifysgol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posib drwy ddarparu mynediad at gyfleoedd cyllid a datblygu, darparu hyfforddiant ac adnoddau i dy gefnogi i ddatblygu dy sgiliau proffesiynol a dy sgiliau ymchwil a thrwy gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr. DY GEFNOGI I DDATBLYGU Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr i ymchwilwyr ôl-raddedig, gan dy gefnogi i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r rhinweddau er mwyn ragori yn dy ymchwil a dy yrfa yn y dyfodol.

FFRAMWAITH HYFFORDDIANT Mae ein fframwaith hyfforddiant, sy’n cynnwys deg thema wahanol, wedi’i gynllunio i gefnogi dy ddatblygiad fel ymchwilydd a dy ddatblygiad proffesiynol ar bob cam yn ystod dy ymgeisyddiaeth.

Y DEG THEMA HYFFORDDIANT:

• Addysgu ac Arddangos • Arweinyddiaeth a Gweithio gydag Eraill • Cyflwyno ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd • Cynllunio Gyrfa a Chynnydd • Diogelwch, Uniondeb a Moeseg

• Dulliau Ymchwil • Effaith a Masnacheiddio • Gwytnwch, Datrys

Problemau ac Effeithiolrwydd Personol • Rheoli Gwybodaeth a Data • Ysgrifennu Academaidd

Mae pob thema yn cynnwys gweithdai, adnoddau a chyfleoedd ar lefelau gwahanol, yn unol â cham dy ymgeisyddiaeth neu lefel dy brofiad: Ymgysylltu – Cyflwyno myfyrwyr sydd newydd ddechrau eu hymgeisyddiaeth i’r offer angenrheidiol i sicrhau bod eu taith ymchwil yn dechrau yn y ffordd orau bosib. Archwilio – Datblygu sgiliau i’r rhai sydd yng nghanol eu hymgeisyddiaeth, gan gyflwyno technegau ac offer ymchwil newydd, archwilio effaith ymchwil a’u cefnogi i ymgysylltu â’r gymuned ymchwil ehangach. Ehangu – Cefnogi myfyrwyr sy’n agos at ddiwedd

eu gradd ymchwil i gwblhau eu hymchwil a chynllunio am eu dyfodol, boed yn y byd academaidd neu ar lwybr arall.

14

Rhaglen Sgiliau a Datblygiad Mae ein rhaglen datblygiad yn cynnwys amrywiaeth o elfennau, o hyfforddiant ffurfiol i weithdai gydag arbenigwyr allanol i gyfleoedd ymdrochi sy’n rhoi cyfle i ti roi dy sgiliau ar waith a myfyrio arnynt. Mae’r tîm ôl-raddedig yn gweithio’n agos gyda thimau arbenigol ar draws y brifysgol i ddarparu cymorth a gweithgareddau lles a gyrfaoedd sydd wedi’u teilwra i anghenion ymchwil ôl-raddedig. Hefyd, gall ymchwilwyr ôl-raddedig fanteisio ar gymorth pwrpasol i unigolion o bob rhan o’r sefydliad ar amrywiaeth o agweddau, gan gynnwys ymchwil, sicrhau grantiau a chyllid, a chyflogadwyedd. Cyfleoedd Gall myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn Abertawe fanteisio ar nifer o gyfleoedd sy’n gwella eu sgiliau ymchwil a’u cyflogadwyedd, yn y Brifysgol a chyda phartneriaid allanol, gan gynnwys interniaethau a lleoliadau gwaith. Yn ogystal, mae gan y Brifysgol nifer o rolau cynorthwy-ydd addysgu â thâl ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n gweithio dan gyfarwyddyd arweinwyr modiwlau i ddarparu profiadau dysgu rhyngweithiol o safon uchel. Mae’r rolau hyn yn cynnig cyfle ardderchog i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i dy alluogi i ddatblygu dy sgiliau addysgu ac ehangu dy wybodaeth am ddysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch, gan ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol a dy baratoi am rôl academaidd yn y dyfodol.

Bydd cyfleoedd eraill i gyfrannu at brosiectau allgymorth, gan rannu dy ymchwil â disgyblion ysgol i’w hysbrydoli am y llwybrau a allai fod ar agor iddynt yn y dyfodol.

gyflwyno eu hymchwil ar ffurf weledol drwy gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Poster Ymchwil Ôl-raddedig, a chynhelir seremoni wobrwyo ar y diwedd. Cydnabyddir cyfraniad ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gan y brifysgol gyfan. Mae ein Gwobrau Ymchwil ac Arloesi yn cynnwys gwobr ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig, sef y wobr am Seren Arloesedd Ymchwil y Dyfodol, mae cylchgrawn ymchwil y brifysgol, Momentwm, sy’n cael ei gyhoeddi bob tri mis, yn cynnwys erthygl reolaidd ‘Sylw ar Ymchwil Ôl-raddedig’, a chaiff ymchwil a chyflawniadau ein hymchwilwyr ôl-raddedig eu hamlygu’n rheolaidd ar draws y brifysgol. CYLLID Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd ymchwil ôl-raddedig wedi’u hariannu’n llawn i fyfyrwyr sydd

Y GYMUNED YMCHWIL Mae’r Brifysgol yn gartref i

gymuned amrywiol a chroesawgar o ymchwilwyr ôl-raddedig lle mae digwyddiadau rheolaidd sy’n cynnwys y brifysgol gyfan yn cynnig cyfle i rwydweithio a meithrin cysylltiadau y tu allan i dy arbenigedd. Bydd ymchwilwyr ôl-raddedig hefyd yn ymuno â staff wrth gymryd rhan yn ein cystadleuaeth flynyddol, Ymchwil fel Celf, lle byddi’n cyfleu dy ymchwil mewn un llun a disgrifiad 150 o eiriau, gan ddarparu cyfrwng i esbonio pwysigrwydd dy ymchwil a helpu i ennyn diddordeb eraill mewn ymchwil. Dathlu ymchwilwyr ôl-raddedig Caiff gwaith a chyflawniadau myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eu dathlu yn ein digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig. Mae’n rhoi cyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig rannu eu gwaith â’r gymuned ymchwil gyfan, trwy ddigwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr. Mae’r Digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig hefyd yn cynnwys y gystadleuaeth

am astudio am PhD, MPhil, MRes neu radd Meistr drwy Ymchwil mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.

DARGANFYDDA FWY:

abertawe.ac.uk/ymchwil/ gwnewch-ymchwil-gyda-ni/ ymchwil-ol-raddedig

Thesis Tair Munud lle mae ymchwilwyr o bob rhan o’r

brifysgol yn cyflwyno eu hymchwil i gynulleidfa amlddisgyblaethol mewn tair munud yn unig. Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn cynnig cyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig

15

Ysgoloriaethau a gwobrau rhagoriaeth ymchwil Fel rhan o ymrwymiad Abertawe i gefnogi’r dalent ymchwil gorau rydym yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn ar draws disgyblaethau trwy ein rhaglenni blaenllaw, Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) ac Ysgoloriaethau Ymchwil Partner Strategol Prifysgol Abertawe (SUSPRS). Mae’r ddwy ysgoloriaeth yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn i ymchwilwyr sydd am ddatblygu eu syniadau, ochr yn ochr â darparu goruchwyliaeth ragorol a rhoi’r sgiliau i ymchwilwyr doethurol gwblhau eu traethawd ymchwil o fewn tair blynedd. Mae SURES yn cydnabod cyflawniad academaidd rhagorol a’i nod yw denu’r dalent ymchwil orau o bob maes pwnc i Brifysgol Abertawe. Mae SUSPRS yn cynnig PhD partneriaeth ar y cyd gyda’r

myfyriwr fel arfer yn treulio 50% o’i amser gyda’r sefydliad partner. Mae’r ysgoloriaethau’n cynnwys ffioedd dysgu a chyflog blynyddol,

ein myfyrwyr doethurol i ddod yn ymchwilwyr blaenllaw’r dyfodol, mewn amgylchedd cefnogol sy’n cynnig cyfleoedd datblygu ychwanegol, megis gweithio neu astudio dramor a lleoliadau gwaith gyda phartneriaid diwydiannol. Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Fel rhan o PHD ESRC Cymru, mae Abertawe yn cynnal un lwybr ar ddeg: Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith, Daearyddiaeth Ddynol, Dwyieithrwydd, Economeg, Economi a Chymdeithas Ddigidol, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Gwyddor Data, Iechyd a Lles, Ieithyddiaeth, Rheoli a Busnes, Seicoleg, a Throseddeg Mae PHD ESRC Cymru yn recriwtio myfyrwyr mewn dwy ffordd: yr Alwad Gydweithredol, lle gelli wneud cais am brosiectau a bennwyd eisoes sy’n cynnwys partneriaid anacademaidd; yr Alwad Gyffredinol, lle gelli ddatblygu dy gynnig dy hun am ysgoloriaeth PhD. Mae ysgoloriaethau cydweithredol a gynhelir gan Brifysgol Abertawe yn cynnwys partneriaid megis yr NSPCC, y GIG, y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol (RUSI), Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Dŵr Cymru, Oxford University Press a’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol. Mae’r PHD yn paratoi myfyrwyr doethurol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy gynnig rhaglen o hyfforddi sgiliau, cyfleoedd ymdrochi a mynediad at ymchwilwyr blaenllaw ar draws prifysgolion. Mae hyn yn galluogi

a lwfans i gefnogi profiadau hyfforddi trochi, ymgysylltu â

diwydiant, cyfleoedd cydweithredol rhyngwladol ac adeiladu carfanau. Fel rhan o’n portffolio rhagoriaeth, rydym yn cydnabod ac yn dathlu cyrhaeddiad academaidd drwy wobrau James Callaghan, sy’n darparu cyllid i alluogi myfyrwyr ymchwil yn Abertawe i ddatblygu eu hymchwil. Trwy gydweithio â phrifysgolion blaenllaw eraill a phartneriaid mewn diwydiant, rydym yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr arloesol mewn disgyblaethau sy’n rhoi pwyslais ar y dyfodol – o ddeallusrwydd artiffisial a gweithgynhyrchu deunyddiau, i’r gwyddorau cymdeithasol a pholisi. Partneriaethau a chanolfannau hyfforddiant doethurol Fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd, rydym yn rhan o nifer o fentrau doethurol nodedig a ariennir gan UKRI sy’n dod ag ymchwilwyr ynghyd ac yn cefnogi

16

ei myfyrwyr doethurol i fynd i’r afael â heriau hanfodol a newid y ffordd y mae’r gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi’n gweithio. Canolfan Hyfforddiant Doethurol ar Wella Rhyngweithio Dynol a Chydweithrediadau â Systemau Data a Chudd-Wybodaeth Yn rhan o’r Ffowndri Gyfrifiadol o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe, a chenhadaeth honno yw newid y byd drwy ymchwil o safon fyd-eang sy’n canolbwyntio ar fwyafu galluoedd dynol drwy ddefnyddio systemau wedi’u llywio gan ddata a’u galluogi gan ddeallusrwydd. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu meithrin gan oruchwylwyr amlddisgyblaethol a byddant yn gweithio ochr yn ochr â chyfres gyfoethog ac amrywiol o bartneriaid – gan gynnwys Facebook, Siemens, Tata, y GIG a Google. Mae’r Ganolfan yn dathlu pwysigrwydd safbwyntiau amrywiol wrth greu technolegau deallusrwydd artiffisial a data mawr y dyfodol sy’n gwasanaethu’r gymdeithas yn effeithiol. Mae’n croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n teimlo y gall helpu â chenhadaeth y Ganolfan. Canolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch-Gyfrifiadura (AIMLAC) Nod AIMLAC yw meithrin y genhedlaeth nesaf o arloeswyr deallusrwydd artiffisial ar draws ystod eang o ddisgyblaethau STEM gan ganolbwyntio ar dair thema ymchwil: data o gyfleusterau gwyddoniaeth mawr, gwyddorau biolegol, iechyd a chlinigol, a dulliau mathemategol, ffisegol, a chyfrifiadureg newydd. Mae cyfnewid gwybodaeth a gweithio amlddisgyblaethol wrth wraidd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, ac mae pwyslais cryf ar hyfforddi’r garfan, goruchwylio ar y cyd, rhyngweithio rhwng cymheiriaid a mentora myfyrwyr. Mae prosiectau ymchwil wedi’u gwreiddio mewn un o’r themâu, gyda chymorth gan oruchwylwyr ar draws themâu, i ddatblygu synergeddau newydd. Annogir ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol sy’n gallu cyfrannu’n gadarnhaol at ddyfodol ein cymdeithas.

17

Mae rhai o’n myfyrwyr presennol yn rhannu eu profiadau o drosi o astudiaethau israddedig i ôl-raddedig isod:

ISRADDEDIG I

Mae llawer iawn o’r pedair mil o’n cymuned ôl-raddedig yn gyn-fyfyrwyr israddedig a wnaeth fwynhau eu hamser yn Abertawe cymaint, gwnaethant benderfynu aros! Mae llawer o fanteision i aros gyda ni yn Abertawe i astudio dy radd ôl-raddedig. 1. Byddi di eisoes yn gyfarwydd â’r Brifysgol, ei champysau a’r ardaloedd o amgylch. 2. Gan y byddi di eisoes wedi astudio gyda ni, byddi di’n gwybod am y lleoedd gorau i fyw, astudio, bwyta neu ymlacio! 3. Byddi di’n dal i allu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau a gynigir gan adrannau megis Academi Cyflogadwyedd Abertawe, Academi Hywel Teifi, Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd a MyUniHub. 4. Mae nifer o gyfleoedd i ti astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig gan roi mantais sylweddol i ti yn ariannol ac o ran dy gyflogadwyedd. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti astudio yn yr iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ymlaen i ti ac mae digon o gefnogaeth ar gael i dy alluogi i ddychwelyd at astudio yn y Gymraeg os na wnest ti hynny dros y blynyddoedd diwethaf. 5. Efallai dy fod eisoes yn adnabod sawl cyn-fyfyriwr ôl-raddedig, ac efallai y byddi di’n gallu parhau i fyw gyda’r bobl rwyt wedi rhannu fflat â nhw. 6. Mae ystod o gyrsiau trosi Abertawe yn dy alluogi i astudio ar gyfer dy radd ôl-raddedig mewn maes pwnc newydd sbon. 7. Os wyt yn dewis astudio’r un maes pwnc, gelli barhau i adeiladu ar dy berthynas waith gyda darlithwyr a mentoriaid academaidd, gan ddatblygu dy wybodaeth arbenigol. 8. Fel myfyriwr presennol yn Abertawe, byddi di’n cwblhau ffurflen gais fyrrach ar gyfer dy gwrs ôl-raddedig dewisedig trwy lwybr carlam.

ELIN JONES TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg “Astudiais radd israddedig Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe a graddio gyda dosbarth cyntaf. Ers i mi fod yn ifanc roeddwn yn gwybod fy mod eisiau bod yn rhan o’r byd addysg. Roeddwn i’n gwybod yn syth mai parhau i astudio ym Mhrifysgol Abertawe oedd y dewis i mi. Mae’r campws yn gartrefol tu hwnt, y cyfleusterau addysgu yn rhagorol, darpariaeth a chefnogaeth addysgiadol ar gael trwy’r Gymraeg, a chymdeithas Gymraeg clos a bywiog. Mae’r cwrs TAR hwn wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn rhan o grŵp astudio traws gwricwlaidd Cymraeg, cael gwersi Cymraeg i loywi fy iaith, ond yn bwysicach na dim, i fynychu ysgolion Cymraeg fel rhan o fy hyfforddiant ar leoliad ac i gwblhau ac ysgrifennu fy aseiniadau yn y Gymraeg hefyd. Gan fy mod wedi ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg, rwyf am dderbyn grant cymhelliant o £20,000 gan Lywodraeth Cymru am hyfforddi i ddysgu Mathemateg yng Nghymru. Mae yna hefyd gyfle i dderbyn £5,000 ychwanegol gyda chynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory Llywodraeth Cymru os af i ymlaen i addysgu trwy’r Gymraeg. “

18

HYWEL EVANS MPhys, Cyn-fyfyriwr Ffiseg

“Gorffennais fy ngradd meistr Ffiseg (MPhys) a phenderfynais aros yn Abertawe ar gyfer PhD yn gweithio mewn labordy gwrthfater. Llwyddais i gael ysgoloriaeth ymchwil o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe i ariannu fy astudiaethau. Mwynheais allu trafod fy ngwaith gyda rhwydwaith o fyfyrwyr ac academyddion trwy gyfrwng y Gymraeg, a dysgu am ymchwil eraill. Bues i hefyd yn gweithio fel Arddangoswr Ôl-raddedig ar gyfer profiad addysgu ac arian ychwanegol. Mae bod yn ymchwilydd ôl-raddedig yn debyg i fod mewn swydd, ac felly roedd angen mwy o ymrwymiad amser na gyda fy astudiaethau cynt, ond mae’n baratoad da ar gyfer swydd lawn amser. Dysgais i lawer o sgiliau ymarferol, yn ogystal â chyflwyno i arbenigwyr mewn cynadleddau ledled y byd (Belffast, Dundee, Genefa a Belgrade). Mae hyn wedi gwella fy ngallu ac wedi helpu fi i lwyddo mewn cyfweliadau swydd. Roedd gan Brifysgol Abertawe yr holl adnoddau yr oeddwn eu hangen i lwyddo’n academaidd, ac mae wedi’i lleoli mor agos at barciau a thraethau gwych – doeddwn i ddim eisiau astudio unrhyw le arall!”

ALPHA EVANS PhD – Diwylliant, Iaith a Gweithrediadau Cyfreithiol: Abertawe a’r Cyffiniau, 1870-1914. Un o’r prif resymau pam gwnes i ddewis dilyn cwrs ôl-raddedig oedd oherwydd yn ystod blwyddyn olaf fy nghwrs israddedig, doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod yn barod i adael addysg eto. Yn ogystal, er fy mod wedi mwynhau gwneud darllen ac ymchwil ychwanegol ar gyfer asesiadau drwy gydol fy nghwrs israddedig, mwynheais y modiwl traethawd estynedig yn y 3edd flwyddyn mas draw. O ganlyniad i hyn, roeddwn yn gwybod mai ymchwil ôl-raddedig oedd yr hyn roeddwn eisiau ei wneud nesaf, a hynny er mwyn datblygu fy sgiliau ymchwil ymhellach a chael y cyfle i ymchwilio’n ddyfnach i faes rwy’n ymddiddori ynddo a gwneud cyfraniad gwreiddiol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, i’r maes hwnnw. Heb os, roedd y profiad anhygoel cefais fel myfyrwraig israddedig ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyfrannu at fy mhenderfyniad i aros yn Abertawe ar gyfer fy nghwrs ôl-raddedig. Derbyniais gyfleoedd a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg arbennig drwy gydol fy nghwrs israddedig, ac roeddwn yn gwybod y byddai hynny’n parhau drwy gydol fy nghwrs ôl-raddedig. Er nad wyf yn hollol sicr o ran pa fath o yrfa rydw i eisiau ei dilyn, rwyf yn ystyried gyrfa academaidd ac felly bydd medru cyfathrebu ac ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg yn golygu y bydd modd cyfrannu a chynyddu’r ymchwil cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn y maes.

19

DY ASTUDIAETHAU

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wobrwyo rhagoriaeth academaidd ac anacademaidd ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i helpu tuag at gostau astudio. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer tri chynllun bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy’n astudio cyrsiau Meistr cymwys yn Abertawe. Mae Bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth ac ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy’n 60 oed a hŷn. Mae bwrsariaethau ar sail incwm ar gael hefyd, ynghyd â chyllid tuag at astudio mewn gwlad arall os rwyt yn dewis gwneud hynny fel rhan o dy raglen gradd. Am wybodaeth bellach, i wirio a wyt yn bodloni’r meini prawf cymhwyso neu i wneud cais, gweler:

Sgwrs ar Gyllid – Rhan 1

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ffioedd-ac-ariannu

Sgwrs ar Gyllid – Rhan 2

Sgwrs ar Gyllid – Rhan 3

20 20

Cyllid Llywodraeth sydd ar gael ar gyfer rhaglenni meistr a PhD*

YSGOLORIAETHAU PHD AR GAEL* ARIENNIR YN LLAWN

BWRSARIAETHAU MEISTR CYFRWNG CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU* £1,000 BWRSARIAETHAU MEISTR STEMM LLYWODRAETH CYMRU* £2,000

BWRSARIAETHAU MEISTR LLYWODRAETH CYMRU £4,000 ar gyfer 60+ oed

YSGOLORIAETH RHAGORIAETH CHWARAEON* £2,000 YSGOLORIAETH RHAGORIAETH CERDDOROL* £1,000 (Ar gael i fyfyrwyr meistr a addysgir yn unig)

Gweler amodau a thelerau ar: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ysgoloriaethau *Mae’r manylion ar gyfer cyllid 2023-24 i’w gadarnhau

21

FFIOEDD A

Rydym yn ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol mewn addysg ôl-raddedig. Yn 2020/21 roedd dros £8 miliwn mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i astudio cyrsiau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein hysgoloriaethau meistr ar gael ar draws yr holl golegau ac ysgolion academaidd ac yn cael eu hysbysebu trwy gydol y flwyddyn, gan gynnig cyllid i fyfyrwyr y DU, yr UE a Rhyngwladol.

FFIOEDD DYSGU Caiff ffioedd dysgu eu pennu yn ôl dy flwyddyn astudio, y math o gwrs rwyt yn ymgymryd ag ef a dy wlad breswyl. Gofynnir i ti dalu dy ffioedd, neu ddangos tystiolaeth o nawdd, cyn cofrestru neu yn ystod y broses gofrestru. Gelli ddod o hyd i fanylion am ffioedd dysgu pob cwrs ar ein gwefan:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig Mae ffioedd dysgu yn destun codiadau blynyddol a chyhoeddir y cyfraddau newydd ar ein gwefan cyn gynted ag y byddant ar gael. Os hoffet gael rhagor o wybodaeth am y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer dy raglen benodol, cysyllta â’r Swyddfa Cyllid Myfyrwyr ar: +44 (0)1792 602700 studentfinance@abertawe.ac.uk Edrych ar ein tudalen we Ffioedd a Chyllid cyn gwneud cais i astudio yn Abertawe.  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ffioedd-ac-ariannu Sylwer bod angen talu ‘ffi fainc’ o £1,000 yn ogystal â’r ffi ddysgu ar gyfer y rhaglen MRes yn y Biowyddorau. CYLLID Mae sawl ffordd i ariannu dy astudiaethau ôl-raddedig bellach. Yn ogystal â’r ysgoloriaethau a’r bwrsariaethau y mae Prifysgol

YSGOLORIAETHAU’R RHAGLEN YMCHWIL

Abertawe yn eu darparu, gall ôl-raddedigion gael arian gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, cynghorau ymchwil, diwydiant ac elusennau. Mae llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig yn ariannu eu hastudiaethau drwy ‘portffolio ariannu’, gan gasglu arian o amrywiaeth o ffynonellau. Mae enghreifftiau o’r mathau o arian sydd ar gael yn cynnwys: BENTHYCIADAU I ÔL-RADDEDIGION Mae cyllid ôl-raddedig y llywodraeth ar gael i bob myfyriwr sy’n byw yn y DU a’r UE sy’n astudio cyrsiau lefel meistr a PhD mewn prifysgol yn y DU. Mae’r dull o gymhwyso a’r swm y gelli ei dderbyn yn dibynnu ar dy wlad breswyl. Gelli ddod o hyd i’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ffioedd-ac-ariannu/ benthyciadau-ol-raddedig YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU MEISTR PRIFYSGOL ABERTAWE Rydym yn hysbysebu ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau meistr trwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd yr holl gyfleoedd yn cael eu rhestru ar y wefan ganlynol, ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau/meistr-a- addysgir

Gellir dod o hyd i ysgoloriaethau ymchwil yn Abertawe drwy ddilyn y ddolen isod. (Noder y caiff y dudalen hon o’r wefan ei diweddaru drwy gydol y flwyddyn.)  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau/ysgoloriaethau- ymchwil-/ Caiff manylion ynghylch sut i gyflwyno cais am ysgoloriaeth eu rhestru ar bob hysbyseb unigol. Mae llawer o’n cyfadrannau academaidd hefyd yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau ychwanegol ar gyfer rhaglenni a addysgir a rhaglenni ymchwil. Caiff ysgoloriaethau a bwrsariaethau eu cynnig drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn eu hysbysebu ar ein gwefan. Gelli sicrhau dy fod ymhlith y cyntaf i gael gwybod am y cyfleoedd ariannu a gynigir gennym drwy edrych ar: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau ELUSENNAU, SEFYDLIADAU AC YMDDIRIEDOLAETHAU Mae nifer fawr o elusennau, sefydliadau ac ymddiriedolaethau YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU‘R CYFADRANNAU

yn dyfarnu arian i gefnogi astudiaethau ôl-raddedig.

22

BWRSARIAETH MEISTR STEMM LLYWODRAETH CYMRU Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i astudio graddau Meistr yng Nghymru. Mae’r Bwrsariaeth gwerth £2,000 yr un tuag at ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion sy’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, neu bynciau ‘STEMM’. BWRSARIAETH MEISTR LLYWODRAETH CYMRU AR GYFER 60+ Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru sy’n 60 oed a hŷn i wneud eu gradd meistr yng Nghymru. Mae pob bwrsariaeth werth £4,000 tuag at y ffioedd dysgu. BWRSARIAETH MEISTR CYFRWNG CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU* Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i astudio graddau Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Bwrsariaeth gwerth £1,000 yr un ac ar gael ar gyfer

Gellir cael manylion yn The Grants Register (a gyhoeddir gan Palgrave Macmillan) a The Directory of Grant Making Trusts (a gyhoeddir gan y Sefydliad o Newid Cymdeithasol), y dylai’r ddau ohonynt fod ar gael o wasanaeth gyrfaoedd dy brifysgol a dy lyfrgell leol. ENNILL TRA BYDDI DI’N DYSGU Mae digon o swyddi rhan amser ar gael yn Abertawe a’r ardal leol, ac mae gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe wybodaeth am amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer gwaith dros dro a gwaith rhan amser, yn ogystal â lleoliadau haf ac interniaethau. Am ragor o wybodaeth, gweler:  myuni.abertawe.ac.uk/ gyrfaoedd/parth-cyflogaeth CYNORTHWYO UNIGOLION SY’N GADAEL GOFAL Rydym yn gweinyddu ac yn darparu’r Pecyn Cynorthwyo i Bobl sy’n Gadael Gofal, sef amrywiaeth gynhwysfawr o fesurau er mwyn helpu pobl sy’n gadael gofal i ymgartrefu ac i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr ôl-raddedig cymwys dderbyn bwrsariaeth Gadael Gofal ôl-raddedig sy’n daliad untro y cwrs. GWOBR CYFLE PRIFYSGOL ABERTAWE Bwriad y gronfa galedi yw cefnogi myfyrwyr trwy unrhyw amgylchiadau ariannol annisgwyl neu anodd tra byddant yn y Brifysgol. Bydd pob cais yn cael ei ystyried a’i asesu ar sail unigol, gyda’r cyfrinachedd llymaf gan ein cynghorwyr arbenigol. Am fwy o wybodaeth, cer i:  abertawe.ac.uk/arian- bywydcampws

myfyrwyr sy’n astudio gradd Meistr a addysgir gwerth 180 credyd llawn ac sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. CANLLAW AMGEN I GYLLID ÔL-RADDEDIG Adnodd a ysgrifennwyd gan ddau fyfyriwr ôl-raddedig sydd wedi ennill dros £45,000 rhyngddynt drwy 55 dyfarniad gan elusennau gwahanol. Mae The Alternative Guide to Postgraduate Funding yn cynnwys cronfa ddata enfawr o gyfleoedd, arweiniad ac offer o ran cyllid i dy helpu i baratoi cais llwyddiannus am grant. Mae Abertawe wedi talu am drwydded er mwyn iti allu cyrchu’r Canllaw. E-bostia alternative.funding.guide@ abertawe.ac.uk a byddwn yn anfon e-bost atat gyda chyfarwyddiadau i gyrchu’r Canllaw.*

CYNGOR A CHYMORTH ARIANNOL Mae’r Tîm Arian@BywydCampws yn cynnig arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, gan gynnwys: • Grantiau, benthyciadau, bwrsariaethau a budd-daliadau lles • Dy helpu i reoli dy arian • Gwobr Cyfle • Cynorthwyo unigolion sy’n gadael gofal • Dy helpu i lunio cyllideb realistig • Cyngor ar ddyledion

money.campuslife@abertawe.ac.uk

+44 (0)1792 606699

*Sylwer y darperir y canllaw hwn yn Saesneg yn unig.

23

YMUNA Â’N

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni’n hynod o falch o’n graddedigion. Pan fyddi di’n astudio gyda ni, byddi di’n ymuno â miloedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi defnyddio eu profiadau yn Abertawe i osod eu marc ar y byd. Mae llawer ohonynt wedi mynd ati i brofi llwyddiant yn eu gyrfaoedd, gan ddod yn arweinwyr busnes, yn bencampwyr chwaraeon, cynnal ymchwil sy’n torri tir newydd, neu ddod o hyd i’w lle yng ngolwg y cyhoedd. Rydym ni’n rhannu rhai o’u straeon ysbrydoledig yma.

ANDREW TEILO, MA Cymraeg. Dosbarth 2021. ACTOR “Penderfynais astudio am radd Meistr oherwydd roeddwn am ymestyn fy hun! Roeddwn hefyd am ‘gymhwyso’, rywfodd, yn y Gymraeg, neu, yn y man lleiaf, ddefnyddio’r Gymraeg fel cerbyd i’m hastudiaethau. Yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, roeddwn yn rhy oriog fel disgybl ysgol i benderfynu ar lwybr bywyd i mi fy hun, ac yn fuan wedyn cymerai fy mywyd proffesiynol fy holl egni, a hynny am nifer fawr o flynyddoedd. Er hynny, ro’n i’n ymwybodol iawn ar hyd yr amser fy mod wedi ‘gadael rhywbeth ar ei ôl’; gadael hefyd i ryw gyfle amhenodol ddianc trwy’m dwylo, fy mod heb wireddu rhyw ‘botensial’. Yn fras, ymgais i unioni hynny oedd fy mhenderfyniad i geisio gradd MA i mi fy hun. Mae astudio’n sbort! Dewisa faes sydd yn dy gynhyrfu, tafla dy hun i ganol y gwaith, a phaid â bod ofn arbrofi â syniadau a chyfeiriadau! Cei addysg, gofal a chyngor heb ei ail ym Mhrifysgol Abertawe, a phrofiadau addysgol fydd yn aros gyda ti am byth.”

RAWAN TAHA, MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Dosbarth 2018. DEILIAD YSGOLORIAETH EIRA FRANCIS DAVIES. CYMRAWD MATERION DYNGAROL. YMGYRCHYDD YN ERBYN NEWID HINSAWDD.

“Fel menyw Affricanaidd ysgolheigaidd ifanc, roeddwn i’n chwilio am brifysgol a oedd yn darparu cyfleoedd i arweinwyr ifanc fel fi. Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw i ddefnyddio eu hamser yn y Brifysgol i ddatblygu y tu hwnt i’w gradd, eu traethawd a’u trawsgrifiadau. Dim ond wedyn fyddi di’n gallu ennill swydd a chael bywyd sydd y tu hwnt i dy ddisgwyliadau.” a bertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn- fyfyrwyr/rawan-taha

24

ANEIRIN KARADOG, PhD Cymraeg. Dosbarth 2020.

BARDD. DARLLEDWR. PERFFORMIWR. IEITHYDD. “Roedd y cyfle i fynd yn ôl i’r byd academaidd yn un apelgar iawn ac yn gyfle i ail ddarganfod lot amdanaf i fy hun. Ar ôl 11 mlynedd o fod yn y byd gwaith penderfynais astudio am ddoethuriaeth. Ar ôl gweithio fel ymchwilydd yn y byd teledu, roedd ymchwil yn ei natur o ddiddordeb i fi. Roedd cael ymchwilio’n ddyfnach ac ailddysgu technegau academaidd yn agor nifer o gyfleoedd i mi. Maes fy ymchwil oedd barddoniaeth Gymraeg. Edrychais ar y berthynas rhwng y bardd, ei gyfrwng a’i gynulleidfa. Yn y pen draw, ceisiais ganfod a oes y ffasiwn beth â cherdd berffaith, a all drosgynnu’r holl gyfryngau a chynulleidfaoedd. Roedd cael y cyfle i ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a gorfodaeth i wneud hynny fel rhan o’r radd yn nefoedd i rywun sy’n hoffi ysgrifennu, roedd rhaid englyna bob dydd! Roedd hefyd cyfleoedd i addysgu fel rhan o’r radd ddoethuriaeth – roedd hyn yn gyffrous. Fy nghyngor i ddarpar-fyfyrwyr yw does dim anfanteision i astudio gradd ôl-raddedig. Os nad wyt ti’n siŵr o’r hyn rwyt eisiau ei wneud, gall hyn dy helpu i finiogi dy drywydd gyrfa a sianelu dy egni i elfen a maes penodol.” abertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr/aneirin-karadog.php KATE MCMURDO, Ymarfer Cyfreithiol LLM a Drafftio Uwch. Dosbarth 2019. YMGYRCH HAWLIAU ANABLEDD, GWEITHREDWRAIG ADDYSG, GORUCHWYLIAETH. “Os oeddwn i am newid pethau a herio’r system mewn gwirionedd, sylweddolais i fod angen i mi ddeall y gyfraith a bod yn rhan o’r newid roeddwn i eisiau ei weld. Taswn i’n hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr, roeddwn i’n meddwl efallai y gallwn i eirioli dros deuluoedd sy’n wynebu anghyfiawnder a gwahaniaethu. abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/kate-mcmurdo

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr Gweler mwy o storïau cyn-fyfyrwyr ar ein gwefan:

25

ABERTAWE A’R

AR GARREG Y DRWS Ar benrhyn Gŵyr, cei lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond 30 munud i ffwrdd yn unig yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gen ti dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. Y MWMBWLS Man geni Catherine Zeta-Jones, mae pentref pert y Mwmbwls yn cynnig amrywiaeth wych o siopau, caffis, bariau gwin, tafarnau a bwytai. Cer am dro a mwynhau hufen iâ yn un o’r parlyrau niferus ar hyd y promenâd, neu beth am alw yn un o’r bwytai a chaffis glan môr newydd â golygfeydd dros Fae Abertawe. SIOPA Gelli ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gelli ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu fachu bargen ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas.

26

Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau’n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad

o dros 5,000 o arteffactau o’r Hen Aifft. DIWYLLIANT

Bannau Brycheiniog, Cymru

CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chei di ddim dy siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas! Mae gan Abertawe amrywiaeth enfawr o leoliadau cerddoriaeth ac mae nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn. Agorodd Arena newydd Abertawe gyda lle i 3,500 o bobl ym mis Mawrth 2022 a bydd yn cynnal amrywiaeth o berfformiadau cerddorol, comedi, theatr ac e-chwaraeon. ADLONIANT

Dwi wrth fy modd gyda marchnad dda ac wrth lwc, dwi’n byw yn Uplands sydd â marchnad fisol, lle mae tyfwyr, cynhyrchwyr, ffermwyr ac arlwywyr lleol yn gwerthu eu nwyddau. Mae hon yn farchnad fach hyfryd, felly os wyt yn dwlu ar fwyd a phethau tlws fel fi, mae’n werth ymweld â hi! Joanna Wolton, myfyriwr PhD

CARTREF I DYLAN THOMAS Mae gan y ddinas ger y lli ei llais barddonol ei hun. Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gelli di ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau.

27

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32 Page 33 Page 34 Page 35 Page 36 Page 37 Page 38 Page 39 Page 40 Page 41 Page 42 Page 43 Page 44 Page 45 Page 46 Page 47 Page 48 Page 49 Page 50 Page 51 Page 52 Page 53 Page 54 Page 55 Page 56 Page 57 Page 58 Page 59 Page 60 Page 61 Page 62 Page 63 Page 64 Page 65 Page 66 Page 67 Page 68 Page 69 Page 70 Page 71 Page 72 Page 73 Page 74 Page 75 Page 76 Page 77 Page 78 Page 79 Page 80 Page 81 Page 82 Page 83 Page 84 Page 85 Page 86 Page 87 Page 88 Page 89 Page 90 Page 91 Page 92 Page 93 Page 94 Page 95 Page 96 Page 97 Page 98 Page 99 Page 100 Page 101 Page 102 Page 103 Page 104 Page 105 Page 106 Page 107 Page 108 Page 109 Page 110 Page 111 Page 112 Page 113 Page 114 Page 115 Page 116 Page 117 Page 118 Page 119 Page 120 Page 121 Page 122 Page 123 Page 124 Page 125 Page 126 Page 127 Page 128 Page 129 Page 130 Page 131 Page 132 Page 133 Page 134 Page 135 Page 136 Page 137 Page 138 Page 139 Page 140 Page 141 Page 142 Page 143 Page 144

Made with FlippingBook flipbook maker