Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

ECONOMEG CAMPWS SINGLETON

YN Y BYD (QS World Rankings 2022) ECONOMEG 500

RHAGLENNI YMCHWIL

• Economeg PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig wedi'u llywio gan y diweddaraf o ran ymchwil ac arloesi. • Mae ein hamgylchedd ymchwil astudiaethau busnes a rheoli (gan gynnwys economeg) yn cael ei raddio fel 100% ffafriol i gynnal ymchwil sy'n rhagorol yn rhyngwladol neu'n arwain y byd (REF 2021). HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Cyfrifiadureg, MSc • Dadansoddeg Ariannol, MSc • Dulliau Ymchwil Cymdeithasol, MSc • Gwleidyddiaeth, MA • Gwyddor Actiwaraidd, MSc • Polisi Cyhoeddus, MA • Polisi Cyhoeddus (Estynedig), MA • Technoleg Ariannol (FinTech), MSc CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Economeg MSc ALl

• Economeg a Chyllid MSc ALl

Mae ein cyrsiau MSc mewn economeg wedi'u dylunio i dy baratoi ar gyfer gyrfa mewn llywodraeth neu fusnes, fel economegydd, neu ar gyfer PhD mewn economeg neu yrfa sy'n canolbwyntio ar ymchwil. Ym myd busnes, mae economeg yn helpu i ddarparu dealltwriaeth o gymhellion ac ymddygiad cwsmeriaid, cyflenwyr, cystadleuwyr, cyflogwyr ac arianwyr. Mae'n hollbwysig wrth lywio penderfyniadau strategol a gweithredol rheolwyr a chyfarwyddwyr. Byddi di’n cael dy addysgu gan arweinwyr byd diwydiant ac arbenigwyr ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cymorth eithriadol i fyfyrwyr, tîm cyflogadwyedd pwrpasol a chysylltiadau cryf â sefydliadau proffil uchel. • Graddau a addysgir a graddau ymchwil arbenigol.

• Addysgir pob modiwl gan ein cyfadran o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth helaeth am fyd diwydiant a'r byd academaidd. • Cyfleusterau gwych sy'n cynnwys gofod addysgu ac ardaloedd astudio pwrpasol, a chyfleusterau TG helaeth gyda meddalwedd arbenigol.

79

Made with FlippingBook flipbook maker