Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MEDDYLIAU MAWR

PENNAETH ADRAN: YMCHWILYDD BLAENLLAW AR NEWID CYFLYM YN YR HINSAWDD Mae Siwan Davies yn Athro mewn Daearyddiaeth ac mae hi’n astudio lludw folcanig i ddatblygu ein dealltwriaeth o newidiadau sydyn yn ein hinsawdd

Dywedodd yr Athro Davies: “Mae hwn yn gwestiwn o bwys yng ngwyddorau’r hinsawdd a gall fy ngwaith ar ronynnau o lwch microsgopig ddarparu’r atebion. Mae’r gwaith yn gyffrous ond yn heriol hefyd ac rwy’n dwlu arno. Mae hefyd yn gyffrous iawn arwain ac ysbrydoli tîm o ymchwilwyr tuag at ein nodau gwyddonol.” Mae’r Athro Davies hefyd yn cyflwyno ei gwaith i’r cyhoedd ac yn gyflwynydd cyfres ddogfen hynod lwyddiannus ar S4C sef “Her yr Hinsawdd”. Teithiodd ledled y byd er mwyn rhannu profiadau cymunedau sydd eisoes yn teimlo effaith newid yn yr hinsawdd a’u hymateb nhw i heriau’r dyfodol. Ar ben hyn, mae’r Athro Davies hefyd yn cyfrannu at addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe a ledled Cymru ac yn ymwneud â gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

dros y canrifoedd. Mae hi’n wyddonydd arloesol ac wedi derbyn Gwobr Philip Leverhulme (2011) a Chronfa Lyell (2013). Mae hi hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Magwyd yr Athro Davies yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ac ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Rhydychen, cwblhaodd radd Meistr a PhD yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain yn 2002. Yn dilyn penodiadau ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Stockholm a Phrifysgol Copenhagen, ymunodd â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd yn 2004 a chamodd ymlaen yn ei gyrfa academaidd yn gyflym, gan dderbyn Cadair Bersonol yn 2012. Mae ei hymchwil wedi sicrhau cyllid gan NERC, Ymddiriedolaeth Leverhulme a Chyngor Ymchwil Ewrop (ERC) ac mae hi bellach yn arwain tîm o ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr PhD. Nod prosiect TRACE, a ariennir gan yr ERC, yw defnyddio haenau o lwch folcanig yng nghreiddiau iâ’r Ynys Las a chofnodion morol Gogledd yr Iwerydd i asesu a wnaeth yr atmosffer neu’r cefnforoedd wthio newid yn yr hinsawdd yn hemisffer y gogledd yn y gorffennol.

CYLLID Mae’r Brifysgol a Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Mae fy ngwaith ar ronynnau lludw microscopig yn gyffrous ond hefyd yn heriol a dwi wrth fy modd yn ei wneud. Mae hefyd yn wefr arwain ac ysbrydoli tîm o ymchwilwyr tuag at ein nodau gwyddonol.

78

Made with FlippingBook flipbook maker