Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MSc Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd

Dewisais astudio MSc mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd oherwydd yr amryw o gyfleoedd gyrfa y byddwn yn eu hennill a’r set sgiliau eang y byddwn i’n ei chyflawni o’i hastudio. Mae’r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ac yn caniatáu i mi arbenigo yn fy hoff agweddau o ddaearyddiaeth yn ogystal â galluogi’r defnydd o feddalwedd gymhleth fel arcGIS, sy’n sgìl y mae cyflogwyr yn gofyn amdano’n benodol. Fe wnes i astudio Daearyddiaeth ar lefel israddedig ym Mhrifysgol Abertawe gyda phwyslais ar ddaearyddiaeth ddynol. Mae Abertawe yn brifysgol wych oherwydd y lleoliad ger y môr ac mae hi mor agos at y Gŵyr. Ar ben hyn mae yna deimlad o gymuned yn deillio o fod yn brifysgol campws. Fe benderfynais i barhau gyda fy astudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe er mwyn parhau i dderbyn cymorth i astudio yn y Gymraeg ac i brofi’r lleoliad hardd am flwyddyn ychwanegol.

Y peth rwy’n ei fwynhau mwyaf am y cwrs yw’r amrywiaeth o bynciau a’r sbectrwm eang o wybodaeth fanwl y mae’r modiwlau’n ei ddarparu. Mae astudio newid yn yr hinsawdd yn fwy perthnasol nawr nag erioed, ac mae yna gyflenwad diddiwedd o wybodaeth a data ffres ar gael sy’n gwneud y cwrs yn un hynod o gyfredol ar hyn o’r bryd. Mae astudio yn y Gymraeg yn ddewis naturiol i mi. Roedd cyflawni fy nhraethawd estynedig yn y Gymraeg yn broses bleserus a syml. Byddaf yn derbyn Bwrsari Llywodraeth Cymru gwerth £1,000 am ddilyn elfen o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y dyfodol dwi’n gobeithio parhau i weithio ym maes ymchwil, yn enwedig ymchwil amgylcheddol, neu efallai rhyw fath o swydd ymgynghori amgylcheddol. Dwi’n gobeithio dod o hyd i swydd yng Nghymru er mwyn parhau gweithio trwy’r iaith Gymraeg.

Mae astudio newid yn yr hinsawdd yn fwy perthnasol nawr nag erioed, ac mae yna gyflenwad diddiwedd o wybodaeth a data ffres ar gael sy’n gwneud y cwrs yn un hynod o gyfredol ar hyn o’r bryd.



MEDDYLIAU MAWR gweler y dudalen nesaf

77

Made with FlippingBook flipbook maker