Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

FFISEG CAMPWS SINGLETON

CYHOEDDIADAU YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSTYRIR BOD 100 %

RHAGLENNI YMCHWIL

• Ffiseg Ddamcaniaethol MSc drwy Ymchwil ALl • Ffiseg Gymhwysol a Defnyddiau MSc drwy Ymchwil ALl

• Ffiseg PhD/MPhil ALl • Ffiseg Arbrofol MSc drwy Ymchwil ALl

PAM ABERTAWE? • Mae 97% o’n cyhoeddiadau ar draws Ffiseg Arbrofol, Gymhwysol a Damcaniaethol wedi’u dyfarnu’n ‘arwain y byd’ ac yn ‘rhagorol yn rhyngwladol’ (REF 2021). • Mae’r Athro Lyn Evans, sy’n arweinydd y prosiect Gwrthdaro Hadronau Mawr yn CERN yn un o gyn-fyfyrwyr Ffiseg nodedig Abertawe. • Mae’r Athro Higgs Boson, sef enillydd y Wobr Nobel am Ffiseg, a wnaeth gynnig y gronynnyn Boson, yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ganddo gysylltiadau agos â’n hadran. • Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnwys: pelydr positron ynni isel gydag offeryniaeth bwrpasol er mwyn astudio positroniwm; systemau tonnau parhaus a laserau â phwls; microsgopau optegol maes agos ac electron twnelu sganio; Microsgop Raman; Clwstwr paralel CPU; a’r uwch-gyfrifiadur ‘Blue C’ a adeiladwyd gan IBM. • Mae gennym ni enghreifftiau o fyfyrwyr sy’n astudio yn CERN neu’n ennill interniaethau ymchwil yn yr adran a’n cyrsiau arbenigol sy’n estyn myfyrwyr i ddeall galwadau ymchwil – p’un ai bod hynny’n ffiseg neu’n ddisgyblaethau sy’n perthyn i’w gilydd.

Mae ein hadran yn cynnal gwaith ymchwil mewn ffiseg arbrofol, gymhwysol a damcaniaethol. Mae ein gwaith yn cael ei gefnogi gan grantiau gan EPSRC, STFC, yr UE, y Gymdeithas Frenhinol, CCAUC a sawl ffynhonnell ddiwydiannol, elusennol a llywodraethol. Mae’r rhaglen newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn canolbwyntio ar ffiseg deunyddiau uwch gydag ynni wedi’i integreiddio ar gyfer cymwysiadau mewn optoelectroneg a bioelectroneg. Mae ein meysydd o arbenigedd yn cynnwys lled-ddargludyddion cenhedlaeth nesaf, deunyddiau electronig-ïonig dargludo hybrid, ffotoddatgelu ac ynni solar.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Rydym ni’n cynnig cwricwlwm sy’n seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil ein harbenigwyr rhyngwladol-flaenllaw ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil, gan gynnwys ffiseg ronynnol a chosmoleg; ffiseg gymhwysol a deunyddiau; a ffiseg atomig, foleciwlaidd a chwantwm. • Caiff prosiectau eu llywio drwy gyfranogiad mewn gweithgareddau megis seminarau, gweithdai, gweithgareddau labordy a gwaith maes, yn ogystal â dy gyfranogiad yn un o’n grwpiau ymchwil sefydledig.

• Mae natur fyd-eang yr ymchwil yn golygu bod gennym ni gysylltiadau a chydweithwyr byd-eang, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau graddfa fawr megis CERN. • Mae aelodau o staff yn arwain cydweithrediad ALPHA yn CERN, gyda’r nod o greu, dal a defnyddio gwrth-hydrogen.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg PGCert

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 44

80

Made with FlippingBook flipbook maker