Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PhD Ffiseg – Gradd Gyfun Ar Y Cyd ag Université Grenoble Alpes Grŵp Ymchwil Ffiseg Gymhwysol a Deunyddiau

Rwy’n fyfyriwr PhD yn yr Adran Ffiseg ac yn gynrychiolydd myfyrwyr ar y rhaglen Abertawe- Grenoble Co-tutelle. Rwy’n gwneud gradd gyfun ar y cyd gydag Université Grenoble Alpes sy’n cynnwys treulio 18 mis yn Abertawe ac 18 mis yn Grenoble. Ffocws fy ymchwil yw deall deunydd biogydnaws newydd sydd wedi’i seilio ar brotein, o’r enw Ubx, y gellir ei ddefnyddio mewn dyfeisiau wedi’u mewnblannu er mwyn adnewyddu meinwe. Hynny yw, gellir defnyddio’r deunydd hwn i adnewyddu meinwe sydd wedi’i niweidio, megis yn y galon yn dilyn trawiad ar y galon. Yn rhyfeddol, flynyddoedd yn ôl, darganfuwyd y protein hwn drwy ddamwain gan fy mentor gwyddonol. Ffurfiodd deunydd pan na chafodd

colofn ei glanhau tan y diwrnod nesaf. Weithiau, gall damweiniau arwain at ddarganfyddiadau o bwys. A dweud y gwir, dau labordy’n unig yn y byd sy’n gallu creu'r protein sy’n rhan o’r broses o greu'r deunydd hwn yn effeithiol ac mewn sympiau mawr, ac un o’r labordai hyn yw Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe. Rwy’n falch iawn ac yn gyffrous i fod yn rhan o’r tîm hwn, i gyfrannu at ddarganfyddiadau newydd a datblygu potensial y deunydd diddorol hwn. Mae’r Adran Ffiseg yn darparu amgylchedd gweithio dynamig, ysgogol ac amlddiwylliannol ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau newydd a galluoedd arwain ac rwy’n hapus iawn y dewisais i ddod yma i wneud fy PhD.

Mae’r Adran Ffiseg yn darparu amgylchedd gweithio dynamig, ysgogol ac amlddiwylliannol ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau newydd a galluoedd arwain.

81

Made with FlippingBook flipbook maker