Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

YN Y DU 15

ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD CAMPWS SINGLETON

ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD

RHAGLENNI YMCHWIL

(Complete University Guide 2023) ¨

• Astudiaethau Americanaidd MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

Astudiaethau Americanaidd yw ymchwiliad amlddisgyblaethol i faterion yr Unol Daleithiau, gan gynnwys hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a ffilm. Mae'r rhaglenni MA drwy Ymchwil, MPhil neu PhD yn rhoi cyfle i ti astudio themâu eang megis mewnfudo, democratiaeth, caethwasiaeth, imperialaeth, amlddiwylliannaeth, hil ac ethnigrwydd, hanes trefol, yr economi a therfysgaeth. Nid materion y gorffennol yn unig yw'r rhain – maent yn berthnasol yn uniongyrchol i'r byd rydym yn byw ynddo.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Cysylltiadau Rhyngwladol, MA • Gwleidyddiaeth, MA • Hanes, MA • Hanes, MA drwy Ymchwil/ PhD/MPhil • Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth, MA • Hanes Modern, MA Singleton, byddi di'n gallu mwynhau bywyd campws i'r eithaf, gan elwa o amrywiaeth eang o wasanaethau, gweithgareddau a chlybiau – i gyd mewn lleoliad hyfryd ar lan y môr, yn agos at ganol dinas fywiog a hanesyddol. PAM ABERTAWE? • Cei di fynediad at ein casgliadau llyfrgell helaeth i gefnogi dy anghenion ymchwil. Mae hyn yn cynnwys Casgliad Allan Milne o dros 3,000 o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd mewn perthynas â Rhyfel Cartref America – un o'r casgliadau mwyaf o'i fath yn y DU. • Bydd ein Canolfan Ymchwil Ôl-raddedig yn dy gefnogi drwy dy ddatblygiad academaidd a phroffesiynol. Byddi di'n cael manteisio ar fannau astudio dynodedig â chyfleusterau TG a chei dy annog i fod yn rhan o'n cymuned ymchwil fywiog. • Gan astudio ar gampws Parc

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Prifysgol Abertawe yw'r ganolfan Astudiaethau Americanaidd fwyaf blaenllaw yng Nghymru, sy’n cydweithredu â nifer o brifysgolion ledled yr Unol Daleithiau ar brosiectau ymchwil, yn ogystal â chynnig rhaglen lawn o siaradwyr gwadd. • Ar raglen MA drwy Ymchwil, PhD neu MPhil mewn Astudiaethau Americanaidd, gall myfyrwyr ymgymryd â phrosiect sylweddol mewn meysydd maent yn angerddol amdanynt. Mae ein staff academaidd yn ysgrifennu ac yn cyhoeddi'n eang a gallant gefnogi myfyrwyr ar draws amrywiaeth helaeth o ddiddordebau mewn amgylchedd ymchwil deinamig.

• Byddi d'n astudio amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil, gan gynnwys llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a llywodraeth, ffilm a diwylliant America. • Gall raglen MA drwy Ymchwil, PhD neu MPhil mewn Astudiaethau Americanaidd, arwain at yrfa yn y byd academaidd, mewn addysg, llywodraeth neu yn y sector preifat.

• Rhyfel a Chymdeithas, MA • Rhyfel a Chymdeithas, MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

¨ Safleoedd sy’n benodol i israddedigion sy’n cynnwys asesu ansawdd ymchwil sefydliad.

60

Made with FlippingBook flipbook maker